Mae Nodyn Polisi Caffael Cymru (WPPN) newydd blaengar, sy'n awgrymu strategaethau ymarferol i yrru gweithredoedd datgarboneiddio, bellach ar gael.
Gyda thua 60% o ôl troed carbon sefydliad yn codi mewn cadwyni cyflenwi ar gyfer nwyddau a gwasanaethau a brynwyd, mae WPPN 12/21 yn cynnig cyngor ar gamau i'w cymryd yn y tymor byr a'r tymor canolig i leihau allyriadau CO2e mewn cadwyni cyflenwi. Bydd camau caffael cynaliadwy yn cyfrannu'n allweddol at gyrraedd sector cyhoeddus sero net yng Nghymru erbyn 2030, a sero net yn y DU erbyn 2050.
Cymerwch gamau nawr i yrru datgarboneiddio drwy wariant caffael, a helpwch Gymru i arwain y ffordd i gymdeithas sero net: Nodyn Polisi Caffael Cymru WPPN 12/21: Datgarboneiddio drwy gaffael - Mynd i'r afael â CO2e mewn cadwyni cyflenwi.