TB mewn gwartheg: Adweithyddion Amhendant Newidiadau i reolau 3 blynedd: cwestiynau cyffredin
Gwybodaeth fanwl yn esbonio'r newidiadau i reol 3 blynedd yr Adweithyddion Amhendant (IR).
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
1. Beth sy’n digwydd i’r rheol 3 blynedd ar wartheg sy’n cael adwaith amhendant?
O 17 Ionawr 2022, os bydd prawf TB ar fuches yng Nghymru sydd â Statws Heb TB Swyddogol yn dangos adweithyddion amhendant yn unig, bydd y fuches o dan gyfyngiadau nes y bydd y gwartheg gafodd adwaith amhendant yn cael prawf TB arall.
2. Beth sy’n newid?
Bydd buchesi â Statws Heb TB Swyddogol yng Nghymru sydd ag adweithyddion amhendant yn unig yn aros o dan gyfyngiadau tan y rhoddir prawf arall i’r adweithyddion amhendant. Yna:
- os caiff yr adweithyddion amhendant ganlyniad negyddol, codir y cyfyngiadau, neu
- os bydd un neu fwy o’r adweithyddion amhendant yn cael adwaith i’r prawf neu ganlyniad amhendant am yr ail dro (a’u gwneud yn adweithyddion), bydd y fuches yn colli ei Statws Heb TB Swyddogol (OTFW).
3. Pam newid pethau?
Dyma’r rhesymau dros y newid a’r manteision a ddisgwylir:
a) Mae astudiaethau yn Iwerddon a Lloegr wedi dangos mewn buchesi sy’ â dim ond adweithyddion amhendant, bod mwy o risg i’r gwartheg hynny fynd yn adweithyddion na gwartheg sy’n cael prawf clir
b) Bydd gwartheg sydd wedi cael prawf clir ddim yn cael symud o’r fuches – hynny ar adeg pan mae tipyn o risg y gallai’r fuches golli ei Statws Heb TB yn y dyfodol agos.
c) Mae’n gwneud yn siŵr nad yw’r gwartheg risg uwch allai cael adwaith amhendant yn yr ail brawf wedi cael eu symud o’r fuches
4. Sut bydd y newidiadau hyn yn gweithio?
Mewn buches sydd â Statws Heb TB Swyddogol yng Nghymru sydd â dyddiad TT2 (dyddiad olaf y ffenestr brofi) ar neu ar ôl 17 Ionawr 2002 sy’n dangos adweithyddion amhendant yn unig (heb yr un adwaith i’r prawf), dylai milfeddygon ddweud wrth geidwad y gwartheg bod y fuches o dan gyfyngiadau symud ar unwaith ac ni chaiff y cyfyngiadau eu codi nes bod prawf TB arall yn cael ei roi ar yr adweithyddion amhendant a’u bod yn cael canlyniad negyddol.
Dyma sut bydd hi gydag unrhyw brawf rhannol sydd â dyddiad TT2 cyn 17 Ionawr sy’n dangos adweithyddion amhendant a bod rhan ola’r prawf yn cael ei gynnal ar neu ar ôl 17 Ionawr.
5. Sut y bydd cyfyngiadau’n cael eu cyflwyno os bydd mwy nag un rhif daliad ar gyfer fy muches?
Bydd cyfyngiadau ar gyfer pob rhif daliad parhaol a thros dro ychwanegol sy’n perthyn i’r un busnes a bydd angen gwahanol drwyddedau a hysbysiadau cyfyngiadau TB02 (hysbysiad yn gwaharddd symud anifeiliaid buchol) oddi wrth Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) er mwyn gallu symud gwartheg rhyngddynt. Bydd angen i unrhyw symud o’r fath ddigwydd o fewn 30 diwrnod i brawf TB yr anifail. Bydd ostyngiad o 50% i unrhyw iawndal ar gyfer unrhyw anifeiliaid a gaiff eu symud dan drwydded ac yna eu difa at ddibenion rheoli TB os bydd anifeiliaid sydd wedi cael adwaith amhendant yn methu’r ail brawf.