Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Yn sgil y risgiau parhaus sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws, gan gynnwys yr amrywiolyn newydd omicron, sydd wedi dod i’r amlwg yn gyflym yn ddiweddar, rydym yn parhau i gynghori pobl i beidio â theithio dramor ar hyn o bryd oni bai bod hynny’n hanfodol.
Yn unol â phenderfyniadau sy’n cael eu gwneud mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, rwyf wedi cytuno i dynnu pob un o’r 11 gwlad sydd ar y rhestr goch ar hyn o bryd o’r rhestr honno. Cafodd y gwledydd hyn eu hychwanegu at y rhestr pan ddaeth yr amrywiolyn omicron i’r amlwg. Dair wythnos yn unig ar ôl iddo ddod i sylw Sefydliad Iechyd y Byd, mae omicron wedi lledaenu o gwmpas y byd, ac mae bellach wedi hen gyrraedd y DU.
Caiff y newidiadau hyn eu cyflwyno am 04:00 ddydd Mercher 15 Rhagfyr.
Bydd yn bwysig cadw’r opsiwn o roi gwlad ar y rhestr goch ar gyfer teithio rhyngwladol yn y dyfodol, a bod modd cyflwyno’r newidiadau hyn yn gyflym fel ffordd o atal achosion newydd o’r coronafeirws rhag cael eu cludo i’r DU pan ddaw amrywiolion newydd sy’n peri pryder i’r amlwg.
Mae hefyd angen i ni gadw’r gallu i gyflwyno mesurau wrth gefn yn gyflym, megis gwestai cwarantin a reolir pan fydd amrywiolion newydd sy’n peri pryder yn cael eu darganfod.
Mae’n parhau’n hollbwysig ein bod yn dal i gynnal mesurau i atal heintiau newydd o’r coronafeirws rhag cael eu cludo i’r wlad, megis profion cyn ymadael, sy’n hanfodol er mwyn atal lledaeniad yr haint sy’n gysylltiedig â theithio.
Mae profion diwrnod 2 yn gweithio fel rhyw faith o system fonitro ar gyfer teithio rhyngwladol. Pe bawn wedi cadw’r gofyniad i wneud profion PCR ar ddiwrnod 2, mae’n bosibl y byddem wedi dod yn ymwybodol o bresenoldeb omicron o ganlyniad i deithio rhyngwladol yn gynt.
Rydym yn parhau i annog pawb yng Nghymru i gael eu brechu gan gynnwys cael brechiad atgyfnerthu, sy’n hanfodol er mwyn cynyddu lefel ein hamddiffyniad yn erbyn yr amrywiolyn omicron.