Mark Drakeford AS, Prif Weinidog
Mae'r Cabinet bellach yn cynnal adolygiad wythnosol o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020. Mae hyn mewn ymateb i'r sefyllfa o ran iechyd y cyhoedd sy'n newid yn gyflym ers i’r amrywiolyn Omicron gyrraedd a lledaenu ledled y DU.
Omicron bellach yw'r ffurf amlycaf ar y feirws yng Nghymru ac mae nifer yr achosion yn codi'n sydyn. Mae nifer yr achosion yn llawer uwch nawr nag yr oeddent pan oedd y tonnau blaenorol ar eu hanterth. Mae'r cyfraddau ar eu huchaf ymhlith pobl ifanc 20 i 40 oed, ond rydym hefyd yn gweld cynnydd mewn grwpiau oedran hŷn. Mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos bod mwy na 2,200 o achosion fesul bob 100,000 o bobl ledled Cymru, sy’n cyfateb i tua un person ym mhob 20. Mae hyn yn cyd-fynd â'n gwaith modelu.
Mae'r cynnydd cyflym mewn achosion a achosir gan y don Omicron yn golygu ein bod i gyd yn wynebu mis anodd o'n blaenau. Nid ydym eto wedi gweld effaith lawn yr holl gymysgu a fu dros gyfnod y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd, nac effaith plant yn dychwelyd i ysgolion, a fydd yn dechrau o ddifri o'r wythnos nesaf ymlaen. Rhaid inni fod yn barod i weld nifer yr achosion yn codi hyd yn oed yn uwch, yn union fel sy’n digwydd mewn mannau eraill yn y DU.
Wrth i achosion gynyddu'n sydyn yn y gymuned, mae nifer y bobl sy'n cael eu derbyn i'r ysbyty gyda Covid-19 hefyd yn cynyddu. Mae'r ffigyrau diweddaraf yn dangos bod tua 990 o gleifion Covid-19 yn ein hysbytai – cynnydd o 43% o'i gymharu â'r wythnos diwethaf a'r nifer uchaf ers mis Mawrth diwethaf.
Mae Omicron yn rhoi pwysau sylweddol ar y GIG ar adeg brysuraf y flwyddyn – nid yn unig drwy dderbyniadau cynyddol i'r ysbyty ond hefyd drwy absenoldeb staff. Mae lefelau salwch staff yn codi yn yr un modd mewn gwasanaethau cyhoeddus eraill.
Yn dilyn adolygiad o'r rheoliadau coronafeirws yr wythnos hon, bydd Cymru'n parhau ar lefel rhybudd dau gyda'r mesurau diogelu presennol yn aros yn eu lle am y tro. Byddwn yn parhau i fonitro'r sefyllfa'n ofalus.
Mae'r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau. Pe bai'r aelodau'n dymuno imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ar hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.