Lesley Griffiths, Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Hoffwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau o'r Senedd am nifer y taliadau BPS llawn ac olaf sy’n cael eu gwneud heddiw.
Mae dros 93% o hawlwyr wedi cael eu taliad BPS 2021 llawn neu olaf. Gwnaed taliadau i dros 15,000 o fusnesau fferm. Hyd yma, mae busnesau fferm Cymru wedi elwa ar daliadau gwerth £227m, sy’n cynnwys £159m a dalwyd fel Rhagdaliadau BPS ar 15 Hydref.
Cyflwynais ddeddfwriaeth ar ddechrau'r flwyddyn a oedd yn symleiddio’r gofynion BPS ar gyfer 2021. Arweiniodd hyn at gais symlach i ffermwyr, proses weinyddu wedi’i symleiddio i swyddogion a chaniatáu i Ragdaliadau BPS cynnar gael eu gwneud ym mis Hydref.
Unwaith eto, mae Taliadau Gwledig Cymru (RPW) wedi gwneud nifer trawiadol o daliadau BPS ar ddechrau'r cyfnod talu, sy’n rhagori ar y nifer a wnaed y llynedd, gan barhau i weithredu o dan yr amgylchiadau heriol yn sgil pandemig COVID-19.
Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i bawb, gan gynnwys rhanddeiliaid yn y diwydiant sydd wedi gweithio gyda'm swyddogion i symleiddio'r BPS a'n galluogi i barhau i ddarparu'r nifer ardderchog o daliadau BPS i fusnesau fferm Cymru ar ddechrau'r cyfnod talu.
Bydd fy swyddogion yn parhau i weithio'n galed i brosesu'r hawliadau BPS 2021 sy'n weddill heb eu talu cyn gynted â phosibl. Rwy'n disgwyl i bob hawliad BPS ond yr achosion mwyaf cymhleth gael eu cwblhau erbyn 30 Mehefin 2022.