Gwerthusiad o Brosiectau Arddangos y Goedwig Genedlaethol (crynodeb)
Gwerthusiad o’r prosiectau arddangos sydd wedi’u creu i brofi mecanweithiau cyllido a chyflenwi a gweithio tuag at gyflawni canlyniadau rhaglen y Goedwig Genedlaethol.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Nodau a methodoleg y gwerthusiad
Mae’r papur hwn yn adrodd ar ganfyddiadau gwerthusiad o Brosiectau Arddangos y Goedwig Genedlaethol.
Mae maniffesto’r Prif Weinidog yn ymrwymo i Raglen Coedwig Genedlaethol Cymru sydd â’r nod o greu ecosystem gysylltiedig ar hyd a lled Cymru er mwyn:
- cynyddu nifer y coed sy’n cael eu plannu’n genedlaethol a lleol gan gynnwys coed stryd, perllannau a choetiroedd bach gan gynnwys coedwigoedd bychain
- gwella bioamrywiaeth
- adfer coetiroedd hynafol
- cael mwy o bobl i ymwneud â natur
- dwyn natur a mannau gwyrdd yn nes at y man lle mae pobl yn byw
Ariannwyd y prosiectau Arddangoswyr i ddechrau gan £ 4.5 miliwn yn 2020/2021 i gychwyn ar weithgarwch ar lawr gwlad, a phrofi dulliau ariannu a chyflawni er mwyn llywio cynlluniau ac ariannu i ddatblygu a chyflawni Rhaglen y Goedwig Genedlaethol i’r dyfodol. Yn dilyn dyraniad cychwynnol y cyllid, daeth arian ychwanegol ar gael i hybu cyllid ar gyfer y FIRS.
Cyflawnwyd y prosiectau drwy bedwar cynllun gwahanol:
- Cynllun Adfer y Diwydiant Coedwigaeth: cyfanswm o £2.34 miliwn o gyllid
Ei nod oedd hybu sector coedwigaeth sy’n gryf ac yn tyfu er mwyn cynorthwyo i gyflawni targedau’r Goedwig Genedlaethol drwy gyllid cyfalaf. Roedd hefyd yn ceisio cynorthwyo’r sector, gan gynnwys meithrinfeydd coed, i adfer o effeithiau pandemig Covid-19 gan helpu i ddarparu cyllid i brynu neu ddiweddaru offer, at ddibenion cynaeafu a thrin coed, er mwyn mynd i’r afael â chlefyd coed ynn, sicrhau bod mwy o goed o stoc leol ar gael, a chael mynediad i fannau anghyraeddadwy er mwyn eu gwella. - Cynllun Gwella Coetiroedd Cyfoeth Naturiol Cymru: cyfanswm o £2.1 miliwn o gyllid
Wedi’i leoli yn Llywodraeth Cymru, nod y prosiect hwn oedd gwaredu coed planhigfa o Blanhigfeydd ar Safleoedd Coetir Hynafol a gwaredu Rhywogaethau Estron Goresgynnol gan ganolbwyntio’r un pryd ar wella mynediad i safleoedd. - Cynllun Coetiroedd Cymunedol Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol: cyfanswm cyllid £1 miliwn Cyllid Llywodraeth Cymru gyda £610,000 ychwanegol gan NHLF mewn cyfraniad refeniw
Cynllun grant cyfalaf dwy flynedd ar gyfer sefydliadau di-elw, wedi'i ariannu a'i weinyddu gan y Loteri Genedlaethol mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru. Gan ganolbwyntio ar grantiau cynnwys y gymuned, roeddent yn gallu ymdrin â chaffael tir, cefnogi plannu a / neu reoli gwell i Safon Coedwigaeth y DU a cheisio hyrwyddo mynediad cyhoeddus. - Cadwch Gymru’n Daclus
- Coedwigoedd Bychain: cyfanswm o £140,000 o gyllid
Gyda chymunedau lleol, datblygu a phlannu ardaloedd bach, dwys o goetiroedd tua maint cwrt tennis gyda haenau amrywiol o goed mewn sawl lleoliad sydd heb lawer o fynediad at goetiroedd gan ganolbwyntio ar ôl-ofal dan arweiniad y gymuned. - Cynllun plannu coed: cyfanswm o £60,000 o gyllid
Cyflwyno rhaglen y Goedwig Genedlaethol i 22 o Eco-ysgolion, a hwythau’n plannu hyd at 400 o goed ar y safle neu gerllaw.
- Coedwigoedd Bychain: cyfanswm o £140,000 o gyllid
Comisiynwyd Wavehill ym mis Chwefror 2021 i gynnal gwerthusiad o Brosiectau Arddangos Coedwig Genedlaethol Cymru. Nod y gwerthusiad oedd archwilio’r amcanion lefel uchaf canlynol.
- Archwilio effeithiolrwydd gwahanol fodelau ariannu a dulliau cyflawni.
- Deall sut orau i gynnwys cymunedau amrywiol yn y gwaith o greu Coedwig Genedlaethol Cymru.
- Barnu effeithiolrwydd yr ymgysylltiad â rhanddeiliaid a nodi meysydd i’w gwella.
Roedd y gwerthusiad yn defnyddio dulliau cymysg a chynhaliwyd y gwaith maes rhwng mis Chwefror a mis Mehefin 2021 gan gynnwys:
- datblygu model y Theori Newid
- cyfweliadau ag 11 o reolwyr a staff cyflawni allweddol y cynlluniau ac 14 o reolwyr prosiect a staff cyflawni o Gynllun Coetiroedd Cymunedol Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol (pump), Cynllun Coedwigoedd Bychain Cadwch Gymru’n Daclus (chwech), a Chynllun Gwella Coetiroedd Cyfoeth Naturiol Cymru (tri)
- arolwg ar-lein o blith ymgeiswyr Cynllun Adfer y Diwydiant Coedwigaeth, a ddychwelwyd gan 15 o ymatebwyr llwyddiannus a phump o ymatebwyr aflwyddiannus; ynghyd â’r rhai a oedd yn bresennol (44) yn y tridiau o ddigwyddiad i randdeiliaid, Coedwig Genedlaethol Cymru – Eich Safbwyntiau a’ch Lleisiau
- cyfweliadau lled-strwythuredig â naw o Swyddogion Polisi Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid y diwydiant yn ehangach
- naw astudiaeth achos gwerthusiad prosiect
Prif ganfyddiadau
Effeithiolrwydd cyflawniad y cynlluniau
Cynllun Coetiroedd Cymunedol Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol
Roedd y rheolwyr prosiect yn gyffredinol gadarnhaol ynglŷn â’r cymorth roeddent wedi’i dderbyn gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Yn gyffredinol, roedd y prosiectau llwyddiannus yn dueddol o fod yn brosiectau a oedd yn edrych am arian, yn hytrach na rhai a luniwyd yn benodol ar gyfer y gronfa Coetiroedd Cymunedol. Y mae’n bosibl y dylai mwy o adnoddau gael eu darparu i gynorthwyo prosiectau newydd sy’n dod i’r amlwg.
Roedd pob rheolwr prosiect a gyfwelwyd yn gadarnhaol ynglŷn â chyflawniad eu prosiect, er tarfiadau’r pandemig. Yn gyffredinol, effeithiodd y pandemig lai ar y cynllun hwn nag eraill oherwydd natur ddwy flynedd yr amserlenni. Er hyn, gwnaeth y pandemig effeithio ar y gweithredu a’r cyflawni, yn arbennig yn achos ymgysylltu â’r gymuned, cynnwys gwirfoddolwyr, a chyfathrebu â rhai sydd ag anawsterau o ran allgáu digidol. Er hyn, roedd y rheolwyr prosiect yn gadarnhaol ynglŷn ag ymgysylltu yn y dyfodol.
Ym mis Ionawr 2021, roedd bwrdd y rhaglen yn teimlo mai nifer isel o ymholiadau a ddaeth i law mewn perthynas â’r cynllun Coetiroedd Cymunedol. Fodd bynnag, teimlent fod y prosiectau hynny a ariannwyd yn briodol i’r cynllun. Awgrymwyd y gallai fod mai’r rheswm dros y diddordeb isel hwn oedd y cymhlethdod sydd ynghlwm wrth adfer a chreu coetir, ac y gallai meini prawf y gronfa fod yn edrych yn hynod anodd. Awgrymwyd hyn gan reolwr prosiect prosiectau llwyddiannus, a oedd â phrofiad yn gyffredinol o ymgeisio am arian o’r fath. Credwyd bod angen mwy o gymorth i gynorthwyo prosiectau dan arweiniad cymunedol o ardaloedd amrywiol i gael eu datblygu ac i dderbyn arian. Fodd bynnag, dylid nodi y daethpwyd â Llais-y-Goedwig i mewn yn gynnar yn 2021 i ddarparu cefnogaeth i fynd i'r afael â'r mater hwn.
Meddyliwyd bod yr arian cyfalaf yn unig yn gyfyngol, yn arbennig yr anallu i ariannu rolau rheolwr/cydlynydd prosiect penodedig. Er nad oedd wedi’i ddynodi, roedd cyfraniad Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol o hyd at 30% yn cynnig rhywfaint o gymorth refeniw i’r sawl oedd ei angen. Roedd teimlad clir na allai’r prosiectau a gymeradwywyd fod wedi mynd rhagddynt heb elfen refeniw y Gronfa Dreftadaeth. Nid oedd cynnwys y gymuned yn ofynnol yn benodol, felly roedd y prosiectau’n gwneud hyn i raddau amrywiol.
Roedd heriau eraill yn cynnwys anawsterau wrth ddod o hyd i offer, a baich gweinyddol trwm.
O ran yr amcanion a gyflawnwyd, teimlwyd mai anodd oedd asesu hyn am fod y cyflawni ar gam cynnar. Fodd bynnag, roedd teimladau cadarnhaol ynglŷn â’r cynnydd a wnaed hyd yma. Roedd y rheolwyr prosiect yn falch o’r diddordeb sy’n codi yn y gymuned, ac roedd prosiectau’n ymwneud ag ymgysylltu â chymunedau ac ysgolion wedi’u cynllunio.
Cadwch Gymru’n Daclus, Coedwigoedd Bychain a’r Cynllun Plannu Coed
Roedd safleoedd plannu posibl yn dueddol o gael eu nodi wrth i swyddogion cymunedol Cadwch Gymru’n Daclus gysylltu â rheolwyr prosiect. Roedd yn rhaid i’r rheolwyr prosiect lofnodi cytundeb i gynnal pob safle wedi i’r cyfnod ariannu un flwyddyn ddod i ben. Barnwyd bod hyn yn risg o ran rheoli a chynnal a chadw’r safle yn barhaus. Golygodd y pandemig hefyd fod llai o gyswllt na’r disgwyl rhwng Cadwch Cymru’n Daclus a rheolwyr prosiect.
Yn gyffredinol, ychydig o anawsterau a gafwyd wrth nodi safleoedd plannu. Fodd bynnag, cyfeiriwyd at heriau wrth ddenu cefnogaeth ysgolion, o bosibl am iddynt gael eu gorfodi i gau oherwydd y pandemig. Roedd rheolwyr prosiect yn ystyried bod strwythur a dyluniad penodol y cynllun yn fantais, ond dywedodd rhai nad oedd y prosiect arddangos yn hyblyg i leoliadau unigol.
Roedd yr heriau i gyflawni’r cynllun yn sgil y pandemig yn cynnwys: cyfyngiadau yn golygu bod y flwyddyn yn artiffisial o fyr, staff ar ffyrlo, diffyg ymwneud â’r cynllun a diffyg ysgolion, a mwy o ddibyniaeth ar gontractwyr yn hytrach na gwirfoddolwyr.
Teimlwyd bod y cynllun hwn wedi cyflawni sawl amcan craidd gan gynnwys: creu ardaloedd newydd o goetir i gynnal mwy o fioamrywiaeth; gwneud natur yn fwy hygyrch i bobl a darparu cyfleoedd dysgu. Fodd bynnag, effeithiodd y pandemig yn negyddol ar rai amcanion, megis ymgysylltiad ysgolion â safleoedd Coedwigoedd Bychain.
Er mai’n ddiweddar y cawsant eu cwblhau, mae rhai o brosiectau arddangos y Coedwigoedd Bychain wedi arwain at gynllunio mwy o brosiectau seilwaith gwyrdd.
Cynllun Gwella Coetiroedd Cyfoeth Naturiol Cymru
Roedd dwy elfen i’r cynllun hwn: gwella cadwraeth a gwella mynediad. Yn ôl cyfweliadau â rheolwyr y cynllun a’r prosiectau, roedd hyn yn gysyniad cryf a oedd yn hawdd i’w werthu i rai sy’n paratoi cynigion prosiectau.
Awgrymodd y cyfweliadau gwerthuso ag arweinwyr prosiect Cyfoeth Naturiol Cymru, yn achos cynllun Cyfoeth Naturiol Cymru, nad oedd yr arian ar gael mewn da bryd ac mewn rhai achosion golygodd hyn nad oedd y prosiectau a gynhaliwyd ar eu gorau o ran gwerth, amser, cyllid a chapasiti staff yn gyffredinol.
Anhawster arall oedd y prosesau rheoli ariannol. Dywedodd yr ymatebwyr fod y broses yn rhy fiwrocrataidd ac mai anodd oedd trosglwyddo arian rhwng penawdau’r gyllideb.
Roedd amseru yn achosi anawsterau, am fod yr amserlen i ddyrannu arian yn creu anawsterau yn sgil effeithiau tymhorol, ac am fod y prosiectau arddangos wedi’u llunio i fod yn brosiectau tymor byr. Ystyriwyd mai ymdrechion tymor hwy yw prosiectau Planhigfeydd ar Safleoedd Coetir Hynafol a Rhywogaethau Estron Goresgynnol.
Cafodd y gwaith cyflawni ei oedi yn sgil COVID a thywydd garw. Er y ffactorau uchod a’r amserlen dynn, mae gwaith sylweddol wedi’i wneud. O ran cyflawni yn erbyn yr amcanion, barnwyd ei bod yn rhy gynnar yn y cynllun i nodi a oedd amcanion y cynllun wedi’u cyflawni.
Cynllun Adfer y Diwydiant Coedwigaeth
Roedd llawer o’r ymgeiswyr llwyddiannus yn brofiadol ar weithio gydag amrywiaeth o fuddiannau cymunedol.
Roedd rhywfaint o anghysondeb ynglŷn ag a oedd gwneud cais am yr arian yn beth syml, wrth i rai ymgeiswyr ddweud bod hyn yn heriol ac eraill yn dweud ei fod yn syml. Dywedodd roedd pump o’r 20 ymgeisydd nad oeddent wedi derbyn adborth digonol ynglŷn â pham nad oedd eu cynnig wedi llwyddo. Fodd bynnag, nid oedd yn bosibl gwirio a oedd y sylwadau hyn yn gywir.
Dywedodd mwyafrif prosiectau’r arolwg y gwnaeth eu cynllun redeg yn unol â’r amserlen er gwaethaf ffactorau allanol. O ran cyflawni yn erbyn yr amcanion allweddol, roedd yr ymatebwyr yn teimlo bod Cynllun Adfer y Diwydiant Coedwigaeth wedi cyfrannu at ganlyniadau bioamrywiaeth ac ecosystem a chanlyniadau cymdeithasol ac addysgol.
Cynnwys cymunedau amrywiol
Y dystiolaeth ar draws y cynlluniau oedd bod mwy o waith i’w wneud o hyd i ymgysylltu’r cyhoedd â rhaglen y Goedwig Genedlaethol, ond bod y ffocws ar ymgysylltu cymunedau amrywiol â chynlluniau Coetiroedd Cymunedol, Coedwigoedd Bychain a Phlannu Coed wedi annog mwy o waith ymgysylltu penodol. Gwelwyd rhywfaint o lwyddiannau yng Nghynllun Gwella Coetiroedd Cyfoeth Naturiol Cymru a Chynllun Adfer y Diwydiant Coedwigaeth, er nad oedd hyn yn ffocws penodol o’r cyflawni yno. Mae Coedwigoedd Bychain yn benodol wedi tynnu sylw at enghreifftiau o ymgysylltiad cymunedol a arweiniodd at fuddion go iawn i’r prosiectau hyn.
Dywedodd prosiectau fod diddordeb helaeth yn eu gwaith a bod hynny wedi cynyddu’n nodedig yn dilyn cyfyngiadau’r pandemig a berodd i gymunedau lleol fod hyd yn oed yn fwy ymwybodol o’u coetiroedd lleol am mai’r rhain yn aml oedd y prif fannau lle gallai unigolion ymarfer yn unol â chyfyngiadau’r cyfnod clo. Fodd bynnag, roedd y pandemig wedi cwtogi ar rywfaint o’r gweithgarwch ymgysylltu gan atal gwaith grŵp a gwaith wyneb yn wyneb, a lleihau parodrwydd rhai aelodau’r gymuned i gymryd rhan mewn gweithgareddau ymgynghori, cyflawni a gwirfoddoli. Wrth symud ymlaen, dylai fod yn ofynnol i holl weithgareddau’r prosiectau ymgysylltu â chymunedau amrywiol er mwyn parhau i gynyddu gwybodaeth a dealltwriaeth ac ymgysylltiad â’r rhaglen yn y dyfodol.
Effeithiolrwydd ymgysylltu â rhanddeiliaid
Cafwyd croeso yn eang i’r digwyddiadau a gynhaliwyd i randdeiliaid ym mis Mawrth 2021. Roedd y cyfranogwyr yn eu hystyried yn werthfawr, a denwyd amrywiaeth dda o gyfranogwyr. Roedd cynnal y digwyddiadau’n rhithwir wedi galluogi rhai cyfranogwyr i gymryd rhan pan fyddai dull mwy traddodiadol, ar ffurf cynhadledd mewn lleoliad, wedi golygu y byddai’n anoddach iddynt. Er hyn, roedd y dull rhithwir yma o gynnal y digwyddiadau yn hwyluso llawer llai o weithgareddau rhwydweithio, a dywedodd rhai ymatebwyr bod problemau technolegol wedi effeithio ar y digwyddiad.
Roedd y rhan fwyaf o’r cyfranogwyr a ymatebodd yn croesawu cymysgedd a ffocws y sesiynau ac roedd mwy o ddiddordeb mewn cymryd rhan mewn digwyddiadau tebyg ac mewn clywed am weithgareddau eraill y Goedwig Genedlaethol. Roeddent hefyd yn argymell y rhaglen a’i gweithgareddau i eraill (ffrindiau a pherthnasau) o ganlyniad i hynny. Mae’r canfyddiadau hyn yn awgrymu bod rheswm da dros ymgysylltu mwy â’r rhanddeiliaid ac y byddai hynny’n cael ei groesawu, a dylai hynny ganolbwyntio ar dargedu amrywiaeth hyd yn oed ehangach o gymunedau, efallai drwy ddigwyddiadau wedi’u targedu’n arbennig.
Casgliadau ac argymhellion
Effeithiolrwydd y rhaglen
Mae’r dystiolaeth yn awgrymu bod gan y cynlluniau’r potensial i gyflawni yn erbyn eu canlyniadau. Fodd bynnag, y mae’n rhy gynnar i ddweud yn hyderus y caiff y canlyniadau eu cyflawni, am fod i’r rhaglen orwel hirdymor (hanner can mlynedd), a gallai nifer o ffactorau gwleidyddol, amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd gefnogi neu danseilio eu cyflawniad.
Er yr amrywiaeth drawiadol o ddulliau a ddefnyddiwyd ar draws Cynlluniau Arddangos y Goedwig Genedlaethol fel cyfanwaith – mae pob cynllun yn unigryw yn yr hyn y ceisiodd ei gyflawni a sut i’w gyflawni, ynghyd â’r prosesau gweinyddol ac adrodd sydd ynghlwm wrthynt – mae pob un wedi’i gwtogi gan y cyfyngiadau symud mewn ymateb i bandemig Covid ac wedi wynebu amserlenni cyflawni tynnach yn sgil hynny. Er hyn, mae’r cyflawni wedi parhau, gan sicrhau llwyddiant yn y rhan fwyaf o brosiectau, a bu dyluniad cyffredinol y cynlluniau yn gadarn yn wyneb yr heriau hyn. Fodd bynnag, y mae gwerth mynd ati i fireinio rhai agweddau ar y broses a’r cyflawni ar draws y cynlluniau, gan gynnwys:
- archwilio effeithiolrwydd gwahanol fodelau ariannu a dulliau cyflawni
- sicrhau bod mwy yn gyffredin o ran dulliau ymgeisio, ariannu (gan gynnwys elfennau cyfalaf a refeniw), proses ac ymarfer monitro a gwerthuso, a chynllunio cynaliadwyedd
- datblygu dulliau i alluogi prosiectau i gydweithio ar draws cynlluniau a gweithgareddau i adeiladu rhwydwaith o arbenigedd er mwyn cynorthwyo prosiectau presennol a newydd yn y dyfodol
Cynnwys cymunedau amrywiol
Mae’r ymgysylltiad cymunedol wedi’i gwtogi gan bandemig COVID-19, ond lle’r aeth prosiectau ati i wneud ymdrechion penodol, arweiniodd yr ymgysylltiad hwnnw at effeithiau cadarnhaol, yn arbennig ar draws cynlluniau Coedwigoedd Bychain a Choetiroedd Cymunedol. Mae hyn wedi galluogi cymunedau lleol i ymwneud yn uniongyrchol â chamau ymgynghori, cynllunio a chyflawni’r prosiectau hyn, gan gynyddu lefelau gwirfoddoli a’u galluogi i chwarae rhywfaint o ran yng nghynaliadwyedd y prosiectau.
Mae dal i fod angen sicrhau cysondeb wrth ei gwneud yn ofynnol i gynlluniau a gweithgarwch ganolbwyntio ar ymgysylltu â chymunedau amrywiol ac am fanylion i roi enghreifftiau o’r math o waith y dylai hyn ei gynnwys, a’r canlyniadau sydd i’w disgwyl ohono.
Ymgysylltu â rhanddeiliaid
Derbyniwyd gweithgaredd ymgysylltu â rhanddeiliaid penodol yn gadarnhaol hyd yma ac mae parodrwydd cryf o hyd i'r rhai dan sylw hyd yma gymryd rhan ymhellach yn y dyfodol. Wrth gyrraedd cynulleidfa gymharol amrywiol mae'r dystiolaeth yn dangos mwy o waith i'w wneud ac yn cynnig anogaeth bellach achos bod cynulleidfa barod yno ar gyfer unrhyw weithgaredd yn y maes hwn yn y dyfodol.
Manylion cyswllt
Awduron yr Adroddiad: Charlie Falzon, Simon Tanner a Judith Welford, Wavehill.
Mae’r safbwyntiau a fynegwyd yn yr adroddiad hwn yn perthyn i’r ymchwilwyr ac nid o reidrwydd Llywodraeth Cymru.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:
Aimee Marks
E-bost: ymchwildyfodolcynaliadwy@llyw.cymru
Cyfryngau: 0300 025 8099
Rhif ymchwil cymdeithasol: 4/2022
ISBN digidol: 978-1-80391-513-5