Neidio i'r prif gynnwy

Araith 'Creu cyfle/gwrando' gan Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg.

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Rhagfyr 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Diolch am fy ngwahodd i siarad â chi heddiw. Rydyn ni’n cwrdd wrth i heriau covid fod ar flaen ein meddyliau i gyd unwaith eto, wrth i’r amrywiolyn omicron achosi ansicrwydd newydd a'r angen i fod yn wyliadwrus a gofalus o'r newydd.

Wrth edrych ar y flwyddyn i ddeunaw mis diwethaf, mae’n anodd meddwl am gyfnod mwy heriol. Ac i ysgolion rwy'n credu mai'r tymor olaf yn arbennig fu'r anoddaf mewn sawl ffordd. Mae cyd-destun cyffredinol cyfraddau uchel trosglwyddiad covid yn y gymuned a’r rhaglen frechu ar y naill law, ynghyd â'r awydd rydyn ni’n ei rannu i wneud popeth o fewn ein gallu i gadw ein hysgolion ar agor ar y llaw arall, wedi golygu amgylchiadau anodd, y tu hwnt i ddychymyg, mewn llawer o'n hysgolion.

Ni fu erioed amser pan fo arweiniad ymroddedig ac ysbrydoledig mewn ysgolion yn fwy allweddol. Ac rydych chi wedi darparu hynny i’n hysgolion, i’r proffesiwn ac i’n dysgwyr ar hyd a lled cymru.

Felly, hoffwn ddechrau drwy ddiolch i chi am hynny. Hefyd, diolch i’r gymdeithas arweinwyr ysgolion a cholegau am ymgysylltu yn gadarnhaol, am y gonestrwydd a’r heriau adeiladol rydych wedi eu cyfrannu at ein trafodaethau. Mewn byd lle mae gan bobl amrywiaeth o safbwyntiau angerddol, allwch chi ddim bob amser disgwyl cytuno ar bopeth. Ond rwyf hefyd wastad wedi gwybod, yn fy rôl fel gweinidog addysg, bod eich persbectif ar yr heriau rydyn ni’n eu hwynebu bob amser yn seiliedig ar wybodaeth, yn adeiladol, yn ymarferol a bod buddiannau ein dysgwyr wrth galon hynny.

Wrth ymateb i’r heriau hyn, fel gweinidog, rwyf wedi ceisio gwrando ar eich pryderon fel proffesiwn a phan fo hynny’n bosibl, rwyf wedi mynd ati i wneud y penderfyniadau angenrheidiol er mwyn rhoi’r cyfle i chi flaenoriaethu llesiant a dysgu. Mae nifer ohonoch wedi dweud wrthyf, er gwaethaf pwysau’r pandemig, na allwn ni roi’r gorau i’r agenda diwygio addysg y mae pob un ohonom ni wedi ymrwymo iddi.

Felly, er mwyn cydnabod y pwysau cystadleuol rydych chi’n eu hwynebu fel proffesiwn,

Fe wnaethon ni atal mesurau perfformiad dros dro. 

Fe wnaethon ni oedi gyda chategoreiddio ysgolion.

Fe wnaethon ni ohirio arolygiadau estyn.

Fe wnaethon ni addasu’r broses o roi’r system anghenion dysgu ychwanegol ar waith yn y flwyddyn gyntaf.

Ac wrth gwrs, fe wnes i benderfynu rhoi’r hyblygrwydd i ysgolion uwchradd gyflwyno’r cwricwlwm newydd yn 2023 os mai dyna sydd orau i’w disgyblion.

Nawr, dydy’r penderfyniadau hyn ddim yn boblogaidd gyda phawb - er enghraifft, rydyn ni’n gwybod bod y swyddfa safonau mewn addysg dros y ffin wedi bod yn arolygu ysgolion eto ers tro, a dyna mae rhai pobl wedi gofyn amdano yma hefyd. 

Ond rwy’n rhoi fy ngair i chi y byddaf yn parhau i wneud popeth o fewn fy ngallu i roi’r cyfle sydd ei angen arnoch i godi safonau, i flaenoriaethu llesiant ac i gefnogi ein rhaglen ar gyfer diwygio.

Bwlch cyrhaeddiad

Nawr, fel gweinidog llafur, ni fydd yn syndod i chi fy nghlywed i’n dweud mai cefnogi ein disgyblion mwyaf difreintiedig yw fy mhrif flaenoriaeth. Alla i ddim pwysleisio hyn ddigon.

Rwy’n gwybod na all ysgolion a cholegau wneud popeth ar eu pen eu hunain. Ond, rwy’n eich gweld chi, ein harweinwyr addysg, fel un o’r grymoedd mwyaf yn ein cenhadaeth genedlaethol i fynd i’r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad.

Un o’r pethau cyntaf a wnes i wrth ddod yn weinidog addysg oedd dweud wrth swyddogion am gynnal adolygiad cynhwysfawr o’n dulliau i fynd i’r afael â’r bwlch cyrhaeddiad rhwng ein disgyblion mwyaf difreintiedig a’u cyfoedion. Bydd fy adran i’n edrych ar bob polisi, menter a chynllun diwygio drwy ystyried a yw’n effeithio ar ddeilliannau ein dysgwyr mwyaf difreintiedig. Os mai bychan fydd yr effaith, yna rwy’n disgwyl yr edrychir arno eto.

Dim y sgiliau a’r wybodaeth a ddysgir yn yr ystafell ddosbarth yn unig sy’n bwysig. Mae'n rhaid i ni hefyd fynd i’r afael â’r diffyg dyhead y gwyddom sy’n bodoli’n rhy aml o lawer ymhlith rhai o’n dysgwyr

Mae angen i ni sicrhau bod ein pobl ifanc, pwy bynnag ydyn nhw a beth bynnag yw eu cefndir, yn credu ynddyn nhw eu hunain, a bod ganddyn nhw syniad o’u gwerth eu hunain. Rwyf am i orwelion pob dysgwr fod mor eang â phosibl. Er mwyn i bob person ifanc ddyheu i fod y gorau y gall fod a chyflawni ei botensial.

Mae ein rhaglen lywodraethu yn cynnwys nifer o fentrau newydd hefyd – maen nhw i gyd wedi’u cynllunio i gefnogi ein dysgwyr mwyaf difreintiedig i lwyddo, i alluogi ein holl ddysgwyr i gyrraedd y safonau uchaf.

Er enghraifft, rydyn ni wedi ymrwymo i archwilio diwygio’r diwrnod ysgol a dyddiadau’r tymhorau.

O ran diwygio’r diwrnod ysgol, byddwch wedi gweld fy nghyhoeddiad heddiw ein bod yn bwriadu gweithio gyda nifer bach o ysgolion i dreialu darparu oriau ychwanegol o weithgareddau bob wythnos, gyda sesiynau fel celf, cerddoriaeth a chwaraeon, yn ogystal â sesiynau academaidd craidd. Bydd hyn i gyd yn canolbwyntio ar gefnogi ein dysgwyr mwyaf difreintiedig.

Mae 14 o ysgolion o bob cwr o gymru wedi bod yn awyddus i weithio gyda ni i weld sut gall hyn weithio. Ond mae’n rhaid i mi bwysleisio nad yw hwn yn bolisi pendant – mae hynny ymhell o fod yn wir.

Dyna’n union pam ein bod ni’n dechrau ar raddfa fach ac yn treialu hyn – hoffem ddysgu o hyn, dysgu beth sy’n gweithio a beth sydd ddim.

Yn bwysig iawn, mae’r ysgolion sy’n gysylltiedig wedi gwirfoddoli i’n helpu gyda hyn – ac wedi cael cyllid ychwanegol i’w cefnogi. Edrychaf ymlaen at rannu’r hyn y byddwn yn ei ddysgu’n eang, er mwyn i ni allu cael trafodaeth ar sail gwybodaeth.

Mae diwygio dyddiadau tymhorau yn rhywbeth mae gennym ni ddiddordeb ynddo hefyd.

Y man cychwyn yw a yw’r strwythur cyfredol, yn arbennig y gwyliau haf hir, yn darparu ar gyfer plant o gefndiroedd difreintiedig. Os nad yw, yna onid yw’n briodol i ni drafod hyn?

Dros y misoedd nesaf, byddaf yn siarad â chi: ein harweinwyr, yn siarad â phobl ifanc a’u teuluoedd, yn siarad â staff addysg, a’r bobl sy’n gweithio y tu allan i’r sector, fel gwasanaethau cyhoeddus a thwristiaeth, i ofyn am eu barn.

Rwy’n clywed yn aml pa mor flinedig y gall y flwyddyn ysgol fod i staff, gyda thymor hir yr hydref yn her benodol. Felly, er enghraifft, a yw’n well cael tymor yr hydref byr, gyda sicrwydd o bythefnos o wyliau? Dyma’r math o gwestiynau rwyf am eu gofyn. Dydw i ddim yn honni y bydd yn hawdd dod i gytundeb. Ond, mae’n drafodaeth bwysig i'w chael.

Drwy edrych o ddifri ar y flwyddyn ysgol, gallwn sicrhau cyfle i fod yn greadigol mewn ffyrdd eraill. A yw hyn yn gyfle i wella sut rydyn ni’n cefnogi cynnydd ar y pwyntiau trosglwyddo allweddol hynny; o’r ysgol gynradd i'r ysgol uwchradd, neu o’r ysgol uwchradd i addysg bellach neu hyfforddiant?

Fyddwn ni ddim yn edrych ar newid cyfanswm nifer y diwrnodau, ond yn hytrach a yw’n bosibl i ni rannu’r dyddiau’n well ar draws y calendr.

Mae hyn yn sgwrs ddilys, ac yn un y dylid bod wedi’i chael ers tro.

Ond gadewch i mi fod yn glir. Mae hwn yn ddiwygio a allai gefnogi ein dysgwyr mwyaf difreintiedig yn uniongyrchol, yn ogystal â sut rydych chi fel arweinwyr yn rheoli, yn cynllunio ac yn cefnogi eich llwyth gwaith a’ch llesiant eich hun a llwyth gwaith a llesiant eich staff. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at glywed eich barn.

Cwricwlwm

Bydd gan ein cwricwlwm newydd rôl bwysig i'w chwarae wrth roi sylw i’r bwlch mewn cyrhaeddiad a dyhead, ac o ran creu diwylliant o ddyhead a hunanhyder. Roeddwn i’n dymuno bod yn gyfreithiwr pan oeddwn i’n blentyn, ac yn sicr, doedd dim cyfreithwyr yn y teulu. Doeddwn i erioed wedi cwrdd ag un. Felly, efallai y byddai rhai yn credu bod hynny’n uchelgais ryfedd. Ond bydd y dysgwyr yn ein cwricwlwm newydd yn cael profiadau eang i amlygu’r dewisiadau a’r cyfleoedd bywyd hyn mewn ffordd na chefais i erioed, p’un ai ydyn nhw’n gyfarwydd â nhw yn eu bywydau a’u hamgylchiadau eu hunain neu beidio. Bydd ganddyn nhw’r dysgu hwnnw wedi’i deilwra, sy’n adlewyrchu eu hanghenion eu hunain, i’w galluogi i bennu eu llwybr eu hunain, o ble bynnag y byddan nhw’n gadael.

Rwy’n credu ei bod hi mor bwysig, yng nghanol yr holl bwysau cystadleuol y mae ysgolion yn eu hwynebu, nad ydyn ni’n colli golwg ar yr hyn rydyn ni’n ceisio ei gyflawni gyda’r cwricwlwm newydd. Y cwricwlwm rydych chi i gyd wedi gweithio arno nawr ers sawl blwyddyn. Cwricwlwm sy’n rhoi’r dysgwr wrth ei galon, o fewn diwylliant o greadigrwydd a llesiant.

Y diwylliant o greadigrwydd a llesiant rydych chi fel arweinwyr wedi’i feithrin a’i hyrwyddo yn ein hysgolion wrth ymateb i’r pandemig.

Mae’r gyntaf o’r ddwy rinwedd – creadigrwydd – wedi’i nodi. Rydyn ni wedi gorfod gwneud pethau yn wahanol ac yn y ffyrdd newydd hynny, rydyn ni wedi dod o hyd i rai ffyrdd gwell o wneud pethau o bryd i’w gilydd. Rwy’n credu ein bod wedi cael cipolwg ar y byd y bydd y cwricwlwm newydd yn ein helpu i’w greu ar gyfer dysgwyr yn yr ysgolion.

Rydych chi, eich staff a’ch dysgwyr wedi arddangos gwytnwch a hyblygrwydd eithriadol - ac mae’n rhaid i ni ddysgu o hynny.

Rhaid i ni barhau i rymuso a galluogi athrawon i ysbrydoli eu dysgwyr: er mwyn ymateb i anghenion a dyheadau eu dysgwyr drwy’r cwricwlwm i gymru. 

Gyda’n gilydd, rydyn ni’n adeiladu system sy’n cael ei gyrru gan ddibenion a’r math o ddinasyddion yr hoffai pob un ohonom ei weld.

Rwy’n credu mai’r pedwar diben – sy’n dwyllodrus o syml ond hefyd yn radical – yw’r hanfodion ar gyfer y system addysg gyfan. Boed hynny yn yr ystafell ddosbarth, ar gampws, neu hyd yn oed yn y gweithle.

Rydyn ni’n dod â gwybodaeth, sgiliau a phrofiadau at ei gilydd – dim cwricwlwm sy’n canolbwyntio ar un o’r rhain yn unig yw hwn – gyda mynediad teg, dyheadau ac uchelgeisiau.

Rydyn ni’n grymuso pob dinesydd, dysgwr, ymchwilydd i gyflawni ei botensial yn llawn.

Mae hyn yn cynnwys profi syniadau a thystiolaeth, ac annog cwestiynau a heriau.

Mae’r ffordd newydd yma o wneud pethau yn gofyn am fwy o ymddiriedaeth yn ein proffesiwn addysgu – ymddiriedaeth yr ydych chi’n ei haeddu. Dyma pam mae’n rhaid i ni achub ar y cyfle hwn.

Rwy’n gwybod bod cyflwyno cwricwlwm newydd yn frawychus wrth gwrs – mae’n rhan o’r natur ddynol i deimlo felly. Mae hwn yn gyfle na welwyd ei debyg o’r blaen i newid er gwell. 

Rydyn ni wedi bod yn glir y byddwn ni’n gweithio gyda’n partneriaid, er mwyn sicrhau bod yr holl ysgolion yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnyn nhw i symud ymlaen yn hyderus tuag at ddiwygio’r cwricwlwm. Byddwn yn cefnogi ysgolion i weithio gyda’i gilydd i ddatblygu dealltwriaeth a gwybodaeth, ac i hyrwyddo a gwerthfawrogi’r daith tuag at welliant parhaus rydyn ni i gyd arni. 

Gadewch i mi fod yn glir: does dim clec fawr; dim cynnyrch terfynol wedi’i gyflwyno’n berffaith ar y diwrnod cyntaf.

Proses ailadroddus yw hon – rhywbeth y byddwch yn adeiladu arno bob dydd, yn gweithio gyda’ch staff a’ch dysgwyr, yn codi safonau ac yn darparu cwricwlwm eang iddyn nhw, sy’n cipio dychymyg ein dysgwyr.

Mae ein rhwydwaith cenedlaethol yn gyfle i ddod ag ymarferwyr ac athrawon at ei gilydd i ddysgu gan y naill a’r llall ynghylch y cysyniadau craidd a’r materion sy’n ymwneud â diwygio’r cwricwlwm. Byddwn yn rhannu’r wybodaeth o’r cyfarfodydd hyn er mwyn i bawb elwa. 

Bydd llywodraeth cymru, drwy weithio gyda gwasanaethau gwella ysgolion, yn parhau i gefnogi’r gweithlu drwy roi blaenoriaeth i ddysgu proffesiynol. Rydyn ni’n gwario mwy nag erioed ar athrawon yn hanes addysg cymru. Ond rhaid i hyn fod yn fwy na dim ond y llywodraeth yn darparu cyllid.

Dros y misoedd mesaf, byddwn yn rhoi pecyn o gymorth dysgu proffesiynol at ei gilydd, y bydd gan bawb o bob cwr o gymru yr hawl iddo ac y bydd pawb yn elwa ohono. 

Mae’r gair ‘hawl’ yn bwysig yma – bydd gan bob un gweithiwr addysg proffesiynol yr hawl i ddysgu proffesiynol o ansawdd uchel.

Byddwn yn gweithio i symleiddio mynediad at y cymorth hwn; gan ei gwneud yn haws i ganfod y ffordd drwy’r amrywiaeth o gyfleoedd dysgu proffesiynol sydd ar gael i chi a’ch staff. Adnoddau gwych a hwylus.

Ochr yn ochr â hyn, byddwn yn sicrhau bod y dull gweithredu tuag at gymwysterau yn cyd-fynd â’r gwerthoedd sydd yn rhan greiddiol o’n cwricwlwm newydd: eu bod yn hybu profiadau, sgiliau a gwybodaeth integredig dwfn; dadansoddi beirniadol a dysgu tymor hir; a’u bod yn dilyn dull gweithredu mwy modern wrth asesu, gan adeiladu ar yr hyn rydyn ni fel gwlad wedi’i ddysgu yn y flwyddyn ddiwethaf. 

Rwy’n annog pob un ohonoch chi i rannu eich arbenigedd a’ch profiad gyda chymwysterau cymru wrth i’r corff ddechrau ymgysylltu’n helaeth ar fanylion y cymwysterau, yn ei ymgynghoriad y flwyddyn nesaf. 

Rwyf am i’n proses o ddiwygio cymwysterau gyfateb i uchelgais diwygio ein cwricwlwm.

Llesiant

Yr ail rinwedd yw llesiant. Fy uchelgais i yw bod cymru’n arwain y byd o ran rhoi lle blaenllaw i lesiant mewn unrhyw waith diwygio.

Am y tro cyntaf, bydd gan iechyd a llesiant statws cyfartal yn y gyfraith â meysydd pwysig eraill y cwricwlwm ysgol.

Byddwn yn canolbwyntio’n fwy penodol ar ddatblygu perthnasoedd iach o’r blynyddoedd cynnar, gan helpu ein pobl ifanc i ddysgu sut beth yw perthynas iach a sut mae trin ei gilydd â pharch.

Ym mis mawrth, fe wnaethon ni gyhoeddi ein fframwaith statudol ar sefydlu dull ysgol gyfan ar gyfer llesiant emosiynol a meddyliol. Mae hwn yn gam hollbwysig.

Mae’n rhoi pwyslais gwirioneddol ar hybu amgylchedd diwylliannol cadarnhaol mewn ysgolion, lle mae staff allweddol ysgolion, rhieni ac eraill yn gweithio gyda’i gilydd i greu amgylchedd cefnogol lle mae pobl ifanc yn cael eu hannog i gyflawni eu potensial personol ac academaidd. 

Mae llesiant staff yr un mor bwysig. Mae hyn yn flaenoriaeth i mi.

Mae athrawon bodlon yn addysgu’n well ac mae arweinwyr bodlon yn arwain yn well. Mae mor syml â hynny.

Rydyn ni wedi ariannu pecyn pwrpasol wedi’i deilwra o wasanaethau cymorth iechyd meddwl a llesiant drwy’r elusen education support. Mae hyn yn cynnwys cefnogaeth gan gymheiriaid a goruchwyliaeth dros y ffôn ar gyfer uwch arweinwyr, hyb gofalu am athrawon ar gyfer holl staff addysg, a hyfforddiant cydnerthedd gyda chymorth ymgynghorwyr llesiant. Gall y gweithlu addysg ledled cymru gael mynediad at y gefnogaeth hon. Dim ond y dechrau yw hyn – mae’n rhaid i ni wneud mwy. Rwyf wedi gofyn i fy swyddogion edrych ar beth arall y gallwn ni ei wneud yn y maes hwn. 

Drwy ein grŵp rheoli llwyth gwaith a lleihau biwrocratiaeth, rydyn ni hefyd yn gweithio gyda phobl ar draws y proffesiwn i ganfod meysydd allweddol y gellir eu dileu o’r system ysgolion, er mwyn lleihau llwyth gwaith a chael gwared ar fiwrocratiaeth ddiangen. 

Mae’r grŵp a swyddogion yn ystyried nifer o atebion ymarferol ar hyn o bryd, gyda’r bwriad o symud pethau ymlaen cyn gynted â phosibl. Rwy’n gobeithio y byddaf yn gallu dweud mwy am hyn yn y misoedd nesaf.

Y gymraeg

Hoffwn ddweud rhywbeth yn olaf am y rhan arall o fy nghyfrifoldebau fel gweinidog – y gymraeg. Pan gefais fy mhenodi gan y prif weinidog roeddwn yn arbennig o falch o gael cyfrifoldeb dros ein hiaith, yn ogystal ag addysg.

Mae hyn yn rhoi cyfle go iawn i ni sicrhau bod y ddau faes polisi hyn yn gweithio gyda’i gilydd fel un. Mae’r gymraeg yn perthyn i ni i gyd. Dim ots faint o gymraeg sydd gennym ni, mae’r rhan fwyaf o bobl yn gwybod o leiaf rhywfaint o eiriau. Ond p’un ai ydyn ni’n siaradwyr rheolaidd a hyderus neu ddim ond yn defnyddio ambell air o bryd i’w gilydd, hoffwn annog pob un ohonom i ddefnyddio’r iaith.

Mae gennym ni uchelgeisiau mawr ar gyfer ein hiaith, ac mae gennym ni gynlluniau mawr er mwyn eu gwireddu. Mae’r uchelgais cyntaf, sef ein bod yn dymuno gweld miliwn o siaradwyr cymraeg erbyn 2050, wedi cael cryn sylw yn y penawdau.

Ond beth am ail brif darged cymraeg 2050 – sef dyblu canran y boblogaeth sy’n siarad cymraeg bob dydd?

Mae’r ffordd yma o feddwl yn mynd y tu hwnt i greu hawliau. Yn wir, mae’n mynd y tu hwnt i greu siaradwyr newydd. Mae canolbwyntio ar wir ddefnydd yn creu lefel ychwanegol o uchelgais.

Rwyf am i ni edrych ar ein holl waith polisi iaith drwy ‘lens’ defnyddio – a yw’r hyn rydyn ni’n ei wneud yn annog ac yn helpu pobl i ddefnyddio eu cymraeg â’i gilydd?

Ac mae addysg yn ganolog i’n gweledigaeth ar gyfer defnydd iaith hefyd wrth gwrs. Felly dros amser mae’n rhaid i ni sicrhau bod mwy o’n pobl ifanc yn dod allan o’r system addysg yn barod ac yn falch o ddefnyddio’r iaith ym mhob cyd-destun. Fel arweinwyr ysgolion a cholegau, mae gennych chi rôl hollbwysig.

Yn ystod y blynyddoedd nesaf, byddwn yn cymryd camau i sicrhau bod pob plentyn ym mhob rhan o gymru yn gallu cael yr un mynediad at addysg cyfrwng cymraeg. Byddwn yn dwyn deddfwriaeth ymlaen sy’n cefnogi ein hysgolion a’n colegau yn hyn o beth. Ond hefyd byddwn yn annog pobl i ddal ati i ddysgu mwy a mwy o gymraeg ar ôl gadael yr ysgol hefyd.

Casgliad

I gloi, gydweithwyr, hoffwn fynd yn ôl i'r dechrau. Maen nhw’n dweud yn aml mai gwir brawf arweinyddiaeth yw pa mor dda rydych chi’n gweithredu mewn argyfwng.

Mewn cyfnod pan oedd ein gwlad ni mewn angen, mae eich arweinyddiaeth chi wedi bod, ac yn parhau i fod, yn wirioneddol eithriadol.

Mae’r bobl ifanc sy’n mynd drwy ein system addysg yn y cyfnod heriol a chythryblus hwn yn haeddu'r un cyfleoedd ag unrhyw berson ifanc arall ar unrhyw adeg arall.

Diolch i chi am eich holl waith caled anhygoel yn eu cefnogi nhw, ac yn cefnogi eich staff, a hoffwn bwysleisio y byddaf innau hefyd yn gwneud popeth o fewn fy ngallu i’ch cefnogi chithau.

Edrychaf ymlaen at weithio gydag eithne a’r tîm yn ystod y misoedd nesaf.

Diolch.