Rebecca Evans AS, Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Cafodd Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) ei phasio ar 20 Ionawr 2021. Mae’r ddeddfwriaeth yn berthnasol i’r sector cynghorau cymuned a thref, ac mae canllawiau statudol drafft wedi cael eu paratoi i egluro’r newidiadau a’r effeithiau.
Mae Deddf 2021 yn rhoi pŵer cymhwysedd cyffredinol i awdurdodau lleol cymwys, gan gynnwys cynghorau cymuned cymwys. Mae’r canllawiau drafft yn helpu cynghorau cymuned a thref i ystyried y gofynion pe paent am fod yn gynghorau cymuned cymwys.
Mae’r canllawiau hyn hefyd yn cynnwys gwybodaeth i helpu pob cyngor cymuned i gyflawni ei ddyletswyddau newydd, gan gynnwys:
- Sicrhau mynediad at gyfarfodydd o wahanol leoliadau;
- Darparu cyfle i’r cyhoedd gymryd rhan mewn cyfarfodydd cyhoeddus o’r cyngor;
- Paratoi a chyhoeddi adroddiad blynyddol;
- Paratoi a chyhoeddi cynllun hyfforddi i gefnogi’r hyfforddiant a roddir i gynghorwyr a staff cynghorau.
Heddiw, rwy’n lansio ymgynghoriad ar y canllawiau statudol drafft ar Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 ar gyfer cynghorau cymuned a thref.
Mae’r ddogfen ymgynghori ar agor tan 17 Mawrth 2022:
Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021: canllawiau statudol Cynghorau Cymuned a Thref.