Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg
Dros yr haf, rhannais yr wybodaeth ddiweddaraf â'r aelodau am y gwaith sy'n mynd rhagddo i adolygu'r meini prawf cymhwysedd ar gyfer prydau ysgol am ddim. Penderfynwyd gwneud y gwaith hwn yng nghyd-destun ein hymrwymiad clir i barhau i fodloni'r cynnydd yn y galw am brydau ysgol am ddim o ganlyniad i'r pandemig, ac i estyn yr hawl i'w cael cyhyd ag y bydd ein hadnoddau'n caniatáu hynny.
Ers hynny, ac o ystyried y gwersi a ddysgwyd o'r gwaith adolygu a wnaed, rydym wedi gweithio gyda Phlaid Cymru i ystyried amrywiaeth o bolisïau sydd o ddiddordeb i'r ddwy blaid. Mae'r Cytundeb Cydweithio sy'n deillio o hyn yn nodi canlyniadau'r ymdrechion hyn a'r penderfyniad i gydweithio i'w cyflawni. Wrth wraidd y dull gweithredu hwn mae ymrwymiad i estyn yr hawl i gael prydau ysgol am ddim i bob disgybl ysgol gynradd yn ystod oes y cytundeb.
Mae'r uchelgais hwn yn deillio o'n dealltwriaeth bod plant iau yn fwy tebygol o fod yn byw mewn tlodi incwm cymharol a, thrwy gymryd y cam hwn, bydd 196,000 yn rhagor o blant yn dod yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim yng Nghymru. Felly, mae ein hymrwymiad yn cynnig ymyriad a allai weddnewid y sefyllfa, yn ogystal â bod yn gam arall pwysig tuag at wireddu ein huchelgais gyffredin o fynd i'r afael â thlodi plant a sicrhau na fydd yr un plentyn yn mynd heb fwyd.
Mae tystiolaeth hefyd yn dangos y manteision ehangach sydd ynghlwm wrth brydau ysgol am ddim, gan gynnwys tynnu sylw at fwyta'n iach ym mhob rhan o fywyd yr ysgol, sicrhau bod disgyblion yn cael amrywiaeth ehangach o fwydydd, gwella sgiliau cymdeithasol yn ystod amseroedd bwyd, yn ogystal â gwelliannau o ran ymddygiad a chyrhaeddiad. Yn fwy cyffredinol, wrth weithredu ar yr ymrwymiad hwn, byddwn yn gweithio gyda phartneriaid i sicrhau bod mwy o fwydydd o Gymru ar gael mewn ysgolion. Bydd hyn yn byrhau cadwyni cyflenwi ac yn lleihau allyriadau carbon, yn ogystal â chefnogi cynhyrchwyr a chyflenwyr bwyd lleol, gan gryfhau'r economi sylfaenol.
Wrth baratoi i gyflawni'r ymrwymiad hwn, rydym eisoes wedi dechrau'r gwaith pwysig o gydweithio i ddatblygu dull o roi'r rhaglen ar waith ar y cyd â'n partneriaid cyflawni allweddol, gan gynnwys awdurdodau lleol, ysgolion, cynhyrchwyr a chyflenwyr bwyd a sefydliadau gwirfoddol perthnasol. Mae hyn yn cynnwys ymdrechion i ddod i ddeall yn well gapasiti'r gweithlu yn ogystal â'r ceginau a'r ystafelloedd bwyta sy'n hollbwysig i'r seilwaith ar gyfer prydau ysgol yng Nghymru.
Mae hefyd angen gwneud gwaith i fodloni ein huchelgais gyffredin o sicrhau Strategaeth Bwyd Cymunedol, yn ogystal â chymryd y camau sydd eu hangen i wellau prosesau caffael bwyd, gan feithrin gwerth cymdeithasol, deall ansawdd cynnyrch lleol, a rhoi terfyn ar yr arfer o ystyried y gost isaf yn gyntaf.
Rydym yn awyddus iawn i wneud cynnydd cyn gynted â phosibl. Mae'r trafodaethau cynnar a gynhaliwyd â'n partneriaid yn awgrymu y bydd angen inni dreulio'r hyn sy'n weddill o flwyddyn academaidd 2021/22 yn rhoi'r trefniadau cyflawni ar waith ac yn sicrhau capasiti. Rydym hefyd yn ymwybodol o'r heriau y mae awdurdodau lleol ac ysgolion yn parhau i'w hwynebu wrth weithredu yn ystod y pandemig.
Fel y nodwyd yn y Cytundeb Cydweithio, caiff yr ymrwymiad ar y cyd hwn ei roi ar waith dros oes y cytundeb. Felly, rydym yn gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu dull gweithredu fesul cam o roi'r rhaglen ar waith er mwyn sicrhau y bydd gan ysgolion y capasiti sydd ei angen i ddarparu ar gyfer y cynnydd yn nifer y disgyblion a fydd yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, ac a fydd yn manteisio ar hynny. Er bod angen gwneud gwaith o hyd i ddeall yn well sut y bydd hyn yn gweithio'n ymarferol, ein nod yw dechrau'r gwaith o gyflwyno’r rhaglen ym mis Medi 2022, gan gynnig prydau ysgol am ddim i ddysgwyr ieuengaf ein hysgolion cynradd bryd hynny. Wedyn byddwn yn awyddus i barhau'r gwaith o gyflwyno’r rhaglen ym mis Medi 2023, i sicrhau y bydd modd i bob dysgwr ym mhob ysgol gynradd fanteisio ar brydau ysgol am ddim. Bydd hyn yn caniatáu digon o amser i gynllunio a pharatoi'r seilwaith sydd ei angen i wneud yn siŵr y bydd y rhaglen yn llwyddo. Byddwn yn rhannu'r wybodaeth ddiweddaraf yn gynnar yn 2022, a fydd yn nodi ein cynlluniau manwl ar gyfer rhoi'r ymrwymiad hwn ar waith.
Yn olaf, drwy gyflawni'r ymrwymiad hwn, bydd pob dysgwr oedran ysgol gynradd yn cael cynnig prydau ysgol am ddim. Mae hyn yn golygu na fydd modd inni ddefnyddio data ar bwy sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim i ddangos anfantais ymhlith plant y grŵp oedran hwn mwyach. Gwyddom fod y dangosydd hwn wedi cael ei ddefnyddio i lywio polisïau lleol a chenedlaethol, ac i bennu sut y caiff cyllid ei ddyrannu, ers blynyddoedd lawer. Felly mae angen inni weithio'n agos gyda phartneriaid, ac ym mhob rhan o'r llywodraeth, i ystyried effaith y newid hwn, a sicrhau na fyddwn yn amharu ar brosesau dyrannu cyllid a ffyrdd o weithio yn y dyfodol. Er bod y gwaith hwn yn bwysig iawn, ni fydd yn effeithio ar y broses o roi'r rhaglen ar waith ar ôl inni fynd i'r afael â'r materion ymarferol a nodwyd uchod.
Mae ein Rhaglen Lywodraethu ddiwygiedig, sydd bellach yn cynnwys y Cytundeb Cydweithio, yn glir - byddwn yn sicrhau tegwch i bawb ac yn dileu anghydraddoldeb ym mhob rhan o'r gymdeithas. Bydd Cymru yn wlad lle na fydd neb yn cael ei adael ar ôl nac yn cael ei ddal yn ôl. Drwy gyflawni ein hymrwymiad cyffredin i sicrhau prydau ysgol am ddim i bob plentyn ysgol gynradd, rydym yn cymryd camau pwysig tuag at wireddu'r weledigaeth hon.