Dawn Bowden AS, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a’r Prif Chwip
Yr wyf heddiw yn cyhoeddi Cronfa Sefydlogrwydd Diwylliannol y Gaeaf, a fydd yn rhoi cymorth hanfodol i sefydliadau diwylliannol, sydd wedi cael eu heffeithio'n negyddol gan effaith y pandemig ac a allai fod mewn perygl difrifol o gau neu golli swyddi heb gymorth pellach.
Mae’r Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod £5.25m ar gael i gynorthwyo sefydliadau celfyddydol, amgueddfeydd, llyfrgelloedd a sinemâu annibynnol Cymru drwy’r gaeaf.
Bydd y gronfa'n darparu cyllid brys, ar ffurf grantiau hyd at £100 mil, ar gyfer y cyfnod o 1 Hydref, ar ôl diwedd Cronfa Adfer Diwylliannol 2, hyd at ddiwedd Mawrth 2022. Rhaid i sefydliadau allu dangos eu bod mewn trafferthion gwirioneddol ac nad oes ffynhonnell arall o gyllid ar gael.
Mae hyn yn ychwanegol at y £60 miliwn o gymorth busnes, a gyhoeddwyd gan y Prif Weinidog heddiw i gefnogi busnesau yr effeithir arnynt yn sylweddol gan yr amddiffyniadau newydd sy'n cael eu cyflwyno yng Nghymru o’r 27 Rhagfyr.
Os byddwn yn wynebu ton fawr o achosion omicron, sy'n cael effaith sylweddol ar ein cymdeithas ac sy'n ei gwneud yn ofynnol i amddiffyniadau neu gyfyngiadau newydd gael eu rhoi ar waith, gan effeithio ar ein lleoliadau diwylliannol, byddem yn disgwyl i Lywodraeth y DU gyflwyno cynlluniau cymorth economaidd, megis ffyrlo, fel y gwnaeth yn gynharach yn y pandemig.
Bydd rhagor o fanylion am Gronfa Sefydlogrwydd Diwylliannol y Gaeaf a sut i wneud cais yn cael eu cyhoeddi yn y Flwyddyn Newydd.