Heddiw, cyhoeddodd Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi, fod Llywodraeth Cymru’n gweithio gyda Chymdeithas Adeiladu Sir Fynwy i gyflymu’r broses o sefydlu a gweithredu banc cymunedol, Banc Cambria, ledled Cymru.
Mae Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru’n cynnwys ymrwymiad i gefnogi’r broses o greu Banc Cymunedol i Gymru, er mwyn ceisio mynd i’r afael â methiant y farchnad mewn perthynas â’r bwlch yn narpariaeth, effeithiolrwydd ac ansawdd gwasanaethau bancio yng Nghymru.
Cadarnhaodd Gweinidog yr Economi heddiw fod Cymdeithas Adeiladu Sir Fynwy, gan weithio gyda Llywodraeth Cymru a Cambria Cydfuddiannol Ltd (CCL), wedi cyhoeddi ei bwriad i ddatblygu’r ffordd y byddai’n cyflwyno banc cymunedol yng Nghymru, Banc Cambria, a fydd yn ceisio darparu gwasanaethau bancio manwerthu llawn ledled Cymru erbyn 2023.
Mae gan y DU un o’r systemau Bancio Manwerthu lleiaf amrywiol yn Ewrop, sydd wedi’i dominyddu gan nifer bach o fanciau mawr iawn. Maent yn gweithredu yn unol â model busnes gwerth rhanddeiliaid, sy’n ceisio gwneud yr elw mwyaf i’w perchnogion.
Ers i Weinidogion Cymru nodi cynlluniau i ddechrau ar gyfer ystyried y gwaith o greu Banc Cymunedol i Gymru, mae Banciau’r Stryd Fawr traddodiadol wedi cyflymu eu proses o gilio o Stryd Fawr Cymru ymhellach.
Mae nifer cynyddol o gymunedau ledled Cymru bellach wedi cael eu gadael heb fynediad at wasanaethau bancio hygyrch, y mae Gweinidogion yn credu sy’n wasanaeth cyhoeddus hanfodol – gan effeithio fwy ar y cymunedau gwledig a’r unigolion a’r busnesau hynny ledled Cymru, sy’n dibynnu fwy ar arian parod, a bancio drwy berthynas wyneb yn wyneb.
Mae Banciau Manwerthu’r Stryd Fawr yn cilio o’n Stryd Fawr ar gyflymder brawychus sy’n parhau i gyflymu:
- Yn ôl data ONS, mae 4,390 yn llai o ganghennau banciau yn y DU, sy’n ostyngiad o 39%, rhwng 2012 a 2021.
- Mae Which? yn amcangyfrif erbyn diwedd 2022, dim ond 277 o ganghennau Banciau a Chymdeithasau Adeiladu fydd ar ôl yng Nghymru.
Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:
“Mae ein gweledigaeth ar gyfer y Banc Cymunedol i Gymru yn seiliedig ar y model cydfuddiannol, y bydd aelodau’n berchen arno ac y caiff ei gynnal er eu budd nhw, yn hytrach na sicrhau’r elw fwyaf i randdeiliaid. Bydd yn fanc cymunedol modern sydd â gwasanaeth llawn, gyda phencadlys yng Nghymru, gan ddarparu mynediad at gynnyrch a gwasanaethau dwyieithog, drwy amrywiaeth o sianeli gan gynnwys bancio digidol, ar-lein ac mewn cangen.
“Bydd y Banc yn hwyluso’r broses o fuddsoddi’n lleol ac yn ennill cyfoeth cymunedol gan ailgylchdroi arbedion yn fenthyciadau ac osgoi colli cyfalaf. Rydym yn gobeithio’n fawr y bydd yn effeithio’n gadarnhaol ar gymunedau a’r stryd fawr ledled Cymru, gan wella mynediad at wasanaethau bancio bob dydd ar gyfer dinasyddion waeth beth yw eich incwm neu’ch cyfoeth, yn ogystal ag ar gyfer busnesau bach ledled Cymru gyfan.
Mae Cymdeithas Adeiladu Sir Fynwy wedi cyhoeddi heddiw ei bwriad i ddatblygu’r ffordd y bydd yn cyflwyno banc cymunedol yng Nghymru, Banc Cambria.
Nod Banc Cambria yw darparu gwasanaethau bancio manwerthu llawn bob dydd, gan gynnig gwasanaethau bancio amlsianel dwyieithog i unigolion a busnesau bach; dros y ffôn, yn ddigidol, ar-lein ac wyneb yn wyneb.
Ni all Banc Cambria ddisodli nifer cynyddol y canghennau sy’n cau oherwydd Banciau’r Stryd Fawr. Fodd bynnag, nod Banc Cambria yw sefydlu tua 30 o safleoedd newydd yn ystod y degawd nesaf, gan ganolbwyntio ar gymunedau sydd wedi colli darpariaeth.
Mae Banc Cambria’n amcangyfrif y gall lansio i gwsmeriaid yn 2023.
Ychwanegodd y Gweinidog:
“Mae cyflwyno banc cymunedol yn addas ar gyfer Cymdeithas Adeiladu Sir Fynwy, Model Cydfuddiannol Cymru sydd â phencadlys yng Nghasnewydd. Maen nhw wedi bod yn gwasanaethu a chefnogi aelodau a chymunedau hyd a lled de a gorllewin Cymru er mwyn arbed a ffynnu am fwy na 150 o flynyddoedd. Fel Model Cydfuddiannol, mae eisoes yn sefydliad sy’n seiliedig ar fwriad, gan roi mynediad i gymunedau at help a chymorth ariannol mewn lleoliadau sy’n gyfleus iddynt.
“Er bod llawer o waith i’w wneud o hyd, gyda cherrig milltir allweddol a phenderfyniad pellach i’w gwneud gan Lywodraeth Cymru, y Gymdeithas a Cambria Cydfuddiannol Ltd, rydym yn ymrwymedig o hyd i roi’r holl gymorth priodol ac angenrheidiol er mwyn helpu i gyflymu’r gwaith o sefydlu a chyflwyno Banc Cambria ledled Cymru.
Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol Cymdeithas Adeiladu Sir Fynwy, Will Carroll:
“Er bod y prosiect hwn yn ei gamau cynnar iawn, mae’r Gymdeithas wrth ei bodd i weithio gyda Llywodraeth Cymru i wireddu’r dyhead o gael banc cymunedol yng Nghymru. Yn ein barn ni, bydd cyflwyno banc cymunedol yn cefnogi diben y Gymdeithas o ddarparu mwy o wasanaethau perthnasol i fwy o aelodau mewn mwy o fannau yng Nghymru.
Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi gwaith archwiliol a gynhelir gan Cambria Cydfuddiannol Ltd (CCL), cymdeithas gydweithredol a sefydlwyd i ystyried y broses o greu Banc Cambria fel y Banc Cymunedol i Gymru.
Dywedodd Cadeirydd CCL, Alex Bird:
“Mae Sir Fynwy’n berffaith i gyflwyno Banc Cambria. Fel model cydfuddiannol modern maen nhw’n canolbwyntio ar gefnogi cymunedau a chynnig gwerth i’w haelodau. Drwy weithio gyda’r tîm yn Sir Fynwy, mae’n amlwg ei fod yn frand y gellir ymddiried ynddo yn y farchnad ac rydym yn hyderus y bydd y gwerthoedd rydym wedi’u datblygu yn ddiogel yn eu dwylo nhw.