Wrth i'r cyfyngiadau ar gyfer chwaraeon gwylwyr awyr agored symud i lefel rhybudd sero y penwythnos hwn, mae cam cyntaf Cronfa Chwaraeon Gwylwyr gwerth £3 miliwn Llywodraeth Cymru bellach yn cael ei dyrannu, yn ôl y Dirprwy Weinidog Dros y Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden.
Pan gyhoeddodd y Gweinidogion gyfyngiadau lefel rhybudd dau ar 21 Rhagfyr i fynd i'r afael ag amrywiolyn Omicron yng Nghymru, a oedd yn cynnwys chwaraeon y tu ôl i ddrysau caeedig o 26 Rhagfyr, cyhoeddwyd Cronfa Chwaraeon Gwylwyr gwerth £3 miliwn ar yr un pryd i gefnogi'r sector.
Mae'r cam cyntaf, sy'n cwmpasu'r cyfnod rhwng 26 Rhagfyr a 9 Ionawr, bellach yn cael ei ddyrannu. Mae'n darparu cyllid o fwy na £1 miliwn i gemau pêl-droed, rygbi'r undeb a hoci iâ sydd wedi digwydd dros y cyfnod hwnnw a thri chyfarfod rasio ceffylau.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog:
"Roedd lledaeniad yr amrywiolyn Omicron dros y Nadolig yn golygu bod yn rhaid cyflwyno mesurau i gadw Cymru'n ddiogel, a oedd yn cynnwys digwyddiadau chwaraeon y tu ôl i ddrysau caeedig. Wrth gwrs, yr oedd hyn yn siom i lawer, ond yr oeddem yn gobeithio cael torfeydd yn ôl cyn gynted ag yr oedd yn ddiogel gwneud hynny.
"Gyda gwella data iechyd y cyhoedd, mae gennym bellach yr hyder i gael pawb yn ôl i fwynhau eu hoff chwaraeon unwaith eto.
"Drwy gydol y pandemig, effeithiwyd yn ddifrifol ar chwaraeon, a dyna pam y gwnaethom weithredu'n gyflym i ddarparu'r Gronfa Chwaraeon Gwylwyr i'r chwaraeon a fyddai'n dioddef o ran refeniw o ganlyniad i fesurau lefel rhybudd 2. Dwi'n falch bod yr arian hwn bellach yn cael ei ddyrannu a bydd yn helpu clybiau a lleoliadau i oroesi'r gaeaf anodd, gan eu bod hefyd yn croesawu torfeydd yn ôl am y tro cyntaf eleni.
Dywedodd Phil Bell, Cyfarwyddwr Gweithredol Cae Ras Cas-gwent a Ffos Las:
"Rydym yn hynod ddiolchgar bod Llywodraeth Cymru wedi cydnabod yr effaith ariannol sylweddol a deimlir gan ein busnes oherwydd diffyg gwylwyr yn ein digwyddiadau ym mis Rhagfyr a mis Ionawr, yn fwyaf nodedig y Coral Welsh Grand National pan oedd disgwyl i fwy na 10,000 mynuchu. Dyma'r cyfarfod mwyaf yn ein calendr ac mae'n amlwg yn bwysig iawn o ran refeniw. Hoffem ddiolch i Lywodraeth Cymru am eu cefnogaeth.
Dywedodd Todd Kelman, Prif Swyddog Gweithredol Devils Caerdydd:
"Heb y gefnogaeth hon gan Lywodraeth Cymru, byddem allan o fusnes. Mae'r cyllid hwn yn ein galluogi i fynd drwy gyfnod anodd i Gymru a dilyn y canllawiau i gadw pobl yn ddiogel. Hoffwn ddiolch i Lywodraeth Cymru am sicrhau goroesiad ein tîm a'r chwaraeon proffesiynol eraill sydd hefyd wedi cael eu heffeithio.
Bydd ail gam y gronfa £3 miliwn yn cael ei dyrannu i gemau a chyfarfodydd rasio eraill a gynhelir rhwng 10 Ionawr a 20 Ionawr a gemau dan do tan 28 Ionawr.