Mae Llywodraeth Cymru wedi mynegi “pryderon gwirioneddol” am gynlluniau Llywodraeth y DU i ddisodli’r Ddeddf Hawliau Dynol â Bil Hawliau.
Mae Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a Mick Antoniw, y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad, wedi cyhoeddi datganiad ar y cyd sy’n amlinellu cred Llywodraeth Cymru na ddylid gwanhau hawliau pobl o gwbl.
Mae’r Ddeddf Hawliau Dynol yn gosod safonau gofynnol o ran sut y dylai cyrff cyhoeddus drin pobl. Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi ymgynghoriad sy’n ceisio barn ar y cynlluniau i ddisodli’r Ddeddf.
Dywedodd Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol:
“Mae’r Ddeddf Hawliau Dynol yn amlinellu’r hawliau a’r rhyddid sylfaenol y mae gan bawb yn y DU hawl iddynt. O dan y cynigion diweddaraf, ni fyddai Bil Hawliau newydd yn adlewyrchu rhai o brif egwyddorion a mesurau gwarchod y Ddeddf Hawliau Dynol.
“Rydyn ni wedi datgan yn glir ac yn gyson na fyddwn yn goddef unrhyw gamau i wanhau hawliau. Rhaid i’r Deyrnas Unedig barhau i arwain y ffordd yn y maes hwn. Mae gwarchod a hyrwyddo hawliau dynol yn parhau i fod yn flaenoriaeth i ni a byddem yn gwrthwynebu’n gadarn unrhyw gynigion sy’n bygwth hynny.”
Ychwanegodd Mick Antoniw, y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad:
“Mae gennym bryderon gwirioneddol am gynigion Llywodraeth y Deyrnas Unedig sy’n gwanhau hawliau, er enghraifft atal llys rhag dirymu rhai mathau o is-ddeddfwriaeth y canfyddir eu bod yn anghydnaws â hawliau dynol person. Mae’n ymddangos bod yr ymgynghoriad yn codi cwestiynau pwysig o ran mynediad at y llysoedd, gweithredu’r gyfraith a rôl y llysoedd wrth gymhwyso’r gyfraith mewn perthynas â hawliau dynol.
“Mae yna hefyd fater cyfansoddiadol pwysig yn y fantol. Mae’r Ddeddf Hawliau Dynol yn hanfodol i ddemocratiaeth Cymru; rhaid i ddeddfwriaeth a gaiff ei phasio gan y Senedd fod yn gydnaws â’r Ddeddf, felly ni ddylid cymryd unrhyw gamau na gwneud unrhyw newidiadau heb gytundeb holl ddeddfwrfeydd cenedlaethol y Deyrnas Unedig.”