Prif Weinidog, Mark Drakeford AS
Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 yn ei gwneud yn ofynnol i adolygu’r mesurau diogelu rhag y coronafeirws bob tair wythnos.
Ers yr adolygiad ffurfiol diwethaf o’r Rheoliadau, mae’r Cabinet wedi dechrau adolygu’n wythnosol mewn ymateb i’r sefyllfa sy’n newid yn gyflym o ran iechyd y cyhoedd ac ymddangosiad yr amrywiolyn Omicron.
Heddiw, mae adolygiad wedi’i gynnal o’r sefyllfa iechyd y cyhoedd dros gyfnod y Nadolig. Mae wedi dirywio yn ystod yr wythnos ddiwethaf wrth i'r don Omicron gyrraedd. Rydym wedi gweld cynnydd amlwg yn nifer yr achosion o coronafeirws – mae'r mwyafrif yn debygol o fod o ganlyniad i amrywiolyn Omicron.
Mae hyn yn debyg i'r sefyllfa ar draws y DU.
Dros y dyddiau diwethaf, rydym wedi gweld y nifer uchaf erioed o heintiau ac mae'r gyfradd o achosion dros saith diwrnod wedi codi i fwy na 1,000 o achosion fesul 100,000 o bobl ledled Cymru.
Mae’r achosion ar eu huchaf ymhlith pobl rhwng 20 a 29 oed a 30 i 39 oed. Rydym hefyd yn dechrau gweld y cyfraddau o achosion yn cynyddu yn y grwpiau oedran hŷn.
Mae'r cyfnodau yn yr ysbyty yn parhau'n is nag yn ystod tonnau blaenorol, ond mae'r rhain hefyd yn dechrau cynyddu. Mae'r defnydd cyffredinol o welyau COVID-19 wedi cynyddu traean dros gyfnod y Nadolig. Mae hwn yn gyfuniad o achosion Omicron a Delta.
Mae’r nifer o gleifion COVID-19 sydd wedi'u cadarnhau yn yr ysbyty hefyd wedi cynyddu i 446 ar 29 Rhagfyr. Mae hyn 49% yn uwch na'r un diwrnod yr wythnos ddiwethaf. Nid ydym wedi gweld cynnydd yn y nifer o gleifion COVID-19 sydd angen gofal critigol.
Mae ymdrechion enfawr wedi’u gwneud i ddarparu brechlynnau atgyfnerthu i bob oedolyn cymwys yn y cyfnod cyn y Nadolig – mae bron i 1.6m o bobl wedi cael brechlyn atgyfnerthu.
Mae'r sylw dwys ar frechu hefyd wedi arwain at gynnydd yn nifer y bobl sy'n dod ymlaen ar gyfer eu brechiad cyntaf a’u hail frechiad ail mis Rhagfyr. Nid yw byth yn rhy hwyr i gael eich brechu yng Nghymru.
Hoffwn gofnodi fy niolch i bawb sydd wedi rhoi e'u hamser dros y Nadolig hwn i helpu i amddiffyn eraill, ac i'r holl bobl, ym mhob rhan o Gymru sydd wedi rhoi blaenoriaeth i gael eu brechlyn hefyd.
Os nad ydych wedi cael eich brechlyn atgyfnerthu eto, rhowch flaenoriaeth i hynny. Dyma'r peth pwysicaf y gallwch ei wneud i amddiffyn eich hun rhag y feirws ofnadwy hwn.
Mae'r galw am brofion PCR a phrofion llif unffordd yn parhau i godi ac mae wedi cyrraedd y lefelau uchaf erioed. Mae gan Gymru stoc sylweddol o brofion llif unffordd, sy'n ddigonol ar gyfer ein hanghenion dros yr wythnosau nesaf.
Mae'r Gweinidog Iechyd wedi cytuno heddiw i fenthyg pedair miliwn yn rhagor o brofion o'r fath i NHS Lloegr, gan ddod â'r cymorth hwnnw sydd o fudd i bawb i 10 miliwn o brofion llif unffordd.
Llywodraeth y DU sy'n parhau i fod yn gyfrifol am ddosbarthu pecynnau prawf llif unffordd i gartrefi a fferyllfeydd ac yr ydym yn gweithio gyda nhw, gan ei fod yn cynyddu capasiti'r system.
Symudodd Cymru i fesurau lefel rhybudd 2 ar Ŵyl San Steffan. Mae sefyllfa iechyd y cyhoedd yn parhau i fod yn gyfnewidiol iawn ac mae cyfnod y Nadolig yn un heriol i gasglu a dadansoddi data.
Yn erbyn y cefndir hwn, canlyniad yr adolygiad yw y byddwn yn parhau â'r trefniadau presennol ar gyfer amddiffynfeydd lefel rhybudd 2 yng Nghymru, tra yn parhau i fonitro'r sefyllfa'n ofalus.
Cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd ddatganiad ysgrifenedig ar 23 Rhagfyr ynghylch lleihau'r cyfnod hunanynysu o 10 i saith diwrnod, ar sail dau brawf llif unffordd negatif i’w cymryd ar ddiwrnodau chwech a saith, o 5 Ionawr.
Byddwn yn cyflwyno'r newid hwn yfory (31 Rhagfyr).
Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i bobl sydd wedi profi'n bositif am COVID-19 hunanynysu am saith diwrnod. Ar ddiwrnodau chwech a saith o'u cyfnod hunanynysu dylent gymryd profion llif unffordd ac os yw'r profion hyn – i’w cymryd 24 awr ar wahân – yn bositif dylent barhau i hunanynysu.
Yr ydym yn cyflwyno'r newid oherwydd bod cydbwysedd y niwed wedi newid ac mae'r nifer cynyddol o achosion wedi dechrau cael effaith ar nifer y bobl, mewn swyddi hanfodol, sydd wedi'u heithrio o'r gweithle oherwydd hunanynysu.
Bydd y Cabinet yn parhau i adolygu'r sefyllfa yng Nghymru yn wythnosol, wrth i ni weld yr amrywiolyn omicron yn cael ei gynnal ledled Cymru. O ystyried difrifoldeb y bygythiad y mae'r feirws yn ei achosi, mae'n parhau'n hanfodol bwysig bod pob un ohonom yn dal ati i gymryd yr holl ragofalon syml hynny a fydd yn helpu i arafu lledaeniad y feirws a'r risgiau y mae'n eu hachosi i bob un ohonom.
Mae'r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau. Pe byddai'r aelodau'n dymuno imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau am hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.