Yfory (dydd Gwener), bydd y Prif Weinidog yn nodi sut y mae Cymru yn bwriadu symud yn ôl i lefel rhybudd sero os bydd y sefyllfa iechyd cyhoeddus yn parhau i wella.
Yn ei gynhadledd i'r wasg, bydd Mark Drakeford yn amlinellu cynllun dros gyfnod o bythefnos i lacio’r cyfyngiadau lefel rhybudd dau sydd wedi bod ar waith ers Gŵyl San Steffan.
Mae Llywodraeth Cymru yn gallu dechrau codi’r mesurau diogelu a roddwyd ar waith mewn ymateb i'r don omicron, diolch i gefnogaeth pobl ym mhob cwr o Gymru a'r ymgyrch atgyfnerthu lwyddiannus – mae dros 1.75 miliwn o bobl wedi cael y dos atgyfnerthu ychwanegol.
Bydd y newid i lefel rhybudd sero yn cael ei gyflwyno'n raddol, gyda chyfyngiadau ar weithgareddau awyr agored yn cael eu dileu yn gyntaf.