Rydym wedi gwella diogelwch, amseroedd teithio a llwybrau teithio llesol.
Trosolwg
Pam wnaethom ni’r gwaith
Mae’r prosiect hwn (sy’n cael ei adnabod yn lleol fel ‘Black Cat’) yn rhan o raglen Cymru gyfan fydd yn:
- gwneud teithiau’n fwy diogel
- ei gwneud yn haws i bobl gerdded neu feicio ar hyd y llwybr
- lleihau’r traffig wrth gyffyrdd
- gwella amseroedd teithio
- gwella ansawdd aer
- lleihau llygredd sŵn
Cafodd y prosiect ei ddylunio i weithio gyda llwybrau trafnidiaeth awdurdodau lleol i gysylltu cymunedau â chanolfannau addysgol, economaidd a diwylliannol pwysig
Amserlen
Cwblhau cam 2 WelTAG amlinellu’r achos busnes a nodi’r opsiwn a ffefrir: gwanwyn 2019
Cam 3 WelTAG achos busnes llawn a dyluniad manwl ar gyfer yr opsiwn a ffefrir: haf 2020
Cam 4 WelTAG adeiladu: gaeaf 2020/21
Cam 5 WelTAG gwireddu buddion ôl-adeiladu: gwanwyn 2021
Beth wnaethom ni
Rydyn ni wedi:
- gwella goleuadau traffig, arwynebau’r ffyrdd a’r draeniad i wneud y ffordd yn fwy diogel ac i leihau amseroedd teithio
- gwella llwybrau beicio a cherdded i’w gwneud hi’n haws a mwy diogel i bobl deithio heb gar
- gwella goleuadau stryd trwy ddefnyddio bylbiau LED sy’n defnyddio dim ond ynni adnewyddadwy
- plannu coed a blodau gwyllt i greu mwy o gynefinoedd a darparu mwy o fwyd i fywyd gwyllt.
Yn y 6 mis ers cwblhau’r gwaith cychwynnol, mae’r buddion wedi cynnwys:
- llai o wrthdrawiadau’n cael eu cofnodi
- 50% o gerbydau’n teithio’n arafach
- llai o giwiau wrth gyffyrdd
- 67% yn fwy o bobl yn defnyddio’r llwybr i deithio ar feic neu ar droed
Darparwyd y prosiect gan Asiant Cefnffyrdd y Gogledd a’r Canolbarth (NMWTRA) ar ran Llywodraeth Cymru. Comisiynwyd ymgynghorwyr a chontractwyr lleol pan roedd hynny’n bosibl.
Sut gwnaethom ni ymgynghori
Cynhaliwyd yr ymgynghoriad cychwynnol yn 2016.
Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus yn hydref 2019.