Cyfarfod y Rhwydwaith Arweinwyr Data Cymru: 2 Tachwedd 2021
Cofnodion cyfarfod y Rhwydwaith Arweinwyr Data Cymru ar 2 Tachwedd 2021.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
1. Yn bresennol
Yn bresennol
- Llywodraeth Cymru - Pennaeth Rhannu Data a Moeseg
- YDG Cymru/SAIL
- Trafnidiaeth Cymru (TrC)
- Llywodraeth Cymru - Pennaeth Ystadegau Gweithlu Ysgolion
- Llywodraeth Cymru - Prif Swyddog Digidol (Cadeirydd)
- Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC)
- Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC)
- Llywodraeth Cymru - Cyfarwyddwr Technoleg, Digidol a Thrawsnewid
- Llywodraeth Cymru - Pennaeth Data a Daearyddiaeth
- Gofal Cymdeithasol Cymru
- Iechyd a Gofal Digidol Cymru (IGDC)
- Llywodraeth Cymru - Pennaeth Polisi a Safonau Data
- Data Cymru
- Prifysgol Caerdydd
- Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC)
- Y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol
Cyflwynwyr/sylwedyddion
- Llywodraeth Cymru
- Gartner
- Iechyd a Gofal Digidol Cymru (IGDC)
- Yr Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon
2. Cylch Gorchwyl Drafft ac aelodaeth arfaethedig
Gofynnwyd i’r cylch gorchwyl gael ei ddiweddaru i ddweud yn benodol y bydd y grŵp yn canolbwyntio ar y defnydd dadansoddol a gweithredol o ddata.
Ac eithrio’r diwygiad hwn, cymeradwywyd y cylch gorchwyl drafft.
Ni chynigiwyd ychwanegiadau na diwygiadau i’r aelodaeth yn ystod y cyfarfod.
3. Cymunedau data
Rhoddodd Data Cymru ddiweddariad ar gynlluniau i sefydlu rhwydwaith o gymunedau data a fydd yn dod â phobl ynghyd ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru i rannu syniadau, heriau, problemau a datrysiadau.
Roedd awgrymiadau ar gyfer cymunedau data posibl gan y rhai a oedd yn bresennol yn cynnwys:
- technoleg data gyffredin
- moeseg data
- cyfathrebu data
- cynwysoldeb data
Cytunodd y grŵp i anfon unrhyw awgrymiadau eraill, ynghyd ag arweinwyr posibl ar gyfer cymunedau penodol, ymlaen i Data Cymru.
4. Diweddariad ar ddata ar gyfer y DU gyfan
Tynnwyd sylw’r rhai a oedd yn bresennol at y darnau canlynol o waith a wneir ar hyn o bryd ar lefel y DU, ac anogwyd hwy, lle bo’n briodol, i ymateb:
- Data: cyfeiriad newydd (GOV.UK)
- Fframwaith monitro a gwerthuso’r Strategaeth Ddata Genedlaethol (GOV.UK)
- Adroddiad y Tasglu Data Cynhwysol: Gadael neb ar ôl – Sut y gallwn fod yn fwy cynhwysol yn ein data? (Awdurdod Ystadegau’r DU)
Cynghorwyd y rhai a oedd yn bresennol i gysylltu â DataReformConsultation@dcms.gov.uk ynghylch unrhyw ymholiadau sydd ganddynt am yr ymgynghoriad ar gyfundrefn diogelu data’r DU.
Amlygwyd pwysigrwydd sicrhau bod ein data yn gynhwysol a chafwyd trafodaeth ynghylch atebion i rai o’r heriau a wynebir wrth gasglu data a sut y gallai cysylltu data ddarparu datrysiad.
5. Dyddiad y cyfarfod nesaf
Bydd y cyfarfod nesaf yn cael ei drefnu ar gyfer mis Ionawr/Chwefror 2022.
6. Unrhyw fater arall
Ar hyn o bryd, cynhelir Dosbarth Meistr Data i Uwch Weision Sifil ledled y DU, sydd wedi’i anelu at uwch arweinwyr heb gefndir data. Mae Llywodraeth Cymru yn cymryd rhan ynddo ac ar hyn o bryd, mae gennym rai lleoedd ar gael y gellir eu cynnig i arweinwyr o gyrff eraill o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru.
7. Crynodeb o gamau gweithredu
Rhif |
Camau |
Perchnogion |
---|---|---|
1.1 |
Diweddaru’r cylch gorchwyl i ddweud yn benodol y bydd y grŵp yn canolbwyntio ar y defnydd dadansoddol a gweithredol o ddata |
Llywodraeth Cymru |
1.2 |
Anfon unrhyw ychwanegiadau a/neu ddiwygiadau dilynol i aelodaeth y grŵp ymlaen i Lywodraeth Cymru |
Pob aelod |
1.3 |
Anfon awgrymiadau ar gyfer cymunedau data posibl ymlaen i: Suzanne.draper@data.cymru |
Pob aelod |
1.4 |
Y rhai a oedd yn bresennol i nodi ac enwebu arweinwyr cymunedau data posibl a’u hanfon ymlaen i: Suzanne.draper@data.cymru |
Pob aelod |
1.5 |
Y rhai a oedd yn bresennol i awgrymu eitemau agenda ar gyfer cyfarfodydd dilynol |
Pob aelod |
1.6 |
Llywodraeth Cymru i greu a chynnal cofnod o eitemau agenda yn y dyfodol |
Llywodraeth Cymru |
1.7 |
Rhannu manylion y Dosbarth Meistr Data â’r rhai a oedd yn bresennol |
Llywodraeth Cymru |
1.8 |
Y rhai a oedd yn bresennol i enwebu cyfranogwyr posibl ar gyfer y Dosbarth Meistr Data |
Pob aelod |