Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles, wedi cyhoeddi mwy na £1 filiwn ar gyfer prosiectau er mwyn annog pobl i ddefnyddio’r Gymraeg yn ehangach.
Fel rhan o’r cyllid, bydd £600,000 yn cael ei roi i’r Eisteddfod Genedlaethol tuag at gynnal y digwyddiad yn 2022 yn Nhregaron. Bydd y cyllid yn cefnogi’r sefydliad i baratoi r gyfer y digwyddiad eleni, sydd am gael ei gynnal rhwng 30 Gorffennaf a 6 Awst. Bydd yn helpu i gyflawni ei nodau o wneud yr Eisteddfod yn agored i gynulleidfa ehangach.
Caiff cyllid hefyd ei ddarparu i’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, ar gyfer prosiectau sy’n cynnwys creu cyrsiau blasu ar-lein i ffoaduriaid a cheiswyr lloches, heb fod angen iddynt fod yn rhugl yn Saesneg. Bydd y Ganolfan, mewn partneriaeth â ‘Say Something in Welsh’, hefyd yn darparu cyrsiau yn yr ieithoedd a siaredir fwyaf gan ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru.
Bydd cyllid hefyd yn cael ei roi i ddarparu cymorth tiwtor ar gyfer cwrs hunan-astudio lefel mynediad i athrawon. Mae 2,700 o bobl wedi cofrestru ar gwrs blasu ar gyfer athrawon ers ei lansiad ym mis Chwefror 2020. Nod y cwrs newydd, sy’n addas ar gyfer athrawon ysgol gynradd ac uwchradd, yw darparu llwybr i addysgwyr proffesiynol gael mynediad at gyrsiau uwch a mwy dwys.
Caiff cyllid hefyd ei ddarparu i 'Rhieni dros Addysg Gymraeg' er mwyn datblygu gwybodaeth am addysg cyfrwng Cymraeg mewn ieithoedd lleiafrifol. Y nod yw cefnogi teuluoedd y mae eu plant yn cael addysg cyfrwng Cymraeg, ond nid Cymraeg na Saesneg yw’r prif ieithoedd sy’n cael eu siarad gartref. Yn ogystal â hyn, y nod yw hyrwyddo addysg cyfrwng Cymraeg ymysg cymunedau ethnig lleiafrifol.
Bydd newidiadau i’n gwasanaeth Helo Blod, sy’n cefnogi busnesau i ddefnyddio mwy o’r Gymraeg. Bydd Helo Blod yn parhau i weithredu ei ‘siop un stop’ yn Busnes Cymru, tra y bydd Helo Blod Lleol yn dod i ben.
Dywedodd Jeremy Miles:
Diben y cyhoeddiad heddiw yw ei gwneud hi’n haws nag erioed defnyddio ein hiaith a’n diwylliant. Rydyn ni yn buddsoddi mewn cyfleoedd i ragor o bobl ddysgu, defnyddio ac addysgu Cymraeg lle bynnag y maen nhw yng Nghymru a beth bynnag yw eu cefndir.
Mae’r Gymraeg yn perthyn i ni gyd, p’un a ydym yn ei siarad neu beidio. Rydyn ni wrth ein boddau i weithio gyda’n partneriaid ar brosiectau mor amrywiol, sydd i gyd yn cefnogi ein nod o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg a dyblu’r defnydd dyddiol o’n hiaith erbyn 2050.