Gwybodaeth am nifer y tai mewn amlfeddiannaeth (HMO) ac am gyflwr eiddo preswyl a aseswyd gan awdurdodau lleol dan y System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai (HHSRS) ar gyfer Ebrill 2020 i Fawrth 2021.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Peryglon tai
Cafodd pandemig y coronafeirws (COVID-19) a ddechreuodd ym mis Mawrth 2020, a'r mesurau iechyd cyhoeddus dilynol a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, effaith sylweddol ar allu awdurdodau lleol i gynnal arolygiadau System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai yn ystod 2020-21. Yn benodol, cynhaliwyd tipyn llai o arolygiadau yn 2020-21 a, lle'r oedd adnoddau ar gael, canolbwyntiwyd ar safleoedd mewn mwy o berygl.
Prif bwyntiau
Peryglon
- Yn ystod 2020-21, cafodd 1,873 o asesiadau eu cynnal o dan y HHSRS, dim ond traean o’r nifer a gynhaliwyd yn 2018-19.
- Yn 2020-21, cofnodwyd peryglon categori 1 mewn 845 (45%) o’r asesiadau a wnaed.
- Y perygl categori 1 mwyaf cyffredin mewn HMO a thai nad oed yn rhai amlfeddiannaeth oedd ‘Oerfel’,
- Arweiniodd camau gweithredu a gymrwyd gan awdurdodau lleol yn ystod 2020-21 at ddatrys 567 o beryglon Categori 1. Roedd 56 (10%) ohonynt mewn HMO.
Trwyddedau
- Ar 31 Mawrth 2021, roedd 7,229 o HMO trwyddedig; o’r rhain roedd 34% (2,443) o dan trwydded orfodol a 66% (4,786) o dan gynlluniau trwyddedu ychwanegol dewisol.
Adroddiadau
Peryglon mewn tai a thrwyddedau: Ebrill 2020 i Fawrth 2021 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 931 KB
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.tai@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.