Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Rwyf heddiw’n cyhoeddi manylion y dyraniadau cyllid craidd i awdurdodau lleol ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod drwy’r Setliadau Refeniw a Chyfalaf Dros Dro i Lywodraeth Leol ar gyfer 2022-23 (y Setliad). Rwyf hefyd yn cyhoeddi dyraniadau cyllid craidd dangosol ar lefel Cymru ar gyfer 2023-24 a 2024-25.
O addasu ar gyfer trosglwyddiadau, bydd y cyllid refeniw craidd ar gyfer llywodraeth leol yn 2022-23 yn cynyddu 9.4%, ar sail gyfatebol, o'i gymharu â'r flwyddyn gyfredol. Ni fydd unrhyw awdurdod yn cael cynnydd sy’n llai nag 8.4%. Yn 2022-23, bydd awdurdodau lleol yn cael £5.1bn gan Lywodraeth Cymru ar ffurf Grant Cynnal Refeniw ac ardrethi annomestig i'w gwario ar ddarparu gwasanaethau allweddol.
At hynny, rwy’n cyhoeddi gwybodaeth am y grantiau refeniw a chyfalaf a gynllunnir ar gyfer y tair blynedd ganlynol. Ar gyfer 2022-23, cyfanswm y rhain yw mwy na £1.1bn ar gyfer refeniw a mwy na £700m ar gyfer cyfalaf. Rydym yn darparu'r gwerthoedd grant dangosol hyn yn awr er mwyn i awdurdodau lleol allu cynllunio eu cyllidebau'n effeithlon. Bydd yr wybodaeth hon yn cael ei diweddaru ymhellach yn y Setliad terfynol.
Y dyraniadau cyllid refeniw craidd dangosol ar lefel Cymru ar gyfer 2023-24 a 2024-25 yw £5.3bn a £5.4bn yn y drefn honno – sy'n cyfateb i gynnydd o £177m (3.5%) yn y flwyddyn gyntaf a £128m (2.4%) yn yr ail flwyddyn. Ffigurau dangosol yw’r rhain ac maent yn dibynnu ar ein hamcangyfrifon presennol o incwm ardrethi annomestig dros gyfnod y Setliad amlflwyddyn, a'r cyllid a ddarparwyd i ni gan Lywodraeth y DU drwy Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant 2021.
Mae’r arwyddion yn awgrymu y bydd cyllid refeniw penodol ar gyfer grantiau yn parhau i fod yn uwch na £1.1bn bob blwyddyn drwy gydol y Setliad amlflwyddyn hwn, ac y bydd grantiau cyfalaf yn fwy nag £700m bob blwyddyn.
Fel yn y blynyddoedd diwethaf, ein blaenoriaethau o hyd yw gwasanaethau iechyd a llywodraeth leol. Bydd y Setliad sylweddol uwch hwn yn galluogi awdurdodau lleol i barhau i ddarparu'r gwasanaethau y mae eu hangen a’u heisiau ar eu cymunedau, yn ogystal â chefnogi uchelgeisiau cenedlaethol a lleol ar gyfer y dyfodol, gan gynnwys ymateb i'r argyfwng hinsawdd a natur a chyfrannu at ein cynllun Cymru Sero Net.
Mae hwn yn Setliad da i lywodraeth leol, gan gynnwys dyraniadau cyllid craidd ar lefel Cymru ar gyfer 2023-24 a 2024-25. Mae'n rhoi sylfaen sefydlog i awdurdodau lleol allu cynllunio eu cyllidebau ar gyfer y flwyddyn ariannol i ddod a thu hwnt i hynny. Rydym wedi gweithio'n agos gyda llywodraeth leol ac rydym yn gwerthfawrogi'r pwysau y maent yn eu hwynebu. Byddwn yn parhau i ddiogelu llywodraeth leol, yn enwedig ar yr adeg anodd a heriol hon.
Wrth wneud penderfyniadau am lefel y cyllid ar gyfer llywodraeth leol, rwyf wedi ymateb i'r angen i sicrhau bod staff sy'n gweithio'n galed yn cael codiadau cyflog haeddiannol yn y dyfodol. Yn benodol, rwyf wedi cynnwys cyllid i alluogi awdurdodau lleol i dalu’r costau ychwanegol a fydd yn deillio o gyflwyno'r Cyflog Byw gwirioneddol i weithwyr gofal fel y nodwyd gan y Dirprwy Gweinidog Gwasanaethau Cymdeithasol heddiw. Mae'r dyraniad hwn yn cynnwys trosglwyddiad o £5m, y mae sylfaen y Setliad wedi'i addasu ar ei gyfer, o’r grant Gweithlu Gofal Cymdeithasol a Chynaliadwyedd.
Mae'r cyllid a ddarperir drwy'r Setliad hwn hefyd yn cydnabod y penderfyniad a wnaed ynghylch cytundeb cyflogau athrawon 2021/22 ac mae'n cynnwys cyllid ar gyfer y costau sy'n deillio o gytundeb cyflog 2022/23, sy'n dod o fewn y flwyddyn anheddu hon. Yn unol â hynny, ni fyddaf yn darparu unrhyw gyllid pellach yn ystod y flwyddyn i gydnabod cytundeb cyflog athrawon 2022/23, a rhaid i waith cynllunio cyllidebau awdurdodau dalu am y costau hyn yng ngoleuni'r Setliad hwn.
Yn ehangach o ran cyflogau'r sector cyhoeddus, mae'r Setliad hwn yn cynnwys cyllid i dalu am y costau cynyddol y bydd awdurdodau lleol yn eu hwynebu yn sgil cyhoeddiad Llywodraeth y DU y bydd cyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogwyr yn codi.
Law yn llaw â’r Setliad rydym yn parhau i ddarparu cyllid i helpu llywodraeth leol i ddileu taliadau am gladdedigaethau plant. Mae'r ymrwymiad hwn ar y cyd yn sicrhau bod dull gweithredu teg a chyson ledled Cymru.
Yn unol â’n pwyslais ar wrthdroi effeithiau tlodi, rydym yn parhau’n ymrwymedig i amddiffyn aelwydydd incwm isel ac agored i niwed rhag unrhyw ostyngiad mewn cymorth o dan Gynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor, er gwaetha'r diffyg yn y cyllid a drosglwyddwyd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ar ôl iddi ddiddymu budd-dal y dreth gyngor. Byddwn yn parhau i gynnal yr hawliau’n llawn o dan ein cynlluniau ein hunain ar gyfer gostyngiadau'r dreth gyngor yn 2022-23, ac rydym unwaith eto yn darparu £244m ar gyfer y cynllun yn y Setliad i gydnabod hyn.
Fel y cyhoeddais ddoe, rwy’n cynnal y dull gweithredu a ddefnyddiwyd yn 2021-22 ac yn parhau i rewi'r lluosydd ardrethi annomestig ar gyfer 2022-23. Rwyf wedi darparu £35m ychwanegol mewn Grant Cynnal Refeniw yn 2022-23 i wrthbwyso'r incwm is, ac £1m arall am y ddwy flynedd ganlynol. Trwy’r Setliad hwn hefyd, rwy’n parhau i ddarparu £4.8m i awdurdodau lleol, i’w galluogi i ddarparu rhyddhad ardrethi disgresiynol i fusnesau lleol ac eraill sy’n talu ardrethi i’w galluogi i ymateb i faterion lleol penodol.
Mae Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (y Ddeddf) yn darparu ar gyfer creu a pharhau i ddatblygu cyd-bwyllgorau corfforedig er mwyn galluogi awdurdodau i gydweithio ar swyddogaethau penodol megis trafnidiaeth, datblygu economaidd a chynllunio. Yn dilyn cyllid grant penodol untro y flwyddyn ariannol hon i gynorthwyo â’r gwaith paratoi, rwy'n darparu cyllid ychwanegol parhaus i gefnogi gweithrediad craidd y pwyllgorau hyn drwy'r Setliad.
Mae democratiaeth gadarn yn nodwedd hanfodol o lywodraeth leol. Wrth benderfynu ar y Setliad cyffredinol rwyf wedi ceisio cydnabod yr angen i gynyddu gallu gwasanaethau etholiadol i ddelio â diwygo’r drefn etholiadol yng Nghymru, yn dilyn ein diwygiadau yn y Ddeddf ac i gefnogi ein gwaith yn y dyfodol.
Mae hynt y pandemig a'i effeithiau parhaus ar wasanaethau cyhoeddus yn parhau i fod yn ansicr iawn. Nid oedd yr adolygiad cynhwysfawr o wariant yn darparu umrhyw gymorth ariannol ychwanegol, sy'n peri pryder, yn enwedig ar ôl i'r amrywiolyn Omicron newydd ddod i'r amlwg. Rwyf wedi ystyried yn ofalus sut i reoli’r cymorth ar gyfer y pandemig i awdurdodau lleol, ac wedi dod i’r casgliad mai’r dewis gorau yw darparu cyllid yn y flwyddyn gyntaf drwy'r Setliad llywodraeth leol. Ond wrth benderfynu ar y Setliad cyffredinol, rwyf wedi cydnabod effaith barhaus y pandemig ar wasanaethau, y bydd angen i awdurdodau eu rheoli.
Byddaf yn parhau i ymgysylltu'n agos â llywodraeth leol drwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.
Nodais y sefyllfa o ran cyllid cyfalaf i Lywodraeth Cymru fel rhan o'm datganiad ar y Gyllideb ddydd Llun. Roedd y cyllid cyfalaf a gawsom gan Lywodraeth y DU yn siomedig ac nid yw'n ddigonol i gyflawni ein huchelgeisiau i fuddsoddi yn nyfodol Cymru.
Yn dilyn adolygiad o'n cyllidebau cyfalaf, bydd y cyllid cyfalaf cyffredinol ar gyfer llywodraeth leol ar gyfer 2022-23 yn £150m. Bydd hyn yn cynyddu i £200m am y ddwy flynedd ganlynol, gan gynnwys £20m ym mhob blwyddyn i alluogi awdurdodau i ymateb i'n blaenoriaeth ar y cyd o ddatgarboneiddio.
Mae tabl cryno wedi’i gynnwys gyda’r datganiad hwn sy'n nodi dyraniadau'r Setliad (Cyllid Allanol Cyfun) fesul awdurdod. Cyfrifwyd y dyraniadau gan ddefnyddio'r fformiwla y cytunwyd arni gyda llywodraeth leol. O ganlyniad i'r fformiwla a'r data cysylltiedig, mae'r tabl yn dangos ystod y dyraniadau cyllid, o gynnydd o 8.4% dros Setliad 2021-22 i gynnydd o 11.2%. O ystyried y cynnydd sylweddol, nid wyf yn bwriadu cynnwys llawr eleni ac rwyf wedi dyrannu'r holl gyllid sydd ar gael yn y Setliad hwn.
Anfonir rhagor o fanylion at bob awdurdod lleol a'u cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru:
https://llyw.cymru/setliad-refeniw-chyfalaf-llywodraeth-leol-2022-i-2023
Er bod hwn yn Setliad da sy'n adeiladu ar ddyraniadau gwell y blynyddoedd diwethaf, rwy’n cydnabod nad yw hyn yn gwrthdroi'r blynyddoedd o gyfyngiadau o ganlyniad i lymder cyffredinol mewn cyllid cyhoeddus. Bydd angen i awdurdodau lleol wneud penderfyniadau anodd o hyd wrth bennu eu cyllidebau ac mae'n bwysig eu bod yn ymgysylltu'n ystyrlon â'u cymunedau lleol wrth ystyried eu blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.
Mae gosod cyllidebau a lefelau treth gyngor yn fater i bob awdurdod lleol unigol. Cyfrifoldeb pob awdurdod lleol unigol yw gosod cyllidebau, a'r dreth gyngor yn ei thro. Bydd angen i awdurdodau ystyried pob ffynhonnell o gyllid sydd ar gael iddynt, yn ogystal â'r pwysau sy'n eu hwynebu, wrth osod eu cyllidebau ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.
Daw'r cyhoeddiad hwn ar ddechrau saith wythnos o ymgynghori ffurfiol ar y Setliad. Bydd yn dod i ben ar 8 Chwefror 2022.
Mae'r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau. Os bydd yr Aelodau am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau pan fydd y Senedd yn ailymgynnull, byddwn yn hapus i wneud hynny.
Tabl Cryno
Setliad dros dro 2021-22 – cymharu Cyllid Allanol Cyfun (AEF) 2020-21 (wedi’i addasu ar gyfer trosglwyddiadau) ag AEF dros dro 2021-22, a dosbarthiad cyllid Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor 2021-22 (wedi’i ddosbarthu fel rhan o AEF) (£000)
Awdurdod unedol |
AEF 2020-21 wedi’i addasu1 |
AEF dros dro 2021-22 |
% y newid o AEF 2020-21 wedi’i addasu |
Safle |
Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor (o fewn yr AEF) |
Ynys Môn |
104,872 |
114,549 |
9.2% |
12 |
5,240 |
Gwynedd |
195,905 |
213,210 |
8.8% |
17 |
8,263 |
Conwy |
167,356 |
183,308 |
9.5% |
5 |
9,189 |
Sir Ddinbych |
159,060 |
173,637 |
9.2% |
15 |
8,536 |
Sir y Fflint |
212,608 |
232,174 |
9.2% |
14 |
9,680 |
Wrecsam |
189,233 |
207,060 |
9.4% |
7 |
9,275 |
Powys |
192,088 |
210,257 |
9.5% |
6 |
8,978 |
Ceredigion |
110,006 |
119,419 |
8.6% |
19 |
5,126 |
Sir Penfro |
179,422 |
196,253 |
9.4% |
8 |
8,180 |
Sir Gaerfyrddin |
285,262 |
311,597 |
9.2% |
11 |
14,006 |
Abertawe |
353,571 |
386,585 |
9.3% |
9 |
19,339 |
Castell-nedd Port Talbot |
237,289 |
258,068 |
8.8% |
18 |
15,955 |
Pen-y-bont ar Ogwr |
212,755 |
232,364 |
9.2% |
13 |
12,866 |
Bro Morgannwg |
168,128 |
186,011 |
10.6% |
3 |
9,088 |
Rhondda Cynon Taf |
407,050 |
441,433 |
8.4% |
21 |
21,005 |
Merthyr Tudful |
101,493 |
110,616 |
9.0% |
16 |
5,627 |
Caerffili |
292,712 |
317,453 |
8.5% |
20 |
12,651 |
Blaenau Gwent |
120,657 |
130,795 |
8.4% |
22 |
8,166 |
Torfaen |
146,560 |
160,117 |
9.3% |
10 |
8,500 |
Sir Fynwy |
101,003 |
112,275 |
11.2% |
1 |
5,918 |
Casnewydd |
240,957 |
265,612 |
10.2% |
4 |
10,337 |
Caerdydd |
492,095 |
544,715 |
10.7% |
2 |
28,076 |
Pob awdurdod unedol |
4,670,080 |
5,107,507 |
9.4% |
|
244,000 |
Sylwer: Efallai nad yw'r cyfanswm yn swm hollol gywir yn sgil talgrynnu.
- Trosglwyddiadau AEF 2021-22 wedi’u haddasu o £18.585m (prisiau 2021-22) i mewn i’r Setliad a yr tax base 2022-23 ddiweddaraf