Mae'r Baromedr yn asesu hyder busnesau yn niwydiant twristiaeth Cymru ac yn darparu canlyniadau dangosol ar lefel genedlaethol, ranbarthol a sectoraidd ar gyfer cam yr hydref 2021.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Baromedr Twristiaeth
Gwybodaeth am y gyfres:
Prif bwyntiau
- Mae tua dau o bob pump o weithredwyr wedi cael mwy o gwsmeriaid o gymharu â hydref ‘normal’ (cyn Covid), mae cyfran debyg wedi cael yr un peth, ac mae 27% wedi cael llai.
- Mae hyn yn dilyn haf prysur, pan adroddodd tua hanner fwy o ymwelwyr nag mewn haf cyn-Covid arferol, a nododd 31% yr un peth.
- Y prif reswm dros farchnad fywiog yw bod pobl ar eu gwyliau yn y DU wedi bod yn trefnu gwyliau yng Nghymru yn lle dramor.
- Ar hyn o bryd, mae 28% o fusnesau yn y sectorau llety â gwasanaeth, tafarndai, bwytai a chaffis yn ceisio recriwtio staff.
- Mae dau ffactor allweddol sy'n effeithio ar hyder: a fydd mwy o gyfyngiadau symud yn sgil amrywiolion Covid newydd, ac a fydd niferoedd mawr yn cymryd gwyliau yn y DU unwaith eto neu'n dychwelyd i wyliau dramor.
- Mae profiad y ddwy flynedd ddiwethaf wedi ysgogi chwarter o fusnesau i wneud newidiadau strategol parhaol.
- Mae tua chwarter y gweithredwyr sy'n gwneud newidiadau strategol parhaol wedi penderfynu canolbwyntio eu hymdrechion ar gynnyrch neu wasanaeth craidd penodol yn hytrach na cheisio gwneud gormod.
Adroddiadau
Baromedr Twristiaeth: cam yr hydref 2021 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB
PDF
2 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.
Cyswllt
Phil Nelson
Rhif ffôn: 0300 025 3187
E-bost: ymchwiltwristiaeth@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.