Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg
Rwy’n falch o gadarnhau heddiw £24m arall i ddarparu cymorth ychwanegol i’r rhai y mae’r pandemig wedi effeithio fwyaf arnynt.
Cymorth ar gyfer blynyddoedd arholiadau (£7.5m)
Bydd £7.5m yn cael ei ddefnyddio i ddarparu cymorth ychwanegol i ddysgwyr mewn blynyddoedd arholiadau, gydag adnoddau a rhagor o amser addysgu ar gael dros y tymor nesaf.
Byddwn yn sicrhau y gall pob person ifanc mewn blynyddoedd cymwysterau gael cyngor neu gymorth ymarferol i’w helpu i edrych ymlaen at gam nesaf eu bywyd, boed hynny mewn addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth.
Rydym yn canolbwyntio ar gefnogi pobl ifanc i barhau i ddysgu, drwy ddarparu amser, adnoddau a chyngor i’w helpu i symud ymlaen tuag at eu camau nesaf. Credwn mai arholiadau yw’r ffordd decaf o ddarparu cymwysterau, yn enwedig yng nghyd-destun y DU yn ehangach. Mae’n bwysig bod ein pobl ifanc yn cael eu trin yn yr un modd â phobl ifanc mewn rhannau eraill o’r DU, boed hynny mewn perthynas â chymwysterau galwedigaethol, neu ar gyfer opsiynau i’r dyfodol fel dewisiadau prifysgol. Hefyd, ac yn bwysig, cynhelir arholiadau fel arfer ar ddiwedd y flwyddyn ysgol, sy’n rhoi mwy o amser ar gyfer dysgu a pharatoi. Fodd bynnag, ni allwn ragweld dyfodol y pandemig, a rhaid inni adolygu’r sefyllfa’n rheolaidd. Cafodd ysgolion a cholegau wybodaeth am y trefniadau wrth gefn ar gyfer cymwysterau yn gynharach y tymor hwn ac nid yw’r rhain wedi newid.
Bydd ystod o gymorth ar gael dros y tymor nesaf, gan gynnwys cymorth addysgu a dysgu i helpu pobl ifanc i ennill y cymwysterau sydd eu hangen arnynt, ac i gynorthwyo ag ystod o ddewisiadau cynnydd. Byddwn yn creu rhwydweithiau er mwyn cyrraedd y dysgwyr hynny sydd eisoes wedi ymddieithrio – efallai oherwydd eu bod yn poeni na fyddant yn gwneud cynnydd – gyda rhaglen gymorth bwrpasol i ennyn eu diddordeb eto mewn addysg neu hyfforddiant.
Bydd y cyllid ychwanegol yn helpu ysgolion i ymateb i effeithiau parhaus y pandemig. Mae CBAC yn ddiweddar wedi cyhoeddi rhagor o addasiadau i helpu pobl ifanc i baratoi ar gyfer arholiadau, felly mae’r rhain yn awr yn cynnwys addasiadau i gynnwys cyrsiau, llacio amodau ar gyfer cwblhau asesiadau nad ydynt yn arholiadau, a rhoi gwybodaeth ymlaen llaw am destunau arholiadau ar gyfer nifer o bynciau ychwanegol.
Bydd y cyllid yn helpu ysgolion i gefnogi dysgwyr i ddatblygu eu sgiliau, eu gwybodaeth a’u hyder, yn enwedig mewn cymwysterau craidd fel Mathemateg a Saesneg, sy’n bwysig ar gyfer cynnydd, ynghyd â chefnogi’r rhai sy’n teimlo’n bryderus ynghylch arholiadau. Bydd y cyllid yn cael ei anelu’n bennaf at ysgolion sydd â mwy o ddysgwyr yn gymwys ar gyfer prydau ysgol am ddim.
Presenoldeb (£7m)
Bydd dros £7m yn mynd tuag at gefnogi dysgwyr y mae eu presenoldeb wedi gostwng yn ystod y pandemig. Bydd cymorth pwrpasol yn cael ei ddarparu ledled Cymru i gefnogi dysgwyr Blwyddyn 11 sydd â phresenoldeb isel i’w helpu i gwblhau eu graddau TGAU, neu i’w helpu i gyrraedd y cam nesaf yn eu haddysg neu wrth ddechrau eu gyrfa. Bydd cymorth hefyd yn cael ei roi i ddysgwyr mewn blynyddoedd eraill.
Bydd cyllid hefyd yn cael ei ddarparu i gefnogi llesiant ac addysg dysgwyr mewn Unedau Cyfeirio Disgyblion, yn ogystal â hyfforddiant ychwanegol i helpu i gefnogi plant a phobl ifanc sydd wedi dioddef o drawma neu sydd â phroblemau iechyd meddwl.
Cymorth ar gyfer dysgwyr Addysg Bellach a Chweched Dosbarth i bontio i gam nesaf eu haddysg neu yrfa (£9.5m)
Bydd £9.5m yn cael ei ddarparu i golegau addysg bellach neu ddosbarthiadau chweched i helpu pobl ifanc i bontio i gam nesaf eu haddysg neu yrfa. Bydd y cyllid hefyd yn helpu i gynnig gweithgareddau fel sesiynau blasu ar gyfer gyrfaoedd galwedigaethol a diwrnodau agored, gan gynnal y platfform Barod ar gyfer Prifysgol mewn partneriaeth â’r Brifysgol Agored a phrifysgolion yng Nghymru.
Byddwn yn gweithio mewn partneriaeth â Gyrfa Cymru i ddarparu cyngor personol a diduedd i bobl ifanc er mwyn eu helpu drwy’r cyfnod pontio hwn, gan roi tawelwch meddwl iddynt a’u cyfeirio at opsiynau ar gyfer cynnydd addysgol, ni waeth beth fo deilliannau’r cymwysterau. Bydd pob person ifanc sy’n astudio cymwysterau TGAU, Safon Uwch, Safon UG a chymwysterau galwedigaethol yn gallu cael y cymorth a’r cyngor ymarferol hwn fel rhan o’n hymrwymiad i sicrhau y gall pobl ifanc symud yn fwy hyderus i’w camau nesaf er gwaetha’r sefyllfa sydd ohoni.