Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw’r ystadegau hyn?

Crynodeb blynyddol o’r achosion o dipio anghyfreithlon yng Nghymru, fel y cofnodwyd gan awdurdodau lleol. Mae’r pennawd yn cynnwys data a gasglwyd am nifer yr achosion o dipio anghyfreithlon, gan gynnwys achosion yn ôl eu maint a’r math o wastraff, yn ogystal â nifer y camau gorfodi a chanlyniadau erlyniadau.

Ystyr tipio anghyfreithlon yw cael gwared ar wastraff ar dir yn anghyfreithlon, yn groes i Adran 33(1)(a) o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990. Mae tipio anghyfreithlon yn gallu llygru’r amgylchedd, bod yn niweidiol i iechyd pobl a difetha ein mwynhad o’n trefi a’n cefn gwlad. Mae hefyd yn tanseilio busnesau gwastraff cyfreithlon, ac mae’n gallu effeithio ar y posibilrwydd o fewnfuddsoddi mewn ardal.

Mae cyfrifoldeb ar awdurdodau lleol a Chyfoeth Naturiol Cymru am wastraff sy’n cael ei adael yn anghyfreithlon. Mae dyletswydd ar awdurdodau lleol i glirio gwastraff o dir cyhoeddus yn eu hardaloedd felly nhw sy’n delio â’r mwyafrif helaeth o achosion o dipio anghyfreithlon ar dir cyhoeddus, ymchwilio iddynt a chymryd amrywiaeth o gamau gorfodi. Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n gyfrifol am ddelio ag achosion mawr, difrifol a chyfundrefnol o dipio anghyfreithlon sy’n golygu bygythiad uniongyrchol i iechyd pobl neu’r amgylchedd. 

Mae data am dipio anghyfreithlon yng Nghymru yn cael ei gasglu er mwyn helpu Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a Thaclo Tipio Cymru i fynd i’r afael â’r broblem. Mae’r Modiwl Tipio Anghyfreithlon yn  WasteDataFlow, sef cronfa ddata ar we ar gyfer tipio anghyfreithlon, yn caniatáu i awdurdodau lleol gofnodi nifer yr achosion o dipio anghyfreithlon ar dir yn eu hardal bob mis. Mae’r Modiwl Tipio Anghyfreithlon wedi cymryd lle’r hen system Flycapture, sef system a oedd yn cael ei defnyddio hyd at 2014. Cafodd cronfa ddata Flycapture ei chyflwyno yn 2004 fel un mesur i helpu i gyflawni gofynion Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003. Dim ond achosion o dipio anghyfreithlon y mae awdurdodau lleol yn delio â nhw sydd dan sylw yn y datganiad hwn. Mae’n bosibl fod nifer yr achosion yng Nghymru yn uwch na’r hyn a ddangosir.

Mae’r set lawn o ddata, gan gynnwys dadansoddiadau fesul awdurdodau lleol, ar gael ar wefan Stats Cymru.

Y polisi a’r cyd-destun gweithredol

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wella ansawdd amgylchedd lleol, mynd i’r afael â thipio anghyfreithlon, a lleihau’r swm sy’n cael ei wario ar lanhau.

Nod drafft strategaeth Llywodraeth Cymru 'Cymru Ddi-Dipio' yw sicrhau bod Cymru’n rhydd o’r niwed cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol annerbyniol sy’n cael ei achosi gan dipio anghyfreithlon. Mae amgylchedd glân, diogel, hygyrch a deniadol yn rhan hanfodol o’r Gymru y carai Llywodraeth Cymru ei chael ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

I helpu i gyflawni’r strategaeth, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i ariannu Taclo Tipio Cymru, sef menter sy’n ceisio datblygu dull cwbl integredig i ddelio â thipio anghyfreithlon ac sy’n ceisio sicrhau gostyngiad hirdymor yn hynny drwy gyfuniad o fesurau, gan gynnwys addysg, gorfodi ac ymgysylltu cymunedol.

Yn ystod cyfnod adrodd 2017/18, fe wnaeth Llywodraeth Cymru gyflwyno pwerau newydd sy’n caniatáu i awdurdodau gorfodi roi hysbysiadau cosb benodedig pan fyddant yn delio ag achosion bach o dipio anghyfreithlon a phan ystyrir y byddai erlyn yn gam anghymesur.

Y data: pwy sy’n ei ddefnyddio, a sut

Mae data tipio anghyfreithlon yn cael ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a Chyfoeth Naturiol i helpu i ddatblygu polisi ac i fonitro llwyddiant y polisi hwnnw. Mae Taclo Tipio Cymru, ar y cyd â Llywodraeth Cymru, yn defnyddio’r data i dargedu adnoddau ac ymgyrchoedd yn effeithiol.

Mae ystadegau tipio anghyfreithlon yn bwysig ar gyfer datblygu polisïau a chynllunio’r gwaith o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus. Dyma rai adeg pryd maent yn cael eu defnyddio:

  • monitro
  • datblygu polisïau
  • cyngor i’r Gweinidogion
  • sail i drafod yn y Cynulliad Cenedlaethol a’r tu hwnt
  • proffiliau daearyddol, cymharu a meincnodi

Mae amrywiaeth o bobl yn defnyddio ystadegau tipio anghyfreithlon, gan gynnwys llywodraeth genedlaethol a lleol, ymchwilwyr, myfyrwyr a dinasyddion unigol.

Cryfderau’r data, a’r cyfyngiadau arno

Cryfderau

  • Mae’r wybodaeth yn cael ei phrosesu a’i chyhoeddi’n rheolaidd ac yn drefnus er mwyn i’r defnyddwyr allu gweld yr ystadegau pan fyddant yn gyfredol ac yn bwysig.
  • Mae gwelliannau’n digwydd o ran cysondeb y gwaith adrodd rhwng awdurdodau lleol, ac mae cyfarwyddyd clir ar gael erbyn hyn.
  • Gellir defnyddio’r data i ddangos y problemau sy’n dod i’r amlwg o ran mathau problemus o wastraff neu dir.
  • Darperir ystadegau manwl drwy ein gwefan StatsCymru ar lefel awdurdodau lleol.

Cyfyngiadau

  • Mae anghysondeb o hyd yn y modd y mae awdurdodau lleol yn cofnodi’r data (gweler yr adran ar ansawdd). Yn ddiweddar, mae llawer o awdurdodau lleol wedi gwella’r modd y maent yn cofnodi ac yn adrodd ynghylch achosion o dipio anghyfreithlon felly dylid bod yn ofalus wrth ddehongli newidiadau dros amser
  • Credir nad oes digon yn adrodd ynghylch tipio anghyfreithlon ar dir preifat.
  • Nid yw’r data’n dangos union leoliad y digwyddiadau o fewn ardal awdurdod lleol.
  • Mae cywirdeb y data a adroddir yn y Modiwl Tipio Anghyfreithlon o fewn cronfa ddata WasteDataFlow yn gwbl ddibynnu ar waith mesur, rheoli data ac adrodd a wneir gan awdurdodau lleol. Er bod Taclo Tipio Cymru yn dilysu ar ran Llywodraeth Cymru ac yn unol â’r Cyfarwyddyd, mae’r gallu i ddilysu WasteDataFlow, a chroeswirio â data arall sydd ar gael, wedi’i gyfyngu i gywirdeb y rhai sy’n adrodd.
  • Mae cost clirio pob achos o dipio anghyfreithlon yn cael ei amcangyfrif yn seiliedig ar ei faint. Er hynny, nid yw maint pob achos yn cael ei gofnodi, sy’n golygu bod yr achosion hynny yn cael eu heithrio o’r costau cyffredinol ac amcangyfrif. Y rheswm dros hyn yn aml yw gwall dynol neu dechnolegol, ac mae camau yn cael eu cymryd i wella dulliau cofnodi maint. Dylai hyn cael ei ystyried wrth gymharu costau clirio awdurdodau lleol gwahanol, ac wrth edrych ar dueddiadau dros amser.

Effaith pandemig COVID-19

Ar hyn o bryd mae pob cyfyngiad COVID-19 yng Nghymru wedi’i leddfu, ond mae newidiadau mewn agwedd ag ymddygiad cymdeithasol wedi parhau. Mae rhaid cymryd gofal wrth gymharu data cyn ag ar ôl COVID. Yn ogystal â chymharu data o flwyddyn i flwyddyn, mae’n cael ei argymell i gymharu'r data mwyaf diweddar gyda data o 2018-19, sef y flwyddyn olaf cyn i’r pandemig cychwyn. Mi fydd hyn yn dangos pa awdurdodau lleol sydd wedi cael eu heffeithio mwyaf gan y pandemig, yn ogystal â dangos newidiadau mewn tuedd.

Mae pob awdurdod lleol gyda rheolau eu hunain am sut i ddelio gyda gwastraff mewn ffordd sy’n gofalu rhag heintiad COVID-19, sy’n golygu bod cymariaethau rhwng awdurdodau lleol yn heriol. Yn ogystal, mae rhai awdurdodau lleol wedi gwneud mwy o gynnydd na eraill yn delio gyda’r ôl-groniad o ddigwyddiadau ac ymchwiliadau o dipio anghyfreithlon.

Y newidiadau mwyaf i’r data sydd i’w weld yn ystod y pandemig yw cynnydd mewn nifer o ddigwyddiadau tipio anghyfreithlon a lleihad mewn camau gorfodi. Mi wnaeth Taclo Tipio Cymru yng Nghyfoeth Naturiol Cymru grynhoi gwybodaeth gan awdurdodau lleol i lunio crynodeb o rai o effeithiau allweddol COVID-19 ar lefel eang Cymru, gan gynnwys:

  • cyfyngiadau COVID-19 yn gorfodi canolfannau ailgylchu i gau am gyfnodau hir, yn ogystal ag effeithio gallu awdurdodau lleol i gasglu gwastraff cartrefol
  • cynnydd yn y nifer o bobl yn gweithio gartref yn arwain i gynnydd mewn gwastraff cartrefol; yn arbennig, roedd cynnydd mawr yn y nifer o waith adnewyddu, a wnaeth arwain at gynnydd mewn gwastraff adeiladwaith
  • penderfynodd rhai awdurdodau lleol i atal eu staff rhag chwilio trwy wastraff wedi’u bagio, a'u hatal rhag cyfweld a phobl a ddrwgdybir, er mwyn eu gofalu rhag heintiadau COVID-19
  • cafodd rhai erlyniadau eu gohirio, gan arwain at ôl-groniad mawr yn y blynyddoedd ar ôl y pandemig

Mae gwybodaeth am gyfyngiadau COVID-19 ar gael ar y llinell amser hon (Senedd Cymru).

Cylch prosesu data

Ffynonellau data, a sylw i’r data

Mae’r ystadegau’n seiliedig ar y datganiadau a wnaethpwyd gan awdurdodau lleol yn y Modiwl Tipio Anghyfreithlon yn y gronfa ddata Waste Data Flow. Ni fydd awdurdod lleol yn cofnodi pob achos o dipio anghyfreithlon felly ystyrir bod y ffigyrau yn y datganiad hwn yn tanamcangyfrif yr holl achosion o dipio anghyfreithlon yng Nghymru.

Mae costau’r categorïau maint (eitemau sengl, sachau duon unigol, cist car neu lai, llwythi fan fach a llwythi fan gludo) wedi’u gosod yn y system yn seiliedig ar gyfartaleddau cenedlaethol. O ran y categorïau eraill (llwythi lori dywallt a llwythi lluosog sylweddol), yr awdurdod lleol sy’n rhoi’r costau i mewn. Gan fod y costau hyn yn amrywio, ni fydd cynnydd neu ostyngiad yn nifer yr achosion yn arwain at yr un cynnydd neu ostyngiad yn y costau.

Dylid nodi nad yw erlyniadau, o reidrwydd, yn digwydd yn ystod yr un flwyddyn â phryd mae’r achos perthnasol o dipio anghyfreithlon wedi digwydd.

Er nad yw ffigyrau tipio anghyfreithlon bellach yn cael eu dynodi’n “Ystadegau Gwladol”, maent yn parhau i gael eu cyhoeddi yn unol â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.

Casglu data

Mae awdurdodau lleol yn cael gwybod ymlaen llaw am yr amserlen casglu data. Mae hyn yn rhoi digon o amser i’r awdurdodau lleol gasglu eu gwybodaeth ac i godi unrhyw broblemau sydd ganddynt. Mae cyfarwyddyd ar gael ar gyfer y Modiwl Tipio Anghyfreithlon yn y gronfa ddata Waste Data Flow.

Dilysu a gwirio

Mae’r wybodaeth yn cael ei chasglu bob chwarter drwy Waste Data Flow (WDF). Mae’r system WDF yn cynnwys rhai gwiriadau dilysu mewnol. Bydd Taclo Tipio Cymru yn dilysu rhagor ar y data a gofnodir yn y Modiwl Tipio Anghyfreithlon yn y gronfa ddata Waste Data Flow. Mae dilysu’n cynnwys gweithdrefn i wirio bod yr awdurdodau lleol wedi ateb yr holl gwestiynau perthnasol yn Waste Data Flow ac i weld unrhyw anghysonderau wrth gyfrifo rhwng y mewnbynnau a’r allbynnau. Rhoddir gwybod i’r awdurdodau lleol unigol wedyn am unrhyw anghysonderau, a chymerir camau i’w cywiro.

Yn ogystal â’r cyfarwyddyd a roddir i ddarparwyr data, mae Taclo Tipio Cymru wedi cynnal gweithdy i bob Awdurdod Lleol yn 2018 er mwyn gwella dealltwriaeth ac i gynorthwyo cysondeb. Mae’r cyfarwyddyd ar arferion gorau ar gael yn y fan yma (Taclo Tipio Cymru).

Cyhoeddi

Ar ôl i’r data gael ei gwblhau’n derfynol, mae’r datganiad yn cael ei lunio a'r prif bwyntiau a’r sylwebaeth yn cael eu drafftio. Mae’r datganiad yn cael ei wirio’n annibynnol ac mae gwiriad synnwyr terfynol yn cael ei gynnal gan yr ystadegydd perthnasol cyn iddo gael ei gyhoeddi ar y wefan.

Safonau

Mae’r ystadegau sy’n cael eu paratoi yn dilyn y safonau proffesiynol cydnabyddedig. Maent yn cael eu cynhyrchu’n annibynnol yn unol â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau dan gyfrifoldeb Prif Ystadegydd Llywodraeth Cymru.

Mae’r Ystadegau Swyddogol yn cael eu cynhyrchu i safonau proffesiynol uchel a nodir yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Maent yn agored i adolygiadau sicrhau ansawdd rheolaidd i sicrhau eu bod yn diwallu anghenion y cwsmer. Maent yn rhydd o wleidyddiaeth.

Isod, rhoddir gwybodaeth fwy manwl am ansawdd sydd ar gyfer Taclo Tipio Cymru yn benodol ac sydd heb ei gynnwys yn yr adroddiad ansawdd.

Ansawdd

Mae’r ystadegau’n seiliedig ar y datganiadau a wnaed gan awdurdodau lleol i’r Modiwl Tipio Anghyfreithlon yn y gronfa ddata WasteDataFlow.

Daeth yr adroddiad blynyddol, a oedd yn cael ei gyhoeddi fel Ystadegau Gwladol, i ben yn 2014, yn dilyn yr ymgynghoriad ‘Cynigion ynghylch cyhoeddi Ystadegau Swyddogol’. Rydym wedi dechrau cyhoeddi tablau a phrif ffigyrau StatsCymru eto, ac er nad yw'r ffigyrau’n “Ystadegau Gwladol” mwyach, maent yn parhau i gael eu cyhoeddi yn unol â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau Swyddogol.

Mae ystadegau amgylchedd Cymru yn dilyn Strategaeth Rheoli Ansawdd Ystadegau Llywodraeth Cymru, ac mae hynny’n cyd-fynd â chwe dimensiwn ansawdd System Ystadegol Ewrop, fel y rhestrir yn Egwyddor 4 o’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau Swyddogol. 

Isod, darperir manylion y chwe dimensiwn, a sut rydym yn eu dilyn.

Perthnasedd

Faint y mae’r cynnyrch ystadegol yn diwallu anghenion defnyddwyr o ran sylw a chynnwys.

Mae’r data yn y Pennawd Ystadegol hwn yn sail i dystiolaeth o fonitro achosion o dipio anghyfreithlon yng Nghymru.

Rydyn ni’n mynd ati i adolygu pob allbwn, ac rydyn ni’n croesawu adborth.

Cywirdeb

Mae pob awdurdod lleol yng Nghymru wedi cyflwyno 4 datganiad chwarterol ar wahân i’r Modiwl Tipio Anghyfreithlon yn y gronfa ddata WasteDataFlow rhwng Ebrill 2022 a Mawrth 2023.

Mae cyfarwyddyd manwl ar gael drwy wefan Taclo Tipio Cymru i helpu darparwyr data i gasglu a chwblhau datganiadau casglu data misol ar gyfer y Modiwl Tipio Anghyfreithlon yn Waste Data Flow. Dylai’r cyfarwyddyd leihau’r gwahaniaethau yn y modd y mae awdurdodau lleol gwahanol yn categoreiddio ac yn cofnodi achosion o dipio anghyfreithlon. Gellir gweld y cyfarwyddyd drwy’r ddolen ganlynol:

Mae nifer o gyfyngiadau’n gysylltiedig â’r set ddata hwn:

Cyfyngiadau sy'n gysylltiedig â'r set ddata hon

  • Dylid bod yn ofalus wrth ddehongli’r ffigyrau hyn, a hynny oherwydd newidiadau a gwelliannau i’r mecanweithiau adrodd data a’r cyfarwyddyd cysylltiedig. Er enghraifft, mae’r gostyngiad blynyddol diweddar wedi digwydd yn rhannol oherwydd newidiadau yn y gweithdrefnau adrodd mewn un awdurdod lleol (Ar ôl cael eglurhad o’r dogfennau cyfarwyddyd ar gyfer tipio anghyfreithlon yn 2017, nid yw gwastraff y tu allan i’r bin yn cael ei adrodd fel achos o dipio anghyfreithlon erbyn hyn).
  • Nid yw Sir y Fflint wedi gallu darparu data gorfodi ar gyfer 2017-18 (mae hyn yn wir am flynyddoedd cynt hefyd).
  • Ni fydd awdurdod lleol yn cofnodi pob achos o dipio anghyfreithlon, felly ystyrir bod y ffigyrau yn y datganiad hwn yn tanamcangyfrif cyfanswm y tipio anghyfreithlon yng Nghymru. Er bod modd cofnodi achosion o dipio anghyfreithlon ar dir preifat yn y gronfa ddata, nid yw pob Awdurdod Lleol yn ymwybodol o hyn nac yn dewis gwneud hynny. Hefyd, nid yw llawer o dirfeddianwyr preifat yn rhoi gwybod i’r Awdurdod Lleol am ddigwyddiadau oherwydd maent yn gwybod y bydd yr Awdurdod Lleol yn ymchwilio i’r mater, ond dim ond digwyddiadau ar Dir Cyhoeddus y byddant yn eu clirio fel arfer. Oherwydd y rhesymau uchod, mae’n debygol na roddir gwybod am yr holl achosion o dipio anghyfreithlon sy’n digwydd ar dir preifat felly mae’n bosibl fod nifer y digwyddiadau yng Nghymru yn uwch na’r hyn a ddangosir.

Dylai cyfanswm nifer yr achosion o dipio anghyfreithlon sy’n cael eu cofnodi gan awdurdodau lleol yng Nghymru fod yn fwy neu yr un faint â chyfanswm nifer yr achosion o dipio anghyfreithlon yn ôl maint, gan mai dim ond yr achosion o dipio anghyfreithlon sy’n cael eu clirio gan yr awdurdodau lleol sydd dan sylw, nid rhai sy’n cael eu clirio gan bobl eraill. Ond ar ôl cynnal gwiriadau sicrhau ansawdd ar ddata hanesyddol, nid felly yr oedd pethau yn 2007-08 a 2010-11. Er mwyn sicrhau nad yw’r broblem yn digwydd yn y blynyddoedd i ddod, bydd prosesau dilysu yn cael eu gwella i sicrhau cysondeb rhwng data sy’n ymwneud â digwyddiadau a gofnodir gan awdurdodau lleol a digwyddiadau sy’n cael eu clirio gan awdurdodau lleol.

Mae’r costau ar y Modiwl Tipio Anghyfreithlon yn y gronfa ddata WasteDataFlow, ar gyfer y categorïau maint ‘eitemau sengl’, ‘sachau duon sengl’, 'cist car neu lai', 'llwythi fan fach' a 'llwythi fan gludo', wedi’u gosod yn y system yn seiliedig ar gyfartaleddau cenedlaethol (dylid nodi bod y rhain yn seiliedig ar wybodaeth gan rai awdurdodau lleol rhwng 2003 a 2016 felly mae’n bosibl nad ydynt yn cynrychioli’r costau cyfredol). O ran y categorïau eraill, sef ‘llwythi lori dywallt’ a ‘llwythi lluosog sylweddol’, mae’r awdurdod awdurdod lleol yn rhoi’r costau i mewn, ond yn y cyfarwyddyd mae’r costau cyfartalog cenedlaethol am bob llwyth yn cael eu darparu i helpu awdurdodau lleol i gyfrifo eu hamcangyfrifon. Mae’r dull hwn yn ceisio lleihau’r gwahaniaethau yn y dulliau amcangyfrif lleol felly maent yn golygu bod modd gwneud cymariaethau cyfatebol ar lefel awdurdodau lleol. Ond mae llawer o amrywiadau o hyd rhwng awdurdodau lleol o ran ‘llwythi lori dywallt’ a ‘llwythi lluosog sylweddol’.

Gan fod costau clirio’n amrywio, ni fydd cynnydd neu ostyngiad yn nifer yr achosion yn arwain at yr un cynnydd neu ostyngiad yn y costau.

Dylid nodi nad yw erlyniadau, o reidrwydd, yn digwydd yn ystod yr un flwyddyn â phryd mae’r achos perthnasol o dipio anghyfreithlon wedi digwydd.

Mae canlyniadau llwyddiannus i erlyniadau yn cynnwys rhyddhad amodol, gwasanaeth cymunedol, dirwy, dedfryd o garchar a chanlyniadau llwyddiannus eraill.

Mi wnaeth y nifer o erlyniadau tipio anghyfreithlon yng Nghymru wedi cynyddu o 18 yn 2020-21 i 94 yn 2021-22. Y rheswm dros hyn oedd bod nifer o achosion cyfreithlon wedi cael eu gohirio yn ystod y pandemig COVID-19, ac felly heb gael eu prosesu tan y flwyddyn wedyn.

Diwygiadau

Rydyn ni’n dilyn ein polisi diwygiadau ystadegol Llywodraeth Cymru. Pan mae’r data wedi cael ei ddiwygio, nodir hynny’n glir gydag (r).

Amseroldeb a phrydlondeb

Mae amseroldeb yn cyfeirio at faint o amser sydd wedi mynd heibio rhwng y cyfnod sydd dan sylw a’r adeg cyhoeddi. Mae prydlondeb yn cyfeirio at faint o amser sydd wedi mynd heibio rhwng y dyddiad cyhoeddi a gynlluniwyd a’r dyddiad cyhoeddi gwirioneddol.

Mae pob allbwn yn cadw at y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau drwy rhoi gwybod ymlaen llaw beth yw’r dyddiad cyhoeddi drwy’r tudalennau I’w cyhoeddi cyn hir ar wefan Ystadegau ar gyfer Cymru. At hynny, os bydd angen gohirio allbwn byddai hyn yn dilyn trefniadau ein ar gyfer diwygiadau, camgymeriadau a gohiriadau.

Rydyn ni’n cyhoeddi datganiadau cyn gynted ag y bo modd yn ymarferol ar ôl y cyfnod perthnasol o amser.

Hygyrchedd ac eglurder

Mae data ychwanegol ar gael i’w lawrlwytho o wefan ryngweithiol StatsCymru.

Gallu cymharu

Er mwyn gwneud yn siŵr nad yw Awdurdodau Lleol ond yn rhoi gwybod am achosion o dipio anghyfreithlon (ac nid problemau cyflwyno gwastraff) ac er mwyn gwneud yn siŵr fod camau gorfodi mwy ystyrlon yn cael eu cofnodi, cafodd y newidiadau canlynol eu gwneud i Gyfarwyddyd Penodol Cymru ym mis Medi 2018. Bydd y newidiadau hyn wedi effeithio’n rhannol ar rywfaint o’r data a gyflwynwyd yn y datganiad hwn o gymharu â’r blynyddoedd cynt.

  • Ni ddylid cynnwys llythyrau rhybuddion ond os yw llythyr wedi cael ei anfon neu ei gyflwyno i’r troseddwyr neu ddeiliaid/perchnogion y tir. Peidiwch â chynnwys llythyrau sy’n cael eu hanfon i dai amlfeddiannaeth. Gallai’r newid hwn effeithio’n fawr ar gyfanswm nifer y camau gorfodi.
  • Mae cyfarwyddyd clir ar gael erbyn hyn o ran ystyried a oes modd cynnwys problemau adran 46 (gwastraff y tu allan i’r bin a cham-gyflwyno gwastraff) yn yr adran ar nifer yr achosion ac yn yr adran ar gamau gorfodi.
  • Newidiadau o ran a oes modd cynnwys hysbysiadau cosb benodedig am daflu sbwriel dan gamau gorfodi ai peidio – Tynnu adran 47ZA o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd (troseddau’n ymwneud â chynwysyddion gwastraff) yn yr adran ar hysbysiadau cosb benodedig yn y cyfarwyddyd. O mis Ebrill 2018, mae awdurdodau lleol wedi gallu cofnodi data FPN mewn 3 chategori ar wahân. O mis Hydref 2018, mae awdurdodau lleol hefyd wedi gallu cofnodi'r Hysbysiadau Gweithredu a gyhoeddwyd ar gyfer Dyletswydd Gofal. Felly dylid bod yn ofalus wrth gymharu cymariaethau.
  • Mae rhai Awdurdodau Lleol wedi adrodd bod cynnydd a gostyngiad yn nifer yr achosion wedi digwydd oherwydd newidiadau yn y modd y maent yn cofnodi data, e.e. sefydlwyd systemau mwy cywir i gofnodi achosion.
  • Yn 2022-23, gwelodd Wrecsam cynnydd mawr mewn achosion i gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Y rheswm am hyn oedd bod nifer o achosion heb gael eu cofnodi, a gan fod dyddiadau'r achosion yn anhysbys cafwyd eu cofnodi o dan y flwyddyn 2022-23.
  • Nid oedd Caerfyrddin yn gallu rhoi gwybodaeth am fath o dir pob achos yn 2018-19 (cafwyd i gyd eu cofnodi o dan ‘arall’). Felly, dylai tueddiadau cenedlaethol, rhanbarthol a thueddiadau o fewn Caerfyrddin dros amser cael eu trin gyda gofal.
  • Yn 2021-22, gwelodd Casnewydd cynnydd mawr mewn achosion i gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Y rheswm dros hyn oedd gwelliant mewn dulliau cofnodi, gydag achosion ar dir cymdeithasau tai yn cael eu cynnwys am y tro gyntaf. Felly, dylai tueddiadau cenedlaethol, rhanbarthol a thueddiadau o fewn Casnewydd dros amser cael eu trin gyda gofal.

Cydlyniaeth

Faint y mae data sy’n deillio o wahanol ffynonellau neu ddulliau, neu sy’n cyfeirio at yr un ffenomen, yn debyg.

Ystadegau Cysylltiedig ar gyfer Gwledydd Eraill y DU

Lloegr

Mae awdurdodau lleol Lloegr yn defnyddio’r Modiwl Tipio Anghyfreithlon yn WasteDataFlow. Mae Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA) yn cyhoeddi ystadegau tipio anghyfreithlon Lloegr yn flynyddol.

Gellir gweld ystadegau tipio anghyfreithlon Lloegr drwy’r ddolen ganlynol:

Ystadegau tipio anghyfreithlon ar gyfer Lloegr (DEFRA)

Yr Alban

Mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn rheoli cronfa ddata tipio anghyfreithlon ar gyfer y DU gyfan, a’i henw yw Flycapture; gall awdurdodau lleol yn yr Alban ei defnyddio yn rhad ac am ddim. Mae’r gronfa ddata ar y we ac mae’n gwella gwybodaeth am dipio anghyfreithlon a chanolbwyntio adnoddau ar ardaloedd problemus. Yn yr Alban, nid oes raid cyfrannu at gronfa ddata Flycapture, na’i defnyddio, ond ar gyfartaledd mae mwy na hanner yr awdurdodau lleol yn cyflwyno datganiadau misol rheolaidd er mwyn gallu cael gafael ar adroddiadau safonol yn tynnu sylw at dueddiadau lleol. I gael rhagor o wybodaeth am dipio anghyfreithlon yn yr Alban, ewch i’r gwefannau canlynol:

Taflu sbwriel (Asiantaeth Diogelu'r Amgylchedd yr Alban)

Dumpers Dumb (Zero Waste Scotland)

Gogledd Iwerddon

Yn 2011, fe wnaeth Asiantaeth yr Amgylchedd Gogledd Iwerddon (NIEA) sefydlu tîm tipio anghyfreithlon i hybu’r gwaith o weithredu’r Fframwaith Tipio Anghyfreithlon, gan weithio mewn partneriaeth â chynghorau lleol. Un o’r amcanion allweddol yw treialu gwahanol opsiynau ar gyfer cofnodi data yn effeithiol yn uniongyrchol gan yr NIEA a staff cynghorau ar safleoedd tipio anghyfreithlon yn defnyddio technoleg GPS fel dewis posibl yn lle cronfa ddata Flycapture y DU. I gael rhagor o wybodaeth am dipio anghyfreithlon yng Ngogledd Iwerddon, ewch i’r gwefannau canlynol:

Mae NIEA yn datgelu costau anghyfreithlon (Adran Amaethyddiaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig)

Tipio anghyfreithlon (NI Direct)

Gwerthuso

Rydyn ni bob amser yn croesawu adborth am ein hystadegau. Cysylltwch â ni drwy’r e-bost: ystadegau.amgylchedd@llyw.cymru