Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi
Nodaf y cyhoeddiad a wnaed gan Lywodraeth y DU ar 16 Rhagfyr eu bod wedi dod â negodiadau i ben ar gyfer cytundeb masnach rydd (FTA) y DU-Awstralia.
Gallai’r FTA ag Awstralia ddod â manteision posibl i Gymru. Cyfanswm gwerth y fasnach nwyddau rhwng Awstralia a Chymru yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2021 oedd £186.6miliwn. Awstralia oedd ein 20fed marchnad fwyaf o ran allforio nwyddau a’n 42ain marchnad fwyaf o ran mewnforio nwyddau. Mae’r data diweddaraf ar fasnach gwasanaethau ar gyfer 2019 yn amcangyfrif mai gwerth y gwasanaethau a allforiwyd i Awstralia oedd tua £181miliwn, tra mai gwerth y gwasanaethau a fewnforiwyd o Awstralia oedd tua £53miliwn.
Er bod manteision efallai yn y cytundeb i Gymru, yn enwedig ym maes gwasanaethau a symudedd, roeddwn i’n glir iawn yn ystod y negodiadau bod yn rhaid i unrhyw gytundeb masnach beidio â rhoi Cymru dan anfantais nac amharu ar y safonau uchel sydd mor bwysig i ni yma yng Nghymru. Mae hyn yn arbennig o bwysig ar gyfer ein sector amaethyddiaeth sy’n cydymffurfio â’r rheoliadau ym maes amgylchedd a llesiant anifeiliaid ac mae gennym bryderon sylweddol o hyd ynghylch y cynnydd o ran mynediad i’r farchnad sy’n rhan o’r cytundeb hwn, yr effaith y gall hyn ei chael ar ein cynhyrchwyr a’r cynsail y gall ei osod ar gyfer cytundebau yn y dyfodol. Rydw i’n siomedig nad yw’n ymddangos fod fy sylwadau ar yr elfen hon o’r cytundeb wedi’u hystyried. Gwnes i a’m swyddogion bwysleisio’r pwynt hwn yn ddigon clir i Lywodraeth y DU yn ystod y trafodaethau.
Nawr bod holl fanylion y cytundeb terfynol ar gael, bydd fy swyddogion yn craffu ar fanylion y cytundeb a byddwn yn cyhoeddi asesiad sy’n canolbwyntio ar Gymru unwaith y caiff y gwaith dadansoddi hwn ei gyflawni. Byddwn hefyd yn ymgysylltu â rhanddeiliaid yng Nghymru i ddeall eu safbwyntiau ar effaith y cytundeb.