Mae Cwnsler Cyffredinol Llywodraeth Cymru wedi gofyn i Lywodraeth y DU gefnogi diwygiadau i gymorth cyfreithiol er mwyn sicrhau y gall pobl gael mynediad at y cymorth sydd ei angen arnynt.
Dywedodd Mick Antoniw y gallai toriadau i’r gyllideb dros y degawd diwethaf fod wedi arwain at un gyfraith i bobl gyfoethog ac un arall i bobl dlawd.
Gwnaeth yr Adolygiad Annibynnol o Gymorth Cyfreithiol Troseddol, a gadeiriwyd gan Syr Christopher Bellamy CF, argymhelliad canolog bod angen o leiaf £135 miliwn ychwanegol o gyllid bob blwyddyn i sicrhau bod gan y proffesiwn cymorth cyfreithiol ddigon o adnoddau.
Amcangyfrifodd yr adolygiad fod tua 56% o bobl dan amheuaeth a arestiwyd wedi gofyn am gyngor cyfreithiol am ddim, a mynegodd bryder nad oedd y nifer sy’n cael cyngor cyfreithiol yn uwch.
Gan gyfeirio at yr enghreifftiau o reolwyr swyddfa bost a gafwyd yn euog ar gam yn sgandal Post Office Horizon, a’r diffyg cymorth cyfreithiol oedd ar gael i deuluoedd dioddefwyr trychineb Hillsborough, dywedodd y Cwnsler Cyffredinol yn y Senedd:
“Mae unigolion sy’n wynebu erlyniad troseddol, a charchariad, yn ofni y gallai costau ariannol amddiffyn eu hunain eu gwneud yn fethdalwyr hyd yn oed os byddant yn llwyddiannus.
“Mae hyn yn golygu efallai mai’r unig opsiwn y gallan nhw ei ddewis yn rhesymegol yw pledio’n euog i drosedd nad ydyn nhw wedi’i chyflawni, fel bod eu cartrefi a’u hasedau eraill yn cael eu hamddiffyn er budd eu teuluoedd.”
Ychwanegodd:
“Rydym yn cytuno’n llawn ag argymhelliad canolog yr adolygiad, sef bod angen £135 miliwn ychwanegol o gyllid bob blwyddyn er mwyn cefnogi cymorth cyfreithiol troseddol. Rydym yn dadlau nad oes gan gymorth cyfreithiol sifil gyllid digonol yn yr un modd.
“Mae’n hollbwysig bod Llywodraeth y DU yn cyflwyno'r diwygiadau radical sydd eu hangen i sicrhau cydraddoldeb mynediad at gyfiawnder. Dywedodd Is-iarll Simon yn 1948 “ei fod yn athrod anghywir i ddweud bod un gyfraith i bobl gyfoethog ac un arall i bobl dlawd”, ac eto dyma ni a dyma’r hyn sy’n rhaid i ni ei newid.”
Dywedodd Jane Hutt, Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol:
“Mae mynediad at gyfiawnder – yr hawl at gyngor, cynrychiolaeth a chymorth – yn hawl ddynol sylfaenol. Yn ei hanfod, mae cymorth cyfreithiol effeithiol yn ymwneud â grymuso pobl a sicrhau bod gennym i gyd hawliau gwirioneddol mewn cymdeithas. Nid yw’n fater cyfreithiol yn unig ond mae’n fater o gyfiawnder cymdeithasol hefyd, ac mae’r achos dros ddiwygio’n glir.”
Cyhoeddodd y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru adroddiad yn 2019 a nododd bod cyfanswm gwariant cymorth cyfreithiol yng Nghymru a Lloegr wedi gostwng 29% mewn termau real rhwng 2011-12 a 2018-19. Nododd hefyd fod y £36 miliwn a wariwyd ar gymorth cyfreithiol yng Nghymru yn 2018-19 yn cyfateb i £11.50 y pen o’r boblogaeth, a’r ffigur cyfatebol yn Lloegr oedd £15 y pen.
Er nad yw cyfiawnder wedi’i ddatganoli, ac er nad oes ganddi’r adnoddau i helpu’r rhai hynny sy’n cael trafferth cael mynediad at Gymorth Cyfreithiol, mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd camau i roi cymorth i bobl.
Yn y flwyddyn ariannol hon, sicrhawyd bod cyllid gwerth mwy na £10 miliwn ar gael i wasanaethau’r Gronfa Gynghori Sengl yng Nghymru, gan helpu pobl i ddatrys nifer o broblemau lles cymdeithasol ac yn aml maen nhw’n broblemau hirsefydlog. Mae hyn yn cynnwys rhywun i’w cynrychioli mewn llysoedd a thribiwnlysoedd.
Yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf, gwnaeth gwasanaethau’r Gronfa Gynghori Sengl yng Nghymru helpu 127,813 o bobl i ddelio â 286,666 o broblemau lles cymdeithasol.