Cymorth i Brynu - Cymru: canllawiau ar eiddo sydd wedi’u heffeithio gan gladin allanol
Dylai priswyr RICS ddarllen y nodiadau hyn cyn iddynt wneud prisiad marchnad ar eiddo lle mae Morgais Ecwiti Cymorth i Brynu Cymru yn ei le.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Rydych yn derbyn y nodiadau canllaw hyn gan fod ein cwsmer cydfuddiannol wedi eich enwebu i gwblhau prisiad marchnad o eiddo y mae ein Morgais Ecwiti wedi’i warantu yn ei erbyn.
Mae'n ofynnol i chi ddarparu gwerth marchnad cyfredol (a sefydlwyd yn unol â safonau prisio RICS cyfredol) yr eiddo ac i gymryd i ystyriaeth bodolaeth unrhyw gladin allanol.
O dan delerau'r Morgais Ecwiti mae ein cwsmer wedi gwneud apwyntiad er mwyn sefydlu gwerth marchnad yr eiddo ar hyn o bryd.
Cymwysterau
Rhaid i chi fod yn syrfëwr cymwysedig RICs gydag o leiaf 10 mlynedd o brofiad, yn arbenigo mewn prisio eiddo preswyl o fewn cyffiniau'r eiddo sydd i'w brisio.
Dogfennau Angenrheidiol
Cyn eich prisiad, rhaid i chi gael y dogfennau canlynol gan y cwsmer:
- Copi o Ffurflen EWS1 wedi'i chwblhau (os yw ar gael);
- Os yw'r eiddo o fath fflat, copi o brydles y cwsmer;
- Unrhyw amcangyfrifon y mae'r cwsmer wedi'u derbyn ynghylch costau unrhyw waith adfer;
- Tystiolaeth o swm y gronfa ad-dalu tâl gwasanaeth;
- Unrhyw ddogfennau mewn perthynas â derbyn hawliad yswiriant adeiladau neu warant adeiladu; ac
- Unrhyw ddogfennau mewn perthynas ag unrhyw drydydd parti (fel y datblygwr gwreiddiol) sy’n cytuno i dalu am gostau’r gwaith adfer.
Sail y Prisiad
Mae'n ofynnol i chi ddarparu gwerth marchnad cyfredol (a sefydlwyd yn unol â safonau prisio cyfredol RICS) o’r eiddo ac i gymryd i ystyriaeth bodolaeth unrhyw gladin allanol.
Wrth gynhyrchu eich prisiad, rhaid i chi ystyried bodolaeth unrhyw gladin allanol a'r Dogfennau Gofynnol (fel y disgrifir uchod) a'u heffaith ar werth marchnad yr eiddo.
Rhaid i chi hefyd ystyried:
- costau amcangyfrifedig unrhyw waith adfer, ond dim ond mewn achosion lle mae'r costau adfer wedi'u pennu gan Aseswr Risg Tân (ARA);
- cyfrifoldeb am y costau hyn, lle mae hyn eisoes wedi'i ddiffinio;
- a yw unrhyw hawliad am y gwaith adfer wedi'i dderbyn;
- a yw'r cyllid gofynnol eisoes ar gael yn y gronfa ad-dalu tâl gwasanaeth.
Yr Adroddiad Prisio
Rhaid i chi archwilio tu mewn yr eiddo a darparu adroddiad prisio llawn. Rhaid i hyn gynnwys:
- Gwerth marchnad (nid at ddibenion morgais)
- Enw(au) cwsmer(iaid)
- Cyfeiriad llawn yr eiddo
- Dyddiad archwilio
- Gwerthiant 3 eiddo tebyg o fewn yr ardal cod post o fewn y 6 mis diwethaf, ar sail tebyg am debyg o ran: math o eiddo, maint ac oedran. Os nad yw hyn yn bosibl, darparwch y gorau sydd ar gael gennych
- o fewn yr adroddiad
Rhaid i’r adroddiad fod:
- Wedi ei llofnodi (mae e-lofnod yn dderbyniol) gan gynnwys Rhif RICS
- Ar bapur pennawd ac wedi'i ddarparu mewn dogfen na ellir ei golygu (PDF)
Ni ddylai fod gwrthdaro buddiannau rhwng unrhyw barti ac mae angen cadarnhau hyn yn yr adroddiad.