Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi
Tua'r adeg yma llynedd, cyhoeddwyd Cynllun Gweithredu Llywodraeth Cymru ar Allforio, fel rhan o gyfres o gynlluniau i roi ein Strategaeth Ryngwladol ar waith. Rwyf am roi'r diweddaraf i'r Aelodau am yr ystod o gamau yr ydym wedi'u cymryd i ysbrydoli a helpu allforwyr yng Nghymru dros ddeuddeng mis cynta’r Cynllun, sy'n rhan allweddol o’n Rhaglen Lywodraethu.
Afraid dweud, dros y 18 mis diwethaf mae masnach ryngwladol, ynghyd â busnesau yng Nghymru, wedi profi anawsterau mawr yn sgil effeithiau cyfunol COVID-19 a’r gofynion masnachu cymhlethach â’r UE, ein partner masnachu mwyaf. Adlewyrchir hyn yn yr ystadegau allforio dros dro diweddaraf, sy'n dangos bod gwerth allforion nwyddau o Gymru o £13.5 biliwn yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2021, i lawr £2.0 biliwn (13.1%) o'i gymharu â'r flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2020 ac i lawr £4.3 biliwn (24.1%) o'i gymharu â'r flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2019.
Mae hyn yn dangos yr her ddi-dor i'r llywodraeth, busnesau, ein rhanddeiliaid a'n partneriaid a phwysigrwydd cydweithio ar ein huchelgais cyfunol tymor hwy i sicrhau twf allforion Cymru. Rhoddwyd y Cynllun Gweithredu ar Allforio ar waith i helpu busnesau i ymadfer; i’n helpu ni i ailddyfeisio ac addasu ein cymorth i ddiwallu anghenion busnesau allforio; a sicrhau bod ein hallforwyr yn barod ar gyfer unrhyw ofynion masnachu newydd o ganlyniad i gytundebau masnach rydd newydd, gan gynnwys gyda'r UE.
Rydym wedi cryfhau’n tîm o Gynghorwyr Masnach Ryngwladol (ITAs) ac mae eu cyfraniad at roi cyngor, arweiniad a chymorth cyflym i fusnesau wrth ddelio â'r heriau hyn wedi bod yn hanfodol, gan weithio'n agos gyda'r ecosystem ehangach o gymorth allforio yng Nghymru a chyda swyddogion Llywodraeth y DU ar draws ystod o adrannau. Rwyf hefyd wedi ymweld â nifer o allforwyr o Gymru i glywed yn uniongyrchol sut y maen nhw wedi addasu i ymdopi â'r heriau byd-eang presennol ac wedi manteisio ar gymorth Llywodraeth Cymru i ddod o hyd i gyfleoedd allforio newydd.
Mae'r Cynllun yn cynnwys hefyd gweithredoedd i sbarduno twf allforion Cymru yn y tymor hwy, gan gynyddu cyfraniad allforion at economi Cymru. Mae'r elfen gyntaf yn canolbwyntio ar ysbrydoli busnesau i ddechrau allforio. Rydym wedi cryfhau eleni ein hymgyrch Esiamplau Allforio i dynnu sylw at lwyddiannau busnesau bach a chanolig yng Nghymru sydd eisoes yn allforio, er mwyn annog eraill i fentro. Hyd yma, rydym wedi gweld cynnydd yn y traffig i'r wefan Allforio o'i gymharu â'r un cyfnod (cyn y pandemig). Mae nifer o Esiamplau’r ymgyrch wedi cael sylw cadarnhaol yn y cyfryngau gan gynnwys mewn cylchgronau masnach cenedlaethol.
Mae ein hymgyrch farchnata integredig yn parhau i hyrwyddo straeon allforio ein Hesiamplau i ysbrydoli eraill i ddechrau allforio. Cymerodd nifer o'n Hesiamplau ran hefyd yn ein Cynhadledd Allforio flynyddol ym mis Mawrth i hyrwyddo manteision allforio ymhellach, trafod problemau cael mynediad i farchnadoedd a thynnu sylw at gyfleoedd yn y farchnad, gyda thros 100 o gynrychiolwyr yn cymryd rhan.
Elfen allweddol o'r Cynllun yw meithrin y gallu yng Nghymru i allforio. I’r perwyl hwnnw, rydym wedi cyflwyno rhaglen gynhwysfawr o weminarau ar allforio ar gyfer busnesau Cymru ac wedi cryfhau ein cynnwys ar-lein am allforio, ar lwyfan Busnes Cymru. Mae hyn yn cynnwys yr Hyb Allforio ar-lein, sy’n darparu gwybodaeth fyw am amrywiaeth o agweddau ar allforio, yn ogystal â modiwlau allforio newydd i helpu allforwyr hen a newydd.
Ym mis Medi, lansiais fenter Clwstwr Allforio newydd, sy'n anelu at ddod â busnesau o sectorau allweddol ynghyd i wella’u gwybodaeth a'u dealltwriaeth o brosesau a chyfleoedd allforio. Mae'r Clystyrau'n dechrau datblygu rhwydweithiau cymorth cryf, gan weithio ar sail "un i helpu nifer", i helpu busnesau i ddatblygu’u hallforion, ac er mwyn iddyn nhw allu rhannu gwybodaeth a phrofiad a chefnogi ei gilydd i drechu’r anawsterau sy’n wynebu allforwyr. Rwy’n cydnabod hefyd ei bod yn bwysig helpu busnesau i ddechrau allforio, felly, ym mis Gorffenaf, lansiais raglen beilot i Allforwyr Newydd, ac rydym yn gweithio'n galed gyda busnesau targed sydd â'r uchelgais a'r potensial i ddod yn allforwyr cynaliadwy a llwyddiannus.
Er gwaethaf y cyfyngiadau ar deithio a chynnal digwyddiadau, rydym wedi parhau i helpu busnesau Cymru i gael at farchnadoedd a chael hyd i gwsmeriaid tramor newydd. Gwnaethon ni gyflwyno cyfres o ‘rith-ymweliadau â marchnadoedd allforio’ ac rydym wedi ymweld ag arddangosfeydd masnach targed, gan weithio'n glos â swyddfeydd tramor Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill yn y farchnad, gan gynnwys yr Adran Fasnach Ryngwladol. Ers i ni gyhoeddi'r Cynllun, rydym wedi cefnogi dros 120 o fusnesau i gymryd rhan mewn gweithgareddau masnach dramor mewn marchnadoedd allweddol, gan gynnwys yng Ngogledd America, y Dwyrain Canol, Asia ac Ewrop.
Rwyf hefyd yn awyddus i wneud y gorau o’r Cymry ar Wasgar i greu cysylltiadau busnes; er enghraifft, mae swyddogion yn gweithio gyda Global Welsh i gryfhau ein rhaglen o deithiau masnach a byddaf hefyd yn cefnogi lansiad Global Welsh y Dwyrain Canol, ei hyb diweddaraf, yn ystod Dubai Expo 2020 ym mis Rhagfyr. Mae ein cynrychiolwyr yn cefnogi allforwyr hefyd drwy gynnig cyngor a rhannu gwybodaeth am y marchnadoedd â chwmnïau sy'n cymryd rhan mewn digwyddiadau masnach tramor. Byddwn yn parhau i hyrwyddo a dangos y gorau sydd gan ddiwydiant Cymru i'w gynnig ar y llwyfan byd-eang.
Er gwaethaf yr heriau di-dor, rydym yn dal yn benderfynol o gydweithio â busnesau a’u helpu i ddatblygu’u hallforion ac i gael y cymorth sydd ei angen arnynt. Yr un pryd, rydym yn cydweithio â Llywodraeth y DU ar faterion polisi masnach ehangach ac wrth negodi Cytundebau Masnach Rydd newydd. Rhaid i unrhyw Gytundeb Masnach Rydd newydd adlewyrchu anghenion busnesau Cymru, yn ogystal â gweddill y DU, a byddwn yn gweithio gyda busnesau Cymru i sicrhau eu bod yn cael manteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd y gall cytundebau masnach eu cynnig.
Mae Cymru ar ei gorau pan fyddwn yn gweithio gyda'n gilydd fel tîm a byddwn yn parhau i weithio mewn partneriaeth â sefydliadau eraill i ddatblygu a manteisio i'r eithaf ar y cymorth sydd ar gael drwy'r ecosystem allforio yng Nghymru. Rydym am sicrhau nad oes 'drws anghywir' y gall busnesau ei agor wrth chwilio am gymorth. Mae hyn yn golygu, p'un a yw busnes yn troi at Lywodraeth Cymru, ein partneriaid, Llywodraeth y DU neu sefydliad arall, y byddwn i gyd yn gallu rhoi cyngor iddynt ar sut orau i wireddu eu huchelgeisiau allforio.