Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Rwy'n cyhoeddi heddiw y bydd Llywodraeth Cymru yn darparu pecyn ychwanegol, sy’n werth £116 miliwn, o ryddhad ardrethi annomestig i fusnesau yn y sectorau y mae pandemig Covid-19 yn effeithio’n fwyaf uniongyrchol arnynt.
Bydd talwyr ardrethi yn y sectorau manwerthu, hamdden a lletygarwch yng Nghymru yn cael rhyddhad ardrethi annomestig o 50% drwy gydol 2022-23. Yn yr un modd â’r cynllun a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU, bydd cynllun Rhyddhad Ardrethi Llywodraeth Cymru ar gyfer y sectorau Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch yn rhoi cap o £110,000 ar y rhyddhad a roddir i fusnesau unigol arr draws Cymru. Mae hynny’n golygu y bydd busnesau yng Nghymru yn cael cymorth tebyg i'r hyn a ddarperir mewn rhannau eraill o'r DU.
Er mwyn sicrhau bod digon o gymorth ar gael i fusnesau yng Nghymru, a chan adlewyrchu natur ein sylfaen drethi, rydym wedi buddsoddi £20 miliwn yn ychwanegol ar ben y cyllid canlyniadol a gafwyd oddi wrth Lywodraeth y DU. Mae’r cyllid hwn yn ychwanegol at ein cynlluniau rhyddhad parhaol sy'n rhoi dros £240 miliwn o ryddhad bob blwyddyn.
Bydd y cynllun rhyddhad estynedig hwn ar gyfer y sectorau manwerthu, hamdden a lletygarwch, ar y cyd â'n cynlluniau rhyddhad parhaol presennol, yn sicrhau bod dros 85,000 eiddo yng Nghymru yn cael cymorth i dalu eu biliau ardrethi yn 2022-23.
Yn gyffredinol, ers dechrau’r pandemig, mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi cymorth ychwanegol helaeth i fusnesau drwy'r system ardrethi annomestig. Drwy’n cynlluniau rhyddhad a’n grantiau, rydym wedi darparu dros £2.2 biliwn o gymorth i fusnesau a thalwyr ardrethi eraill ledled Cymru i'w helpu i ymdopi o dan amgylchiadau anodd.
Mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi hefyd ei fod yn rhewi'r lluosydd ardrethi annomestig yng Nghymru ar gyfer 2022-23. Mae'r lluosydd yn rhan annatod o bennu biliau talwyr ardrethi. Bydd y penderfyniad hwn yn sicrhau, cyn i unrhyw ryddhad gael ei roi, na fydd cynnydd yn swm yr ardrethi y bydd busnesau a thalwyr ardrethi eraill yn eu talu y flwyddyn nesaf.
Rydym yn parhau'n ymrwymedig i helpu busnesau i wella o effeithiau'r pandemig ac i ffynnu yn y dyfodol.