Rebecca Evans AS, Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Heddiw, mae’r Bil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) a’r Memorandwm Esboniadol wedi cael eu gosod gerbron Senedd Cymru (“y Senedd”).
Nod y Bil hwn yw darparu dull ychwanegol o ymateb i ddigwyddiadau allanol sy’n effeithio ar ein trethi datganoledig, gan alluogi Llywodraeth Cymru i ddiogelu’r cyllid refeniw a ddefnyddir i ariannu gwasanaethau cyhoeddus.
Bydd y Bil un pwrpas sengl hwn yn ei gwneud yn bosibl inni gyflwyno newidiadau i Ddeddfau Trethi Cymru drwy reoliadau, os bydd Gweinidogion Cymru o’r farn bod y newidiadau’n angenrheidiol neu’n briodol, ac os bydd angen i’r newidiadau gael effaith ar unwaith neu’n fuan ar ôl cael eu cyflwyno. Caniateir y newidiadau er mwyn ymateb i nifer o amgylchiadau allanol:
- sicrhau nad yw trethi datganoledig Cymru yn cael eu gorfodi lle na fyddai hynny’n gydnaws ag unrhyw rwymedigaethau rhyngwladol;
- amddiffyn yn erbyn osgoi trethi mewn perthynas â threthi datganoledig Cymru;
- ymateb i newidiadau a wneir gan Lywodraeth y DU i drethi’r DU sy’n ‘rhagflaenwyr’ (hy y rheini lle mae trethi datganoledig cyfatebol) sy’n effeithio ar y swm a delir i Gronfa Gyfunol Cymru, neu a allai effeithio ar y swm hwnnw;
- ymateb i benderfyniadau’r llysoedd neu’r tribiwnlysoedd sy’n effeithio ar sut mae Deddfau Trethi Cymru, neu unrhyw reoliadau a wneir o danynt, yn gweithredu, neu a allai effeithio ar sut y maent yn gweithredu.
Roedd datganoli trethi i Gymru yn achlysur hanesyddol yn hanes gwleidyddiaeth Cymru. Dros dair blynedd yn ôl, cyflwynodd Llywodraeth Cymru ddwy dreth sydd wedi eu datganoli’n llawn, y dreth trafodiadau tir a’r dreth gwarediadau tirlenwi, sydd wedi cael eu gweinyddu’n llwyddiannus gan ein corff Anweinidogol cyntaf, Awdurdod Cyllid Cymru. Mae’r Bil hwn yn darparu dull gwerthfawr o ddiogelu trethi datganoledig, drwy ganiatáu i Weinidogion sicrhau eu bod yn parhau i adlewyrchu ein hamgylchiadau unigryw yng Nghymru a’u bod yn gallu ymateb i ddigwyddiadau allanol a allai effeithio ar y trethi hynny. Rwy’n ddiolchgar am gyfraniadau gwerthfawr rhanddeiliaid a sefydliadau wrth inni ddatblygu’r Bil hwn.
Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda’r Senedd ar ddarpariaethau’r Bil yn ystod y broses graffu dros y misoedd nesaf.