Bydd buddsoddi i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a natur wrth wraidd cyllideb Llywodraeth Cymru, a gyhoeddwyd yn ddiweddarach heddiw.
Bydd buddsoddiad gwyrdd wedi'i dargedu o fwy na £160m o refeniw a chyfanswm buddsoddiad o £1.8bn o gyfalaf yn cael ei ymrwymo dros y tair blynedd nesaf.
Wrth ymateb i'r argyfwng hinsawdd a natur, caiff ei wario mewn amrywiaeth o feysydd gan gynnwys y goedwig genedlaethol, bioamrywiaeth, teithio llesol, yr economi gylchol, ynni adnewyddadwy, llifogydd a thai datgarboneiddio.
Mae gan Gymru waddol o dros 2,500 o domenni glo cyn datganoli ac oherwydd effeithiau cynyddol newid yn yr hinsawdd, mae'r tomenni hyn bellach mewn mwy o berygl o lithro. Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn darparu cyllid i gefnogi gwaith cynnal a chadw hanfodol ac i ddatblygu rhaglen adfer yn y dyfodol, gyda buddsoddiad cyfalaf ychwanegol o £4.5m a chyfanswm buddsoddiad cyfalaf o £44.4m. Mae'n dilyn penderfyniad Llywodraeth y DU i beidio â darparu cyllid ei hun yn adolygiad Gwariant mis Hydref.
Ym mis Ebrill 2019 Cymru oedd y wlad gyntaf yn y byd i ddatgan argyfwng hinsawdd ac ym mis Hydref eleni cyhoeddodd Llywodraeth Cymru 'Cymru Sero Net' - gan osod y sylfeini i wneud Cymru'n net sero erbyn 2050.
Dywedodd Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol:
"Bydd y gyllideb heddiw yn llywio'r Gymru yr ydym am ei throsglwyddo i genedlaethau'r dyfodol. Bydd mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a natur yn gofyn am ymdrech ar y cyd ac fel Llywodraeth rydym yn gwybod ei bod yn hanfodol ein bod yn gweithredu ac yn arwain y ffordd.
"Dyna pam rydym yn darparu buddsoddiad sylweddol mewn ystod eang o feysydd, fel y gall Cymru leihau allyriadau a bod yn genedl wyrddach.
"Mae effeithiau'r argyfwng hinsawdd a natur gyda ni nawr. Mae glawiad dwysach a thymheredd cynyddol wedi ychwanegu at y brys o ddarparu cyllid i wneud tomenni glo yn fwy diogel. Methodd Llywodraeth y DU â gweithredu ond bydd ein cyllid yn rhoi rhywfaint o sicrwydd i'r cymunedau.
"Bydd y gyllideb hon yn golygu bod Cymru mewn gwell lle i reoli effeithiau'r argyfwng hinsawdd a natur sydd eisoes yn effeithio ar gynifer o gymunedau yng Nghymru, a bydd ond yn effeithio ar fwy o gymunedau yn y dyfodol. Allwn ni byth golli golwg ar bwysigrwydd gwarchod ein planed."