Data blynyddol sy'n cynnwys gwybodaeth am nifer yr anheddau a gafodd eu dymchwel yng Nghymru ar gyfer Ebrill 2020 i Fawrth 2021.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Tai a gafodd eu dymchwel
Sylwer bod hwn yn gyfnod y mae pandemig y coronafeirws (COVID-19) yn effeithio arno a allai fod wedi cael rhywfaint o effaith ar y ffigurau a adroddwyd. Oherwydd y pandemig ni chasglwyd data ar gyfer 2019-20.
Gall nifer yr anheddau a ddymchwelir amrywio yn sylweddol o flwyddyn i flwyddyn. Mae’n ddibynnol ar lefel y datblygiad a chlirio o fewn pob awdurdod yn ystod y cyfnod.
Prif bwyntiau
- Yn ystod 2020-21, dymchwelwyd 141 o anheddau ledled Cymru, sef 88% yn fwy na 2018-19.
- Yn y 18 o awdurdodau lleol lle y dymchwelwyd adeiladau, cafwyd y niferoedd mwyaf yng Nghastell-nedd Port Talbot (30), Sir y Fflint (21), Gwynedd (14) a Chaerdydd (13).
- Dymchwelwyd 25 o adeiladau mewn ardaloedd adnewyddu[troednodyn a] yn ystod 2020-21, sy'n cyfrif am 18% o'r holl adeiladau a ddymchwelwyd, sef 21 yn Sir y Fflint a 4 yn Nhorfaen.
- Ni chofnodwyd unrhyw ddymchweliadau mewn ardaloedd clirio[troednodyn b] yng Nghymru ers 2016-17.
Troednodiadau
[a] Mae cynlluniau adnewyddu tai mewn ardaloedd penodol yn galluogi'r awdurdodau lleol i ganolbwyntio ar weithredu a buddsoddi mewn ardaloedd y mae angen cymorth arnynt ac sydd hefyd yn addas i'w hadnewyddu.
[b] Ardaloedd clirio yw ardaloedd lle caiff y tai eu hystyried yn anaddas i bobl fyw ynddynt neu yn beryglus neu'n niweidiol i iechyd y preswylwyr. Mae'r awdurdod lleol yn datgan ardal glirio pan fydd yn fodlon mai'r dull mwyaf addas o ymdrin â'r amodau hyn yw dymchwel yr holl adeiladau yn yr ardal honno.
Nodi
Rydym yn defnyddio’r wybodaeth hon i gyfrifo amcangyfrifon stoc annedd ar gyfer Cymru.
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.tai@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.