Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Nod y datganiad hwn yw rhoi dadansoddiad manylach o ddangosyddion allweddol y farchnad lafur (cyflogaeth, diweithdra ac anweithgarwch economaidd) ar gyfer is-grwpiau o'r boblogaeth (gan gynnwys rhyw, oedran, ethnigrwydd, anabledd, crefydd a statws priodasol). Mae'r dadansoddiad yn ystyried tueddiadau hirdymor yn ogystal ag effeithiau mwy diweddar pandemig y coronafeirws (COVID-19).

Y bwriad yw i'r adroddiad hwn fod y cyhoeddiad cyntaf am y farchnad lafur yn ôl nodweddion gwarchodedig ac mae'n canolbwyntio ar gyfraddau cyflogaeth, diweithdra ac anweithgarwch economaidd yn ôl nodweddion gwarchodedig gan ddefnyddio data o'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth.  Gan ddibynnu ar farn defnyddwyr, rydym am ddadansoddi dangosyddion eraill y farchnad lafur mewn cyhoeddiadau yn y dyfodol. a hoffem glywed eich barn ynghylch beth y dylem roi blaenoriaeth iddo i’w ddadansoddi (er enghraifft, bylchau cyflog, data PAYE CThEM ar gyflogeion a dadansoddiad o bobl hŷn yn y farchnad lafur). Defnyddiwch y manylion cyswllt ar ddiwedd yr adran hon.

Cefndir

Mae'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth (APS) yn cyfuno samplau manylach o'r Arolwg o'r Llafurlu (LFS). Mae'n darparu data am y farchnad lafur dros bedwar chwarter treigl ar gyfer gwledydd a rhanbarthau'r DU a hefyd ar gyfer ardaloedd lleol. Yng Nghymru, mae'r APS yn arolygu sampl o tua 18,000 o aelwydydd bob blwyddyn.

Yr LFS yw'r brif ffynhonnell o hyd ar gyfer prif ddangosyddion y farchnad lafur ar lefel Cymru. Mae sampl fwy yr APS yn caniatáu amcangyfrifon ar lefel awdurdodau lleol ac ar gyfer is-grwpiau o'r boblogaeth.

Mae’r bwletin hwn yn canolbwyntio ar y cyfnodau Ebrill i Fawrth. Mae'r data diweddaraf yn ymdrin â’r flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2021 (h.y., Ebrill 2020 i Fawrth 2021). Mae data yn y gyfres APS hon ar gael o'r cyfnod Ebrill 2004 i Fawrth 2005 ymlaen. Yn y bwletin hwn os cyfeirir at flwyddyn, mae hynny’n golygu'r flwyddyn o fis Ebrill i fis Mawrth oni nodir yn wahanol. Er enghraifft, mae 2020-21 yn cyfeirio at y flwyddyn o fis Ebrill 2020 i fis Mawrth 2021. Mae data ar gyfer y cyfnod sy’n diweddu Mehefin 2021 wedi’u cyhoeddi hefyd ar StatsCymru a Nomis.

Mae data 2020-21 yn cwmpasu blwyddyn lawn pandemig y coronafeirws (COVID-19), ac felly dylid nodi y bydd y cymariaethau blynyddol yn cymharu â 2019-20 sy'n cynnwys dechrau'r pandemig. Mae'r data a gyflwynir yn y bwletin hwn ar gael ar StatsCymru, Nomis ac ar y taenlenni sydd wedi’u hatodi.

Rydym wedi cynnwys geirfa  sy'n cynnwys diffiniadau o ddangosyddion y farchnad lafur a ddefnyddir yn ogystal â diffiniadau o rai grwpiau gwarchodedig y cyfeirir atynt yn y bwletin hwn.  

Rydym yn croesawu adborth ar y cyhoeddiad hwn, cysylltwch â ystadegau.economi@llyw.cymru.

Prif bwyntiau

Rhyw

Yn ystod yr 16 mlynedd diwethaf:

  • mae'r gyfradd cyflogaeth ymhlith dynion wedi bod yn uwch na'r gyfradd ymhlith menywod
  • mae'r gyfradd diweithdra ymhlith dynion wedi bod yn uwch ar y cyfan na'r gyfradd ymhlith menywod
  • mae'r gyfradd anweithgarwch ymhlith menywod wedi bod yn uwch na'r gyfradd ymhlith dynion

Ond ym mhob achos, mae'r bwlch rhwng dynion a menywod wedi lleihau. O ran y gyfradd cyflogaeth, mae’r bwlch wedi cau o 11 i 4 pwynt canran.

Mae data’r APS yn awgrymu bod pandemig COVID-19 wedi cael mwy o effaith ar ddynion nag ar fenywod. Mae cyflogaeth ymhlith dynion wedi gostwng, mae diweithdra wedi cynyddu (er bod y gyfradd bresennol yn dal i fod gyda’r isaf yn y gyfres) ac mae anweithgarwch economaidd hefyd wedi cynyddu. Mae cyfraddau cyflogaeth a diweithdra ymhlith menywod wedi aros yr un peth ar y cyfan, gyda'r gyfradd anweithgarwch economaidd yn gostwng i'w phwynt isaf ers dechrau'r gyfres yn 2004-05.

Oed

Yn ystod yr 16 mlynedd diwethaf, mae lefelau cyflogaeth yn y grwpiau 25 i 49 a 50 i 64 oed wedi gweld cynnydd cyffredinol, a gostyngiad mewn anweithgarwch economaidd gyda newidiadau mwy amlwg yn y grŵp 50 i 64 oed. Mae diweithdra wedi gostwng ychydig yn y ddau grŵp yn ystod yr 8 mlynedd diwethaf.  Mae data pobl ifanc 16 i 24 oed yn fwy cyfnewidiol, gyda newidiadau mwy sylweddol adeg dirwasgiad 2008.

Mae data’r APS yn awgrymu bod pandemig COVID-19 wedi cael mwy o effaith ar bobl ifanc 16 i 24 oed nag ar grwpiau oed eraill. Y grŵp hwn a welodd y gostyngiad mwyaf yn ei gyfradd cyflogaeth (4.3 pwynt canran o'i gymharu â llai nag 1.0 pwynt canran ar gyfer y grwpiau eraill), a'r cynnydd mwyaf yn y gyfradd anweithgarwch. Fodd bynnag, gwelwyd ychydig o ostyngiad yn y gyfradd diweithdra ymhlith pobl ifanc yn 2020-21 o'i gymharu â chynnydd yn y grwpiau oed eraill. 

Oed a rhyw

Yn ystod yr 16 mlynedd diwethaf, mae'r gyfradd diweithdra ymhlith dynion ifanc wedi bod yn uwch nag ymhlith menywod ifanc, ac mae'r gyfradd anweithgarwch ymhlith menywod ifanc wedi bod yn uwch nag ymhlith dynion ifanc. Fodd bynnag, yn y ddau achos, mae'r bwlch wedi lleihau'n sylweddol.

Mae data’r APS yn awgrymu bod COVID-19 wedi cael mwy o effaith andwyol ar ddynion ifanc o ran prif ddangosyddion y farchnad lafur. Gwelwyd 7.6 pwynt canran o ostyngiad yng nghyfradd cyflogaeth dynion ifanc yn 2020-21 gan gwympo’n is na chyfradd cyflogaeth menywod ifanc am y tro cyntaf ers dechau’r gyfres. Yn dilyn newidiadau sylweddol yn y ddau ryw, roedd y gyfradd anweithgarwch economaidd ymhlith dynion ifanc yn uwch nag ymhlith menywod ifanc am y tro cyntaf ers dechrau’r gyfres.

Ethnigrwydd

Roedd cyfraddau cyflogaeth ar eu huchaf ymhlith unigolion o’r grŵp ethnig Gwyn ac o’r categori 'grŵp ethnig arall'. Roedd cyfraddau cyflogaeth ar eu hisaf ymhlith unigolion o’r grŵp ethnig Du. Roedd cyfraddau cyflogaeth o fewn grwpiau ethnig yn wahanol rhwng dynion a menywod, ac yng nghyfraddau cyflogaeth y grŵp ethnig Asiaidd (25 pwynt canran) y gwelwyd y bwlch mwyaf.

Mae'r gyfradd diweithdra yn y grwpiau Pobl Ddu, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru wedi bod yn gyfnewidiol ond yn gyson uwch na'r gyfradd ymhlith pobl Wyn dros yr 16 mlynedd diwethaf. Ond, mae'r bwlch wedi lleihau'n sylweddol.

Statws anabledd

A siarad yn gyffredinol, mae'r bwlch yn y gyfradd gyflogaeth rhwng pobl anabl a phobl nad ydynt yn anabl wedi gostwng ers 2014, er y gwelwyd cynnydd bach yn 2020-21.

Mae'r gyfradd diweithdra ymhlith pobl anabl yng Nghymru wedi bod yn gyson uwch na chyfradd diweithdra pobl nad ydynt yn anabl ond mae'r gyfradd ymhlith pobl anabl wedi bod yn gostwng ar y cyfan.

Crefydd a rhyw

Roedd y gyfradd cyflogaeth yn sylweddol uwch ymhlith y rhai a oedd yn ystyried eu hunain heb grefydd a’r rheini a oedd yn ystyried eu hunain yn Gristnogion, o'u cymharu â chrefyddau eraill.

Roedd gwahaniaethau sylweddol yn ôl rhyw. Ar draws pob statws crefyddol, roedd y gyfradd cyflogaeth ymhlith menywod yn gyson is na'r gyfradd ar gyfer pawb. Ymhlith pobl oedd yn ystyried eu hunain yn Fwslimiaid yr oedd y gwahaniaeth mwyaf.

Statws priodasol a rhyw

Roedd y gyfradd cyflogaeth ymhlith menywod yn gyson is na'r gyfradd ar gyfer pawb ar draws y pum statws priodasol ac eithrio ar gyfer pobl sengl, erioed wedi priodi, a gweddwon. Gwelwyd y gwahaniaeth mwyaf ymhlith pobl briod neu mewn Partneriaeth Sifil.

Rhyw

Yn ystod yr 16 mlynedd diwethaf:

  • mae'r gyfradd cyflogaeth ymhlith dynion wedi bod yn uwch na'r gyfradd ymhlith menywod
  • mae'r gyfradd diweithdra ymhlith dynion wedi bod ar y cyfan yn uwch na'r gyfradd ymhlith menywod
  • mae'r gyfradd anweithgarwch ymhlith menywod wedi bod yn uwch na'r gyfradd ymhlith dynion

Ond ym mhob achos, mae'r bwlch rhwng dynion a menywod wedi lleihau. O ran y gyfradd cyflogaeth, mae’r bwlch wedi cau o 11 i 4 pwynt canran.

Mae data’r APS yn awgrymu bod pandemig COVID-19 wedi cael mwy o effaith ar ddynion nag ar fenywod. Mae cyflogaeth ymhlith dynion wedi gostwng, mae diweithdra wedi cynyddu (er bod y gyfradd bresennol yn dal i fod yn gyda’r isaf yn y gyfres) ac mae anweithgarwch economaidd hefyd wedi cynyddu. Mae cyfraddau cyflogaeth a diweithdra ymhlith menywod wedi aros yr un peth ar y cyfan, gyda'r gyfradd anweithgarwch economaidd yn gostwng i'w phwynt isaf ers dechrau'r gyfres yn 2004-05.

Cyflogaeth

Gwelwyd y gyfradd cyflogaeth ymhlith dynion a menywod fel ei gilydd yn gostwng yng Nghymru yn ystod y dirwasgiad, er i'r gyfradd ymhlith dynion ostwng yn fwy na'r gyfradd ymhlith menywod. Fodd bynnag, mae'r gyfradd ymhlith dynion wedi aros yn gyson uwch na chyfradd y menywod gydol y gyfres. Yn dilyn y gostyngiad hwn, cynyddodd y gyfradd cyflogaeth yn raddol ymhlith dynion a menywod. Cyrhaeddodd y gyfradd cyflogaeth i ddynion ei phwynt uchaf (ers dechrau’r gyfres yn 2005) o 77.2% yn 2020, ychydig ar ôl dechrau pandemig y coronafeirws, ac yna cwympodd eto. Cyrhaeddodd y gyfradd i fenywod ei huchafbwynt o 70.2% yn 2021, flwyddyn ar ôl dechrau'r pandemig. Mae'r gyfradd cyflogaeth ymhlith menywod wedi cynyddu'n gyflymach na chyfradd y dynion yn ystod y gyfres gan arwain at leihau’r bwlch rhwng y rhywiau.

Mae'r gyfradd cyflogaeth yn y DU yn dangos tuedd debyg i un Cymru, er yn llai cyfnewidiol.

Image
Mae'r siart linell yn dangos bod y gyfradd cyflogaeth ers 2005 wedi aros yr un peth ar y cyfan ymhlith dynion ac wedi cynyddu ymhllth menywod yng Nghymru a'r DU, gyda chwymp yn 2020.  Mae'r gyfradd cyflogaeth yn parhau'n gyson uwch ymhlith dynion nag ymhlith menywod gydol y gyfres amser.

Mae amcangyfrifon yr APS ar gyfer 2020-21 yn awgrymu bod COVID-19 wedi cael mwy o effaith ar gyflogaeth dynion nag ar gyflogaeth menywod. Gwelwyd y gyfradd gyflogaeth ymhlith dynion yn gostwng 3.0 phwynt canran dros y flwyddyn i 74.2%. Dyma un o'r gostyngiadau blynyddol mwyaf ers dechrau cadw cofnodion yn 2004. Ar y llaw arall, gwelwyd cyfradd gyflogaeth menywod yn codi 0.2 pwynt canran dros y flwyddyn i 70.2% (y gyfradd gyflogaeth uchaf ymhlith menywod am unrhyw gyfnod Ebrill i Fawrth).

Yn y DU yn 2021, cwympodd y gyfradd cyflogaeth ymhlith dynion 1.9 pwynt canran i 77.9% ac ymhlith menywod 0.5 pwynt canran i 71.5%.

Roedd y bwlch cyflogaeth rhwng dynion a menywod yng Nghymru ar ei leiaf yn 2020-21 ers dechrau'r gyfres yn 2004-05. Yn 2020-21, 3.9 pwynt canran oedd y bwlch yn y gyfradd cyflogaeth rhwng dynion a menywod o'i gymharu ag 11.0 pwynt canran yn 2004-05.

Mae'r bwlch cyflogaeth rhwng Cymru a'r DU yn llawer is ymhlith menywod nag ydyw ar gyfer dynion (1.2 pwynt canran ar gyfer y naill a 3.7 pwynt canran ar gyfer y llall). Er hynny, mae'r bwlch rhwng Cymru a'r DU wedi bod yn cau ar y cyfan ers y dirwasgiad yn 2008.

Diweithdra

Cyrhaeddodd y gyfradd diweithdra ymhlith dynion yng Nghymru ei huchafbwynt o 10.1% yn 2009-10, yn dilyn y dirwasgiad. Mae cyfradd Cymru hefyd yn uwch ar y cyfan na chyfradd y DU ymhlith dynion. Fodd bynnag, mae'r bwlch hwn wedi lleihau dros y 10 mlynedd diwethaf gyda chyfradd dynion Cymru yn gostwng o dan cyfradd y DU am y tro cyntaf yn 2019-20.

Cyrhaeddodd y gyfradd diweithdra ymhlith menywod yng Nghymru ei huchafbwynt o 7.4% yn 2013. Mae'r gyfradd diweithdra ymhlith menywod yn is ar y cyfan na chyfradd y dynion yng Nghymru a'r DU. Mae hyn yn cyfateb i gyfradd anweithgarwch economaidd menywod sy'n gyson uwch na chyfradd y dynion yng Nghymru a'r DU.

Image
Mae'r siart linell yn dangos bod y gyfradd diweithdra ers 2005 wedi gostwng ar y cyfan yng Nghymru a'r DU ymhlith dynion a menywod, gyda chynnydd ymhlith dynion yng Nghymru yn 2021.  Mae'r bwlch yn y gyfradd diweithdra rhwng y rhywiau wedi cau ers 2005 yng Nghymru a'r DU.

Fel yn achos y gyfradd cyflogaeth, mae data’r gyfradd diweithdra yn awgrymu bod y pandemig wedi cael mwy o effaith ar ddynion yng Nghymru nag ar fenywod. Yn 2020-21, gwelwyd y gyfradd diweithdra ymhlith dynion yng Nghymru’n cynyddu 0.4 pwynt canran dros y flwyddyn i 4.3%. Er bod y gyfradd wedi cynyddu ers dechrau'r pandemig, mae'r gyfradd bresennol yn dal i fod gyda’r isaf yn y gyfres. Nid oedd y gyfradd ymhlith menywod yng Nghymru o 3.6% wedi newid ers y flwyddyn cynt,

Yn y DU dros y flwyddyn, gwelwyd y gyfradd diweithdra ymhlith dynion yn codi 1.1 pwynt canran i 5.2% ac ymhlith menywod 0.8 pwynt canran i 4.4%. Fel y rhai yng Nghymru, mae'r cyfraddau hyn yn gymharol isel o’u cymharu â blynyddoedd cynt. 

Anweithgarwch economaidd

Mae'r gyfradd anweithgarwch economaidd ymhlith dynion yng Nghymru wedi aros yn weddol debyg ers 2004-05, gyda dau gynnydd bach yn 2009-10 a 2013-14. Mae'r gyfradd ymhlith dynion wedi bod yn cynyddu ers 2019, gyda chynnydd cyflymach yn y flwyddyn ddiweddaraf. Mae'r cynnydd yn y gyfradd anweithgarwch economaidd ymhlith dynion yng Nghymru yn ystod 2020-21 (a'r cynnydd yn y gyfradd diweithdra) yn cyfateb i ostyngiad yn y gyfradd cyflogaeth. Gallai hyn awgrymu bod dynion yng Nghymru wedi bod yn symud o gyflogaeth i ddiweithdra ac anweithgarwch economaidd.

Mae cyfradd anweithgarwch economaidd ymhlith dynion y DU yn dilyn tuedd debyg i un Cymru (er yn llai cyfnewidiol) ond mae'n sylweddol is na chyfradd Cymru. Arhosodd y bwlch rhwng y ddau yn debyg tan llynedd pan gynyddodd.

Yn wahanol i gyfradd y dynion lle gwelwyd cynnydd yn yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae'r gyfradd anweithgarwch economaidd ymhlith menywod wedi bod yn gostwng yn raddol yng Nghymru a'r DU ers 2004-05. Er gwaethaf gostyngiad, mae'r gyfradd anweithgarwch ymhlith menywod yn parhau'n gyson uwch na chyfradd y dynion. Fodd bynnag, mae'r bwlch rhwng y ddau wedi bod yn cau yn y blynyddoedd diwethaf. Mae hyn yn cyfateb i'r ffaith bod cyfraddau cyflogaeth a diweithdra menywod yn gyffredinol yn is na chyfraddau’r dynion.

Image
Mae'r siart linell yn dangos bod y gyfradd anweithgarwch economaidd ymhlith dynion yng Nghymru wedi gostwng ychydig ers 2005 a chynyddu ers 2019.  Mae'r gyfradd ymhlith menywod wedi gostwng ers 2005 ond mae'n dal yn uwch na chyfradd y dynion yng Nghymru a'r DU.

Yn 2020-21, cododd y gyfradd anweithgarwch economaidd ymhlith dynion yng Nghymru 2.9 pwynt canran i 22.5%. Dyma'r cynnydd blynyddol mwyaf o bell ffordd o bob cyfnod Ebrill - Mawrth. Ar y llaw arall, mae’r gyfradd ymhlith menywod yng Nghymru wedi gostwng 0.1 pwynt canran i 27.1%. Dyma'r gyfradd flynyddol isaf ers 2004-05.

Y cyfraddau cyfatebol ar gyfer dynion a menywod yn y DU oedd 17.8% ar gyfer y naill (i fyny 1.0 pwynt canran) a 25.1% ar gyfer y llall (i lawr 0.2 pwynt canran).

Rhesymau dros anweithgarwch economaidd

Mae'r gyfradd anweithgarwch economaidd ymhlith dynion yng Nghymru wedi cynyddu dros y flwyddyn ddiwethaf, ond mae'r gyfradd ar gyfer menywod wedi gostwng. Cynhaliwyd dadansoddiad cychwynnol o'r APS i ganfod y rhesymau dros anweithgarwch economaidd yng Nghymru.

Image
Mae Siart 4 yn dangos y rhesymau dros anweithgarwch economaidd dynion yng Nghymru dros y 5 mlynedd diwethaf fel siart bar pentyrrog a chyfradd anweithgarwch economaidd dynion dros yr un cyfnod fel siart linell.  Mae cyfran y dynion sy'n gofalu am deulu wedi gostwng ond mae'r gyfran sy'n fyfyrwyr ac wedi ymddeol wedi gostwng ar y cyfan.

Y rheswm mwyaf cyffredin dros anweithgarwch economaidd ymhlith dynion yng Nghymru oedd bod yn fyfyriwr, i fyny 1.9 pwynt canran i 31.5% o'r holl ddynion economaidd anweithgar yn 2020-21 (gwelwyd gostyngiad yn y DU). Yn ail agos oedd salwch hirdymor sy'n cyfrif am 31.2% o'r holl ddynion economaidd anweithgar, i lawr 1.7 pwynt canran o’r flwyddyn cynt ond yn llawer uwch na chyfran y DU (28.0%).

Image
Mae Siart 5 yn dangos y rhesymau dros anweithgarwch economaidd menywod yng Nghymru dros y 5 mlynedd diwethaf fel siart bar pentyrrog a chyfradd anweithgarwch economaidd menywod dros yr un cyfnod fel siart linell.  Mae cyfran y menywod sy'n gofalu am deulu wedi gostwng ond mae cyfran y menywod â salwch tymor hir wedi cynyddu.

Er bod cyfradd anweithgarwch economaidd dynion i’w gweld wedi cynyddu oherwydd pandemig y coronafeirws yng Nghymru a'r DU, mae cyfraddau anweithgarwch economaidd menywod wedi aros yn gymharol sefydlog.

Y rheswm mwyaf cyffredin dros anweithgarwch economaidd ymhlith menywod yng Nghymru yn 2020-21 oedd salwch hirdymor, gan gyfrif am 25.7% o'r holl fenywod economaidd anweithgar yng Nghymru ac i lawr 0.6 pwynt canran ar y flwyddyn. Dros yr un cyfnod, gwelwyd cynnydd yn y gyfran oedd yn fyfyrwyr a gostyngiad yn y rhai oedd yn gofalu am deulu, 23.9% a 23.3% o'r holl fenywod economaidd anweithgar, yn y drefn honno.

Oed

Yn ystod yr 16 mlynedd diwethaf, mae lefelau cyflogaeth yn y grwpiau 25-49 a 50-64 oed wedi gweld cynnydd cyffredinol, a gostyngiad mewn gweithgarwch economaidd gyda newidiadau mwy amlwg yn y grŵp oed 50 i 64. Mae diweithdra wedi gostwng ychydig yn y ddau grŵp yn ystod yr 8 mlynedd diwethaf.  Mae data ar gyfer pobl ifanc 16-24 oed yn fwy cyfnewidiol, gyda newidiadau mwy sylweddol adeg dirwasgiad 2008.

Mae data’r APS yn awgrymu bod pandemig COVID-19 wedi cael mwy o effaith ar bobl ifanc 16-24 nag ar grwpiau oed eraill. Y grŵp hwn a welodd y gostyngiad mwyaf yn ei gyfradd cyflogaeth (4.3 pwnt canran o'i gymharu â llai nag 1.0 pwynt canran yn y grwpiau eraill), a'r cynnydd mwyaf yn y gyfradd anweithgarwch. Fodd bynnag, gwelwyd ychydig o ostyngiad yn y gyfradd diweithdra ymhlith pobl ifanc o'i chymharu â chynnydd yn y grwpiau oed eraill. 

Mae data am bobl dros 65 oed ar StatsCymru. Os hoffech i ni roi blaenoriaeth i ddadansoddi gweithwyr hŷn, rhowch wybod.

Cyflogaeth

Mae'r cyfraddau cyflogaeth ymhlith pobl rhwng 25 a 49 a 50 i 64 oed yng Nghymru wedi cynyddu'n gyson ers 2004-05, gyda'r ddau yn cyrraedd eu huchaf yn 2019-20 cyn dechrau pandemig y coronafeirws.

Roedd y gyfradd cyflogaeth ar gyfer pobl rhwng 16 a 24 oed yng Nghymru ar ei huchaf ar ddechrau'r gyfres gan ostwng i'w phwynt isaf yn 2011-12. Mae hyn yn debygol o adlewyrchu dirwasgiad 2008 sy'n golygu bod pobl ifanc o bosib yn ymuno â'r farchnad lafur yn hwyrach fel y mae’r dadansoddiad o gyfraddau diweithdra ac anweithgarwch economaidd yn ôl oedran yn ei ddangos nes ymlaen yn yr adran hon. Ers 2011-12 mae'r gyfradd cyflogaeth ymhlith pobl ifanc 16 i 24 oed wedi cynyddu, ond mae'n fwy cyfnewidiol na'r ddau grŵp oed arall yng Nghymru ac yn y DU. Mae hefyd wedi aros o dan ei phwynt uchaf ar ddechrau'r gyfres.

Mae cyfradd cyflogaeth Cymru wedi bod yn gyson is na'r DU ar draws y tri grŵp oedran.

Image
Mae'r siart linell yn dangos bod y gyfradd cyflogaeth yng Nghymru a'r DU wedi cynyddu'n gyson ymhlith pobl 25 i 49 oed a 50 i 64 oed ers 2005, gan gyrraedd ei huchaf yn 2020. Mae'r gyfradd ymhlith pobl 16 i 24 oed wedi gostwng ers 2005 ar y cyfan, gyda chwymp sydyn yn 2021.

Gwelwyd gostyngiad yng nghyfradd cyflogaeth y tri grŵp oedran yng Nghymru yn 2020-21. Fodd bynnag, pobl ifanc 16 i 24 oed oedd y grŵp yr effeithiwyd arno fwyaf gan y pandemig yng Nghymru a'r DU. 49.4% oedd y gyfradd cyflogaeth ymhlith pobl ifanc (16 i 24 oed) yng Nghymru, i lawr 4.3 pwynt canran o'i chymharu â'r flwyddyn cynt. Cyfradd y DU oedd 51.1%, i lawr 2.9 pwynt canran o'i chymharu â'r flwyddyn cynt.

Cwympodd y gyfradd cyflogaeth ymhlith y grŵp 25 i 49 oed 0.8 pwynt canran a 0.7 pwynt canran ymhlith y grŵp 50 i 64 oed yng Nghymru. Gwelwyd y gyfradd cyflogaeth yn y DU ymhlith y grŵp 25 i 49 oed yn gostwng 06 pwynt canran, ac 1.3 pwynt canran ymhlith y grŵp 50 i 64 oed.

Diweithdra

Ar ôl cyfnod o gynnydd yn dilyn dirwasgiad 2008, gwelwyd gosyngiad graddol yn y cyfraddau diweithdra ymhlith pobl 25 i 49 oed a 50 i 64 oed yng Nghymru. Mae'r cyfraddau ymhlith y grwpiau oed hyn yn debyg yn fras ar hyn o bryd i’r hyn oeddynt ar ddechrau'r gyfres. Gwelodd y gyfradd diweithdra gynnydd cyffredinol ymhlith y grŵp 16 i 24 oed yng Nghymru o ddechrau'r gyfres i'w phwynt uchaf yn 2011-12. Ers hynny, mae'r gyfradd diweithdra ymhlith y grŵp hwn wedi gostwng ac mae bellach yn is nag yr oedd ar ddechrau'r gyfres. Mae'r gyfradd diweithdra ymhlith pobl ifanc (16 i 24) yn sylweddol uwch ac yn fwy cyfnewidiol nag eiddo’r grwpiau oed hŷn.

Image
Mae'r siart linell yn dangos bod y gyfradd diweithdra ers 2005 wedi aros yr un peth yn fras ymhlith pobl 25 i 49 oed a 50 i 64 oed yng Nghymru gyda chynnydd bach yn 2021. Mae'r gyfradd ymhlith pobl 16 i 24 oed wedi gostwng ers 2012 ond mae'n parhau lawer yn uwch na'r ddau grwp oed arall.

Yn 2020-21, cynyddodd y gyfradd diweithdra ymhlith y grŵp 25 i 49 oed 0.4 pwynt canran i 3.3% a chyfradd y grŵp 50 i 64 oed 0.4 pwynt canran i 2.6% yng Nghymru. Yr un pryd, gwelwyd y gyfradd diweithdra ymhlith pobl ifanc (pobl 16 i 24 oed) yn gostwng 0.5 pwynt canran dros y flwyddyn i 10.8%.

Roedd y gyfradd diweithdra ymhlith pobl ifanc Cymru ar y cyfan yn uwch yng Nghymru nag yn y DU o 2004-05 tan 2019-20 pan gwympodd o dan gyfradd y DU. Yn 2020-21 cododd cyfradd y DU 2.2 pwynt canran dros y flwyddyn i 14.0%.

Yn y DU, cynyddodd y cyfraddau diweithdra ymhlith y rhai 25 i 49 oed 0.8 pwynt canran a’r rhai 50 i 64 oed 1.0 pwynt canran dros y flwyddyn.

Anweithgarwch economaidd

Mae'r gyfradd anweithgarwch economaidd yng Nghymru wedi gostwng gydol y gyfres ymhlith pobl 50 i 64 oed a 25 i 49 oed, er yn fwy ymhlith y cyntaf gyda'r ddau yn cyrraedd eu pwyntiau isaf cyn pandemig COVID-19. Mae’r gyfradd anweithgarwch economaidd ymhlith pobl 16 i 24 oed wedi cynyddu ers 2004-05. Yn gyffredinol, mae'r tri grŵp oed yng Nghymru yn dilyn cyfres y DU, er bod cyfraddau’r tri’n parhau ychydig yn uwch.

Image
Mae'r siart linell yn dangos bod y gyfradd anweithgarwch economaidd wedi gostwng  ymhlith pobl 25 i 49 oed yng Nghymru a'r DU ers 2005, gyda chynnydd bach yng Nghymru yn 2021.  Gwelwyd gostyngiad mawr yn y gyfradd ymhlith pobl 50 i 64 oed ers 2005 gyda chynnydd bach yn 2021.  Mae'r gyfradd ymhlith y rhai 16 i 24 oed wedi cynyddu ers 2005 gyda chynnydd mawr yng Nghymru yn 2021.

Mae data’r APS ar gyfer 2020-21 yn awgrymu bod y pandemig wedi cael yr effaith fwyaf ar bobl 16 i 24 oed yng Nghymru o'r tri grŵp oed. 44.6% oedd cyfradd anweithgarwch economaidd y grŵp, i fyny 5.1 pwynt canran, dros y flwyddyn, y gyfradd uchaf ers dechrau'r gyfres. Mae hyn yn cymharu ag 14.6% ymhlith pobl 25 i 49 oed (i fyny 0.5 pwynt canran) a 28.7% ymhlith pobl 50 i 64 oed (i fyny 0.5 pwynt canran).

Y newidiadau cyfatebol dros y flwyddyn yn y DU oedd cynnydd o 1.7 pwynt canran ymhlith pobl 16 i 24 oed, cynnydd o 0.6 pwynt canran ymhlith y rhai 50 i 64 oed a chwymp o 0.1 pwynt canran ymhlith pobl 24 i 49 oed.

I'r rhai 16 i 24 oed yng Nghymru, gwelwyd cynnydd cyffredinol yn y gyfradd anweithgarwch economaidd sy’n mynd yn groes i’r cyfraddau cyflogaeth a diweithdra lle cafwyd gostyngiad cyffredinol. Mae hyn awgrymu y gallai pobl yn y grŵp oed hwn fod wedi symud o gyflogaeth a diweithdra i anweithgarwch economaidd yn 2020-21.

Rhesymau dros anweithgarwch economaidd

Mae’r data a ddefnyddir yn yr adran hon  wedi’u cyhoeddi gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar Nomis.  Talgrynnir ffigurau wrth gyfrif newidiadau.

16 i 24 oed

Yn 2020-21, bod yn fyfyriwr oedd y rheswm mwyaf cyffredin, sef 77.8%, dros anweithgarwch economaidd i'r grŵp 16 i 24 oed yng Nghymru, i fyny 3.5 pwynt canran dros y flwyddyn. Mae hyn yn sylweddol uwch na'r gyfran yn 2004-05 (66.5%).

Yr ail reswm mwyaf cyffredin yng Nghymru ar ôl 'arall' yw salwch hirdymor. Cynyddodd y rheswm hwn ers 2004-05 i 8.3% yn 2021. Roedd cyfran y rheswm hwn wedi gostwng 1.2 pwynt canran yng Nghymru dros y flwyddyn hyd at 2021.

Gofalu am gartref/teulu welodd y gostyngiad mwyaf o unrhyw reswm dros y gyfres, gan ostwng 13.9 pwynt canran rhwng 2004-05 a 2020-21 yng Nghymru. Dros y flwyddyn hyd at 2021, gostyngodd cyfran y rheswm hwn 4.7 pwynt canran yng Nghymru i 2.5%.

25 i 49 oed

Salwch hirdymor oedd y rheswm mwyaf cyffredin dros anweithgarwch economaidd i'r rhai 25 i 49 oed yng Nghymru yn 2021, sef 38.2%, y gyfran uchaf ond un ers dechrau cadw cofnodion yn y flwyddyn yn diweddu Rhagfyr 2004.

Fel y rhai 16 i 24 oed, mae’r gyfran sy'n gofalu am gartref/teulu wedi gostwng dros y gyfres yng Nghymru. Yn 2021 roedd y gyfran wedi gostwng 11.6 pwynt canran yng Nghymru, ers 2004-05 i’r grŵp hwn. 4.4 pwynt canran oedd y gostyngiad yng Nghymru.

50 i 64 oed

Fel y rhai 25 i 49 oed, salwch hirdymor oedd y rheswm mwyaf cyffredin dros anweithgarwch economaidd yn 2021 ymhlith y rhai 50 i 64 oed yng Nghymru, sef 36.9%. Gostyngodd y gyfran hon 8.5 pwynt canran rhwng 2004-05 a 2020-21.

Gwelwyd gostyngiad yng nghyfran y rhai 50 i 64 oed sydd wedi ymddeol yng Nghymru 2.4 pwynt canran dros y flwyddyn i 34.4% yn 2020-21. Dyma'r gyfran isaf ond un â’r rheswm hwn ers dechrau cadw cofnodion yn y flwyddyn yn diweddu Rhagfyr 2004.

Oed a rhyw

Yn ystod yr 16 mlynedd diwethaf, mae'r gyfradd diweithdra ymhlith dynion ifanc wedi bod yn uwch nag ymhlith menywod ifanc, ac mae'r gyfradd anweithgarwch ymhlith menywod ifanc wedi bod yn uwch nag ymhlith dynion ifanc. Fodd bynnag, yn y ddau achos, mae'r bwlch wedi lleihau'n sylweddol.

Mae data’r APS yn awgrymu bod COVID-19 yn effeithio'n fwy andwyol ar ddynion ifanc o ran prif ddangosyddion y farchnad lafur. Gwelwyd 7.6 pwynt canran o ostyngiad yng nghyfradd cyflogaeth dynion ifanc yn 2020-21. Yn dilyn newidiadau sylweddol yn achos y ddau ryw, roedd y gyfradd anweithgarwch economaidd ymhlith dynion ifanc yn uwch nag ymhlith menywod ifanc am y tro cyntaf ers dechrau’r gyfres.

Cyflogaeth

Mae'r cyfraddau cyflogaeth ymhlith dynion a menywod ifanc wedi bod yn debyg yn fras ers dechrau’r gyfres, ond gwelwyd ansefydlogrwydd yhmlith y ddau. Gwelwyd gostyngiad yn y gyfradd cyflogaeth yn y ddau ryw rhwng 2004-05 a 2011-12 cyn cynyddu'n gyffredinol. Mae'r cyfraddau cyflogaeth presennol yn dal yn is o lawer is na'r cyfraddau ar ddechrau'r gyfres.

Image
Mae'r siart linell yn dangos bod y gyfradd cyflogaeth ymhlith pobl 16 i 24 oed y ddau ryw wedi gostwng ers 2005 tan 2012 ond iddi gynyddu wedi hynny. Nid oes fawr o wahaniaeth rhwng dynion a menywod heblaw yn     2021 pan welwyd cynnydd sylweddol yn y gyfradd ymhlith dynion.

Mae'r gyfradd cyflogaeth ymhlith dynion ifanc yn awgrymu bod pandemig y coronafeirws wedi effeithio’n drwm arni, gyda 7.6 pwynt canran o ostyngiad i 47.5% yn y gyfradd yng Nghymru o'i chymharu â'r flwyddyn cynt. Roedd yr effaith ar fenywod ifanc yn llai, gyda'r gyfradd cyflogaeth yn gostwng 0.7 pwynt canran o'i chymharu â'r flwyddyn cynt, i 51.5%.

Ar hyn o bryd, mae'r bwlch cyflogaeth rhwng dynion a menywod ifanc yn 3.9 pwynt canran. Dyma'r bwlch lleiaf o unrhyw gyfnod Ebrill i Fawrth ers 2004-05.

Diweithdra

Mae'r gyfradd diweithdra ymysg pobl ifanc y ddau ryw wedi bod yn gyfnewidiol ers dechrau’r gyfres, ond mae'r gyfradd wedi bod yn gyson uwch ymhlith dynion na menywod. Ond mae'r bwlch hwn wedi cau ar y cyfan dros y 10 mlynedd diwethaf.  Ar ddechrau'r pandemig (2019-20), roedd y bwlch yn y gyfradd ddiweithdra rhwng y rhywiau i bob pwrpas wedi cau ac mae'r gyfradd wedi gostwng ar gyflymder tebyg yn y flwyddyn ers hynny.

Image
Mae'r siart linell yn dangos bod y gyfradd diweithdra ymhlith pobl 16 i 24 oed y ddau ryw wedi cynyddu ers 2005 ar y cyfan tan 2012-13 ond ei bod wedi gostwng ers hynny i'w phwynt isaf yn 2021. Mae'r bwlch rhwng dynion a menywod wedi lleihau ers 2011 gyda chyfradd y dynion yn cwympo o dan gyfradd y menywod am ychydig yn 2018.

Yn 2020-21, roedd y gyfradd diweithdra ymhlith dynion ifanc, ar 11.3%, yn uwch nag ymhlith menywod ifanc, ar 10.3%. Er, mae'r bwlch yng nghyfradd diweithdra pobl ifanc y ddau ryw yng Nghymru wedi cau'n sylweddol dros y 10 mlynedd diwethaf (1.0 pwynt canran yn 2020-21 a 7.9 pwynt canran yn 2010-11).

Mae bwlch y DU hefyd wedi cau, ond nid cymaint ag yng Nghymru, roedd yn 3.1 pwynt canran yn 2020-21, i lawr o 4.7 pwynt canran ddegawd yn ôl. Mae hyn yn golygu bod y bwlch bellach yn llai yng Nghymru nag yn y DU yn 2020-21.

Anweithgarwch economaidd

Fel y cyfraddau cyflogaeth a diweithdra, mae'r gyfradd anweithgarwch economaidd wedi bod yn gyfnewidiol i'r ddau ryw gydol y gyfres. Ond roedd cyfradd y dynion yn gyson is na chyfradd y menywod tan 2020-21, pan gododd y gyfradd ymhlith dynion i fod yn uwch na chyfradd y menywod am y tro cyntaf.

Image
Mae'r siart linell yn dangos bod y gyfradd anweithgarwch economaidd ers 2005 wedi aros yr un peth yn fras ymhlith pobl 16 i 24 oed yng Nghymru ond gan gynyddu yn 2021. Mae'r gyfradd ymhlith dynion 16 i 24 oed wedi bod yn cynyddu ar y cyfan ers 2005 gyda chynnydd mawr yn 2021, gan fynd yn uwch na chyfradd y menywod am y tro cyntaf ers 2005.

Mae'r gyfradd anweithgarwch economaidd yn awgrymu bod y pandemig wedi effeithio'n sylweddol ar ddynion ifanc. Cynyddodd y gyfradd anweithgarwch economaidd ymhlith dynion ifanc 8.9 pwynt canran o'i chymharu â'r flwyddyn cynt. 1.0 pwynt canran oedd y cynnydd ymhlith menywod. Y cynnydd blynyddol hwn ymhlith dynion yw'r mwyaf mewn unrhyw gyfnod Ebrill i Fawrth.

Ethnigrwydd

Mae'r diffiniadau o’r grwpiau ethnig y cyfeirir atynt yn yr adran hon ar gael yn yr eirfa.

Roedd y cyfraddau cyflogaeth ar eu huchaf ymhlith unigolion o’r grŵp ethnig Gwyn a’r rheini o’r categori 'grŵp ethnig arall'. Roedd y cyfraddau cyflogaeth ar eu hisaf ymhlith unigolion o’r grŵp ethnig Du. Roedd cyfraddau cyflogaeth gwahanol rhwng rhywiau’r grwpiau ethnig, gyda'r bwlch mwyaf yn y cyfraddau cyflogaeth rhwng y rhywiau yn y grŵp ethnig Asiaidd (25 pwynt canran).

Mae'r gyfradd ddiweithdra ymhlith grwpiau pobl Ddu, Asiaidd ac ethnig leiafrifol yng Nghymru wedi bod yn gyfnewidiol ond yn gyson uwch na'r gyfradd ymhlith pobl Wyn dros yr 16 mlynedd diwethaf. Fodd bynnag, mae'r bwlch wedi lleihau'n sylweddol.

Cyflogaeth

Fel ag y mae maint y sampl yn caniatáu, dadansoddwyd y data cyflogaeth ar gyfer pum grŵp ethnig gwahanol.

Image
Mae'r siart bar yn dangos bod y gyfradd cyflogaeth yn 2021 ymhlith dynion yn uwch nag ymhlith menywod ym mhob grwp ethnig bras heblaw am y grwpiau ethnig Cymysg/Lluosog lle mae'r gyfradd ymhlith menywod ychydig yn uwch.

Roedd y cyfraddau cyflogaeth (2020-21) ar eu huchaf ymhlith unigolion o’r grŵp ethnig Gwyn a’r rhai o’r categori 'grŵp ethnig arall' (73%), gyda’r gyfradd cyflogaeth ar ei hisaf ymhlith unigolion o’r grŵp ethnig Du (57%). Y cyfraddau cyfatebol ymhlith unigolion o’r grŵp ethnig Asiaidd oedd 65% a 64% ymhlith unigolion o’r grŵp ethnig cymysg.

Roedd cyfraddau cyflogaeth y grwpiau ethnig yn wahanol i ddynion a menywod, gyda'r bwlch mwyaf yn y grŵp ethnig Asiaidd (dynion 79%, menywod 54%).

Image
Mae'r siart linell yn dangos bod y gyfradd cyflogaeth yn 2005 ymhlith pobl Wyn wedi cynyddu ychydig yng Nghymru a'r DU gyda gostyngiad yn 2021.  Mae'r gyfradd ymhlith y grwp Pobl Ddu, Asiaidd ac ethnig leiafrifol wedi cynyddu ers 2005 ond mae'n dal o dan y gyfradd ymhlith pobl Wyn.

Pwysig: Nid yw data 2010-11 a 2020-21 ar gyfer y grŵp Pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol wedi’u cynnwys gan fod y samplau mor fach. Mae'r graff yn cyfuno 2009-10 a 2011-12, heb unrhyw ddata ar gyfer 2010-11.

Mae'r cyfraddau cyflogaeth ymhlith y grwpiau pobl Ddu, Asiaidd ac ethnig leiafrifol wedi cynyddu yng Nghymru a'r DU o'u cymharu â 2004-05. Ond mae’r gyfradd gyflogaeth ymhlith y grwpiau pobl Ddu, Asiaidd ac ethnig leiafrifol yn parhau’n is na’r gyfradd cyflogaeth ymhlith pobl Wyn. Mae'r gyfres ar gyfer grwpiau Pobl Dduon, Asiaidd ac ethnig leiafrifol yng Nghymru yn fwy cyfnewidiol nag ar gyfer pobl Wyn gan fod maint y sampl yn llai.

Cynyddodd y gyfradd cyflogaeth ymhlith y grŵp pobl Ddu, Asiaidd ac ethnig leiafrifol yng Nghymru 1.4 pwynt canran dros y flwyddyn i 64.6%. Roedd hynny’n cymharu â 72.7% ar gyfer pobl Wyn, oedd i lawr 1.5 pwynt canran dros y flwyddyn.

Yn y DU, y gyfradd cyflogaeth ymhlith unigolion o gefndiroedd Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol oedd 67.4% yn 2020-21, i fyny 0.8 pwynt canran o'i chymharu â 2019-20. Y gyfradd ymhlith pobl Wyn oedd 75.9%, i lawr 1.5 pwynt canran dros y flwyddyn.

Diweithdra

Oherwydd cyfyngiadau ym maint y sampl, nid yw cyfraddau diweithdra'r pum grŵp ethnig yn ddigon cadarn i'w cyhoeddi, felly dangosir cyfraddau diweithdra’r grŵp ethnig Gwyn a’r grŵp pobl Ddu, Asiaidd ac ethnig leiafrifol yn yr adran hon.

Mae'r gyfradd diweithdra ymhlith y grwpiau pobl Ddu, Asiaidd ac ethnig leiafrifol yng Nghymru wedi bod yn gyfnewidiol ond yn gyson uwch na'r gyfradd ymhlith y grŵp ethnig Gwyn dros yr 16 mlynedd diwethaf. Ond mae'r gyfradd wedi bod yn gostwng yn gyffredinol ac mae'r bwlch yn lleihau. Mae'r gyfradd diweithdra ymhlith y grŵp pobl Ddu, Asiaidd ac ethnig leiafrifol wedi bod yn gyson is na chyfres y DU ers 2014-15 gan ostwng yn is na'r gyfradd ymhlith pobl Wyn yng Nghymru yn 2016-17.

Yn 2019-20, ar ddechrau'r pandemig, 4.7% oedd y gyfradd diweithdra ymhlith y grŵp pobl Ddu, Asiaidd ac ethnig leiafrifol yng Nghymru, i lawr 1.8 pwynt canran o'i chymharu â’r flwyddyn cynt. Fodd bynnag, gan nad yw data 2020-21 wedi'i chynnwys gan fod y sampl mor fach, ni allwn bennu effaith y pandemig ar ddiweithdra yn y grŵp hwn.

Cynyddodd y gyfradd diweithdra ymhlith y grŵp ethnig Gwyn yng Nghymru rhwng 2008 a 2010 cyn gostwng i’r isaf yn y gyfres yn 2019-20, cyn i bandemig y coronafeirws daro. Mae'r gyfres yng Nghymru yn dilyn cyfres y DU yn agos.

Yn 2020-21, 4.0% oedd y gyfradd diweithdra ymhlith y grŵp ethnig Gwyn yng Nghymru, i fyny o 3.7% flwyddyn yn gynharach. Mae hyn ychydig yn is na chyfradd y DU a gynyddodd 0.8 pwynt canran dros y flwyddyn i 4.2%.

Image
Mae'r siart linell yn dangos bod y gyfradd diweithdra ers 2005 ymhlith pobl Ddu, Asiaidd ac ethnig leiafrifol ar y cyfan wedi gostwng yng Nghymru ond cynyddodd yn y DU yn 2021.  Mae'r gyfradd ymhlith pobl Wyn wedi aros yn fras yr un peth ers 2019. Mae data am Bobl Ddu, Asiaidd ac ethnig leiafrifol yng Nghymru yn 2021 wedi'u gwrthod gan fod y sampl mor fach.

Pwysig: Nid yw data 2010-11 a 2020-21 ar gyfer y grŵp pobl Ddu, Asiaidd ac ethnig leiafrifol wedi’u cynnwys gan fod y samplau mor fach. Mae'r graff yn cyfuno 2009-10 a 2011-12, heb unrhyw ddata ar gyfer 2010-11.

Anweithgarwch economaidd

Mae'r gyfradd anweithgarwch economaidd ymhlith y grŵp pobl Ddu, Asiaidd ac ethnig leiafrifol yng Nghymru wedi bod yn gyfnewidiol ers dechrau'r gyfres yn 2004-05 ond mae wedi bod yn gyson uwch nag ymhlith y grŵp ethnig Gwyn.

Yn y DU, mae'r gyfradd anweithgarwch economaidd ymhlith y grŵp pobl Ddu, Asiaidd ac ethnig leiafrifol wedi bod yn gostwng ers dechrau’r gyfres yn 2004-05. Mae’r gyfradd ymhlith y grŵp ethnig Gwyn wedi gostwng ychydig dros yr un cyfnod.

Image
Mae'r siart bar yn dangos bod y gyfradd anweithgarwch economaidd yng Nghymru yn 2021 ar ei hisaf ymhlith dynion o gefndir Asiaidd ac ar ei huchaf ymhlith pobl o grwpiau ethnig Du. Mae'r gyfradd anweithgarwch economaidd yn is hefyd ymhlith dynion nag ymhlith menywod ym mhob grwp ethnig. Ond mae'r ffigur dynion o grwpiau ethnig cymysg wedi'i wrthod gan fod y sampl mor fach.

Pwysig: Nid yw data ar gyfer dynion o grwpiau ethnig cymysg neu luosog wedi'u cynnwys gan fod maint y sampl mor fach.

Yn 2020-21, roedd cyfraddau anweithgarwch economaidd yng Nghymru ar eu hisaf ymhlith y grŵp ethnig Gwyn (24.2%), gyda'r cyfraddau uchaf ymhlith unigolion o’r grŵp ethnig Du (42.4%). Y cyfraddau cyfatebol ar gyfer unigolion o’r grŵp ethnig Asiaidd oedd 31.6%, y grŵp ethnig cymysg 36.4% a'r 'grŵp ethnig arall' 24.5%.

Roedd cyfraddau anweithgarwch economaidd ar gyfer yr holl grwpiau ethnig yn amrywio ar gyfer dynion a menywod, gyda'r bwlch mwyaf yn y grŵp ethnig Asiaidd (dynion 19.4% o’i gymharu â menywod 41.4%). Roedd cyfraddau anweithgarwch economaidd dynion yn is na rhai menywod ym mhob un o’r pum grŵp ethnig.

Noder fod y gyfradd anweithgarwch economaidd gwrywaidd ar gyfer grwpiau ethnig cymysg/lluosog wedi'i hatal oherwydd maint sampl bach.

Image
Mae'r siart linell yn dangos bod y gyfradd anweithgarwch economaidd ymhlith pobl Ddu, Asiaidd ac ethnig leiafrifol yng Nghymru ers 2005 wedi cynyddu ar y cyfan ond gan ostwng yn 2020. Mae'r gyfradd ymhlith pobl Wyn wedi aros yn sefydlog ers 2005, gan gynyddu ychydig yn 2021 yng Nghymru a'r DU.

Pwysig: Nid yw data 2010-11 am y grŵp pobl Ddu, Asiaidd ac ethnig leiafrifol wedi’u cynnwys gan fod maint y sampl mor fach. Mae'r graff yn cyfuno 2009-10 a 2011-12, heb unrhyw ddata ar gyfer 2010-11.

Yn 2020-21, gwelwyd 0.2 pwynt canran o ostyngiad yn y gyfradd anweithgarwch economaidd ymhlith y grŵp pobl Ddu, Asiaidd ac ethnig leiafrifol yng Nghymru i 33.5%. Roedd hyn yn cymharu â chyfradd o 24.2% ymhlith y grŵp ethnig Gwyn, a gododd 1.4 pwynt canran dros y flwyddyn.

Yn y DU, gostyngodd y gyfradd anweithgarwch economaidd ymhlith y grŵp pobl Ddu, Asiaidd ac ethnig leiafrifol 2.2 pwynt canran o'i gymharu â chynnydd o 0.9 pwynt canran yn y grŵp ethnig Gwyn.

Statws anabledd

Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn y diffiniad cymdeithasol o anabledd, lle cydnabyddir bod rhwystrau mewn cymdeithas yn analluogi pobl sydd â namau neu gyflyrau iechyd neu sy'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain.

Mae’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth, sef ffynhonnell yr wybodaeth yn y datganiad hwn, yn casglu data gan ddefnyddio’r diffiniad meddygol o anabledd a ddefnyddir yn Neddf Cydraddoldeb 2010 (“amhariad corfforol neu feddyliol sy’n cael effaith sylweddol a thymor hir ar allu person i gynnal gweithgareddau cyffredin pob dydd”)

Ym mis Ebrill 2013 mabwysiadodd Arolwg Blynyddol y Swyddfa Ystadegau Gwladol o’r Boblogaeth gwestiwn safonol newydd am unigolion â phroblemau iechyd. Mae'r gyfres hon felly ond yn cynnwys data o 2013-14.  

Mae’r bwlch yn y gyfradd cyflogaeth rhwng pobl anabl a phobl nad ydynt yn anabl ar y cyfan wedi gostwng ers 2014 er y gwelwyd cynnydd bach yn 2020-21.

Mae’r gyfradd diweithdra ymhlith pobl anabl yng Nghmru wedi bod yn gyson uwch na’r gyfradd ar gyfer pobl nad ydynt yn anabl ond mae’r gyfradd ymhlith pobl anabl weedi bod yn gostwng ar y cyfan.

Cyflogaeth

Yn gyffredinol, mae'r bwlch yn y gyfradd cyflogaeth rhwng pobl anabl a phobl nad ydynt yn anabl wedi gostwng yng Nghymru ac yn y DU ers 2013-2014, er bod y cwymp wedi bod yn gynt yn y DU. Cyn effaith y pandemig yn 2019-20, roedd y bwlch cyflogaeth yng Nghymru ar ei isaf ers 2013-14.

Image
Mae'r siart linell yn dangos bod y bwlch  cyflogaeth yn ôl anabledd wedi bod yn lleihau yng Nghymru a'r DU.  Ond mae'r bwlch wedi tyfu yng Nghymru ers 2020.  Hefyd, mae gan Gymru fwlch cyflogaeth yn ôl anabledd gyson fwy na'r DU.

Mae dangosyddion y farchnad lafur yn awgrymu bod y pandemig wedi cael mwy o effaith ar bobl anabl yng Nghymru nag ar bobl nad ydynt yn anabl. Mae’r gyfradd cyflogaeth ymhlith pobl anabl wedi gostwng 2.7 pwynt canran yn y flwyddyn ddiwethaf o'i chymharu ag 1.6 pwynt canran o ostyngiad ymhlith pobl nad ydynt yn anabl.

Yn 2020-21, 46.7% oedd y gyfradd cyflogaeth ymhlith pobl anabl yng Nghymru a 79.6% oedd y gyfradd ymhlith pobl nad ydynt yn anabl. Mae'r bwlch cyflogaeth o 32.9 pwynt canran yn 2020-21, wedi gostwng o'i gymharu â 5 mlynedd yn ôl pan roedd yn 35.5 pwynt canran. Fodd bynnag, cynyddodd y bwlch hwn 1.1 pwynt canran o'i chymharu â 2019-20.

Roedd y bwlch cyflogaeth ymhlith pobl anabl yn y DU lawer yn llai nag yng Nghymru yn 2020-21, sef 27.9 pwynt canran. Roedd hyn i lawr 0.2 pwynt canran dros y flwyddyn ac i lawr 4.2 pwynt canran o'i gymharu â 5 mlynedd yn ôl.

Diweithdra

Mae'r gyfradd diweithdra ymhlith pobl anabl yng Nghymru wedi bod yn gyson uwch na'r gyfradd ymhlith pobl nad ydynt yn anabl ers 2013-14 ond mae'r gyfradd yn gyffredinol wedi bod yn gostwng. Mae'r gyfradd diweithdra ymhlith pobl anabl yng Nghymru wedi bod yn gyson uwch na chyfres y DU ers 2014-15. Yn 2019-20, sy’n cynnwys ychydig wythnosau cyntaf y pandemig, cyrhaeddodd y gyfradd diweithdra ymhlith pobl anabl yng Nghymru 7.5%, ei hisaf yn y gyfres o bob cyfnod Ebrill i Fawrth.

Mae'r gyfradd diweithdra ymhlith pobl nad ydynt yn anabl yng Nghymru wedi gostwng yn raddol ers 2013-14 cyn gostwng i’r isaf yn y gyfres yn 2019-20, cyn i bandemig y coronafeirws daro. Mae'r gyfres yng Nghymru’n dilyn cyfres y DU yn agos.

Image
Mae'r siart linell yn dangos bod y gyfradd diweithdra ymhlith pobl anabl wedi gostwng ar y cyfan ers 2014 ond cynyddodd yn 2021 yng Nghymru a'r DU. Mae'r gyfradd ymhlith pobl nad ydynt yn anabl wedi bod yn gymharol sefydlog yng Nghymru ond gan gynyddu yn y DU ers 2020.

Mae'r data ar gyfer 2020-21 yn awgrymu bod y pandemig wedi effeithio'n fwy negyddol ar bobl anabl nag ar bobl nad ydynt yn anabl. Y gyfradd diweithdra ymhlith pobl anabl oedd 8.7%, i fyny 1.2 pwynt canran dros y flwyddyn. Roedd y gyfradd ymhlith pobl nad ydynt yn anabl wedi codi 0.1 pwynt canran dros y flwyddyn i 3.2%.

Anweithgarwch economaidd

Mae'r gyfradd anweithgarwch economaidd ymhlith pobl anabl yng Nghymru wedi gostwng ychydig ers dechrau’r gyfres yn 2013-14 gan gyrraedd ei hisaf yn 2019-20 cyn pandemig y coronafeirws. Fodd bynnag, mae cyfradd Cymru’n parhau'n gyson uwch na chyfradd y DU gydol y gyfres.

O'i chymharu, mae'r gyfradd ymhlith pobl nad ydynt yn anabl yng Nghymru a'r DU wedi aros yn gymharol sefydlog ers dechrau’r gyfres yn 2013-14.

Image
Mae'r siart linell yn dangos bod y gyfradd anweithgarwch economaidd ymhlith pobl anabl wedi gostwng ers 2014 ond gan gynyddu ychydig yn 2021 yng Nghymru a'r DU. Mae'r gyfradd ymhlith pobl nad ydynt yn anabl yr un peth yn fras ers 2014, gyda chynnydd bach yng Nghymru yn 2021.

Yn 2020-21, cynyddodd y gyfradd anweithgarwch economaidd ymhlith pobl anabl yng Nghymru 2.2 pwynt canran dros y flwyddyn i 48.8%. Roedd hyn yn dal yn is na'r gyfradd ar ddechrau'r gyfres. Mae hyn yn cymharu â chynnydd o 1.5 pwynt canran dros y flwyddyn hyd at 2020-21 i 17.8% ymhlith pobl nad ydynt yn anabl.

Crefydd a rhyw

Cynhwyswyd dadansoddiad ad hoc o'r gyfradd cyflogaeth yn ôl statws priodasol a rhyw yn Llesiant Cymru: 2021 a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar 21 Medi 2021. Rydym wrthi’n datblygu ein setiau data marchnad lafur ar StatsCymru i gynnwys dadansoddiadau yn ôl crefydd. Bydd hyn yn cynnwys diweithdra ac anweithgarwch economaidd lle medrir.

Nodwch drwy'r adran hon, mae "Unrhyw grefydd arall" yn cynnwys pobl sy’n eu hystyried eu hunain yn Fwdhaid, Hindwaid, Iddewon, Sikhiaid ac Unrhyw Grefydd arall.

Yn 2020-21, y rhai oedd â’r gyfradd cyflogaeth uchaf yng Nghymru gyda 72.8% oedd y rheini oedd yn eu hystyried eu hunain heb grefydd. Yn dilyn yr oedd y bobl a oedd yn eu hystyried eu hunain yn Gristnogion (pob enwad) yng Nghymru ar 72.6%.  Roedd y gyfradd cyflogaeth ar ei hisaf ymhlith y rhai a oedd yn eu hystyried eu hunain yn Unrhyw Grefydd Arall (gan gynnwys Bwdhaid, Hindwaid, Iddewon, Sikhiaid ac Unrhyw Grefydd arall) ar 59.3%.

Gan edrych yn benodol ar fenywod yn 2020-21, roedd patrwm eu cyfraddau cyflogaeth yn debyg i bawb arall. Y grŵp heb grefydd oedd yr uchaf ar 71.2% ac yna’r rheini a ddywedodd eu bod yn Gristnogion ar 71.0%. Y gyfradd isaf ymhlith menywod oedd y rheini oedd yn eu hystyried eu hunain yn Unrhyw Grefydd Arall ar 56.7%. Ar draws pob statws crefyddol, roedd y cyfraddau cyflogaeth ymhlith menywod yn gyson is na'r gyfradd ar gyfer pawb. Y gwahaniaeth mwyaf oedd ymhlith y rheini sy’n eu hystyried eu hunain yn Fwslimiaid lle'r oedd cyfradd cyflogaeth pawb yn 61.3%, ond yn 37.9% ymhlith menywod.

Fodd bynnag, mae dynion yn dangos stori wahanol gyda'r gyfradd gyflogaeth uchaf ymhlith y dynion a oedd yn eu hystyried eu hunain yn Fwslimiaid ar 78.4% (17.1 pwynt canran yn uwch na chyfradd cyflogaeth pawb). Yna roedd y bobl a oedd yn eu hystyried eu hunain yn Gristnogion ar 74.7% a heb grefydd ar 74.2%. Y rheini â’r gyfradd cyflogaeth isaf, fel yn achos menywod a phawb, oedd y rheini a ddywedodd eu bod yn Unrhyw Grefydd Arall ar 62.4%. Yn wahanol i fenywod, roedd dynion ar draws pob grŵp crefyddol â chyfradd cyflogaeth uwch na'r boblogaeth gyfan.

Statws priodasol a rhyw

Cynhwyswyd dadansoddiad ad hoc o'r gyfradd cyflogaeth yn ôl statws priodasol a rhyw yn Llesiant Cymru: 2021 a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar 21 Medi 2021. Rydym wrthi’n datblygu ein setiau data marchnad lafur ar StatsCymru i gynnwys dadansoddiadau yn ôl crefydd. Bydd hyn yn cynnwys diweithdra ac anweithgarwch economaidd lle medrir.

Yn 2020-21, o’r boblogaeth gyfan, y rhai oedd â’r gyfradd cyflogaeth uchaf yng Nghymru gydag 80.3% oedd y rheini sy’n briod neu mewn Partneriaeth Sifil. Yn dilyn ar 72.0% yr oedd y bobl a oedd wedi cael ysgariad, wedi gwahanu neu wedi diddymu’u Partneriaeth Sifil.  Roedd y gyfradd gyflogaeth ar ei hisaf ymhlith y gweddwon ar 51.8%. 

Gan edrych yn benodol ar fenywod, roedd patrwm eu cyfraddau cyflogaeth yn debyg i bawb arall. Y grŵp pobl briod neu mewn Partneriaeth Sifil oedd yr uchaf ar 75.0% ac yna ar 71.8% yr oedd y bobl a oedd wedi cael ysgariad, wedi gwahanu neu wedi diddymu’u Partneriaeth Sifil.  Y gyfradd isaf ymhlith menywod oedd gweddwon ar 4.9.1%.

 Ar draws pob statws priodasol ac eithrio pob sengl, erioed wedi priodi, a gweddwon, roedd y gyfradd cyflogaeth ymhlith menywod yn gyson is na'r gyfradd ar gyfer pawb. Ceir y gwahaniaeth mwyaf ymhlith pobl briod neu sydd mewn Partneriaeth Sifil lle mae cyfradd cyflogaeth menywod 5.3 pwynt canran yn is na'r boblogaeth gyfan o’u cymharu â dynion sydd 5.4 pwynt canran yn uwch.  Ar gyfer pobl sengl ac erioed wedi priodi, roedd y gyfradd gyflogaeth ychydig yn uwch ymhlith menywod na'r boblogaeth gyfan (65.8% ymhlith menywod o'i chymharu â 65.2% ar gyfer pawb). Ymhlith menywod sy'n weddwon, roedd y gyfradd gyflogaeth yn is na'r boblogaeth gyfan (49.1% ymhlith menywod o'i chymharu â 51.8% ar gyfer y boblogaeth gyfan).

Mae dynion yn dangos stori wahanol gyda'r gyfradd cyflogaeth uchaf ymhlith y dynion a oedd yn briod neu mewn Partneriaeth Sifil ar 85.7%. Yna roedd y bobl a oedd wedi ysgaru, wedi gwahanu neu wedi diddymu’u Partneriaeth Sifil ar 72.3%. Y rheini â’r gyfradd cyflogaeth isaf oedd gweddwon ar 57.1%. Fodd bynnag, roedd hyn 5.3 pwynt canran yn uwch na'r boblogaeth gyfan ac 8.0 pwynt canran yn uwch na menywod. Roedd y gyfradd cyflogaeth yn uwch ymhlith dynion ym mhob statws priodasol o’u cymharu â’r boblogaeth gyfan ar wahân i ddynion oedd yn sengl, erioed wedi priodi lle'r oedd ychydig yn is (0.5 pwynt canran).

Nodweddion gwarchodedig eraill

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn cynnwys mwy o grwpiau gwarchodedig na'r rhai a nodir yn y bwletin hwn. Rydym yn gweithio gyda darparwyr data i geisio cynnwys dadansoddiad o fwy o nodweddion gwarchodedig (er enghraifft, hunaniaeth rywiol) mewn cyhoeddiadau yn y dyfodol.

Geirfa

Diffiniadau’r farchnad lafur

Cyflogaeth

Pobl 16 i 64 oed a wnaeth o leiaf awr o waith cyflogedig yn yr wythnos gyfeirio (boed fel cyflogai neu hunangyflogedig); pobl a oedd â swydd â thâl yr oeddent i ffwrdd ohoni dros dro; pobl ar raglenni gweithwyr a hyfforddi o dan nawdd y llywodraeth a'r rhai sy'n gwneud gwaith teuluol di-dâl.

Y gyfradd cyflogaeth yw cyfran y bobl rhwng 16 a 64 oed sydd mewn gwaith.

Pwysig: Mae'r ffigurau ar gyfer cyflogaeth yn cynnwys cyflogeion sydd ar ffyrlo.

Diweithdra

Mae pobl ddi-waith yn bobl heb swydd, sydd wedi bod yn chwilio am waith yn y pedair wythnos diwethaf ac sydd ar gael i ddechrau gweithio yn y pythefnos nesaf; neu sydd heb waith, wedi dod o hyd i swydd ac sy’n aros i'w dechrau yn y pythefnos nesaf. Dyma'r diffiniad y cytunwyd arno'n rhyngwladol ac a argymhellir gan y Sefydliad Llafur Rhyngwladol (ILO), un o asiantaethau'r Cenhedloedd Unedig.

Cyfrifir y brif gyfradd diweithdra drwy rannu lefel y diweithdra ymhlith y rhai 16 oed a throsodd â chyfanswm y bobl economaidd weithgar 16 oed a throsodd.

Anweithgarwch economaidd

Pobl economaidd anweithgar yw'r rhai sydd heb swydd ac nad ydynt wedi bod yn chwilio am waith yn y pedair wythnos diwethaf, a/neu nad ydynt ar gael i ddechrau gweithio yn y pythefnos nesaf.

Cyfrifir y brif gyfradd anweithgarwch drwy rannu lefel yr anweithgarwch ymhlith y rhai rhwng 16 a 64 oed â’r boblogaeth yn y grŵp oedran hwnnw.

Rhesymau dros anweithgarwch economaidd

Y categorïau yn y mesur hwn yw Myfyriwr, Gofalu am Deulu, Salwch Hirdymor, Salwch Dros Dro, Wedi Digalonni, Wedi Ymddeol, ac Arall. Rhoddir y rhain fel cyfran o’r bobl economaidd anweithgar.

Diffiniadau o grwpiau gwarchodedig

Grŵp ethnig gwyn

Mae'r grŵp ethnig Gwyn yn cynnwys ymatebwyr yng Nghymru, Lloegr a'r Alban sy’n eu hystyried eu hunain yn bobl 'Wyn -Sipsiwn neu Deithwyr Gwyddelig' ac ymatebwyr yn yr Alban sy’n eu hystyried eu hunain yn 'Wyn -Pwyliaid'.

Pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol

Mae grŵp cyfunol pobl ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn cynnwys pobl yn y grwpiau ethnig Cymysg/Lluosog, Indiaidd, Pacistanaidd, Bangladeshaidd, Tsieineaidd, Unrhyw gefndir Asiaidd arall, Du, Affricanaidd, Caribïaidd, Du Prydeinig, a grŵp ethnig Arall. Mae'r grŵp ethnig Arall yn cynnwys ymatebwyr yng Ngogledd Iwerddon sy’n eu hystyried eu hunain yn 'Deithwyr Gwyddelig' ac ymatebwyr ym mhob gwlad yn y DU sy’n eu hystyried eu hunain yn 'Arabiaid’.

Du, Affricanaidd, Caribïaidd a Du Prydeinig

Mae hwn yn is-grŵp o’r Bobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol ac mae'n cynnwys ymatebwyr sy'n eu hystyried eu hunain yn Ddu, Affricanaidd, Caribïaidd a Du Prydeinig.

Asiaidd

Mae hwn yn is-grŵp o’r Bobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol ac mae'n cynnwys ymatebwyr sy'n eu hystyried eu hunain yn Indiaidd, Pacistanaidd, Bangladeshaidd, Tsieineaidd ac Unrhyw gefndir Asiaidd arall.

Grwpiau ethnig cymysg neu luosog

Is-grŵp o’r grŵp Pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yw hwn ac mae'n cynnwys ymatebwyr sy’n eu hystyried eu hunain yn ethnig cymysg neu luosog.

Grŵp ethnig arall

Mae hwn yn is-grŵp o’r Bobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol ac mae'n cynnwys ymatebwyr yng Ngogledd Iwerddon sy'n eu hystyried eu hunain yn  'Deithwyr Gwyddelig' ac ymatebwyr ym mhob gwlad yn y DU sy’n eu hystyried eu hunain yn 'Arabiaid’.

Anabl

Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn y diffiniad cymdeithasol o anabledd, lle cydnabyddir bod rhwystrau mewn cymdeithas yn analluogi pobl sydd â namau neu gyflyrau iechyd neu sy'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain.

Mae’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth, sef ffynhonnell yr wybodaeth yn y datganiad hwn, yn casglu data gan ddefnyddio’r diffiniad meddygol o anabledd a ddefnyddir yn Neddf Cydraddoldeb 2010 (“amhariad corfforol neu feddyliol sy’n cael effaith sylweddol a thymor hir ar allu person i gynnal gweithgareddau cyffredin pob dydd”)

Ddim yn anabl

Mae hyn yn cyfeirio at ymatebwyr nad ydynt wedi dweud bod ganddynt diffiniad meddygol o anabledd a ddefnyddir yn Neddf Cydraddoldeb 2010 (“amhariad corfforol neu feddyliol sy’n cael effaith sylweddol a thymor hir ar allu person i gynnal gweithgareddau cyffredin pob dydd”)

Crefydd

Mae'r dadansoddiad o grefydd yn y datganiad hwn yn cyfeirio at Gristnogion (pob enwad), Mwslimiaid, Unrhyw grefydd arall a Dim crefydd. Rhoddwyd yr opsiwn hefyd i'r ymatebwyr beidio ag ateb y cwestiwn.

Mae "unrhyw grefydd arall" yn cynnwys pobl sy’n eu hystyried eu hunain yn Fwdhaid, Hindwaid, Iddewon, Sikhiaid ac Unrhyw Grefydd arall.

Statws priodasol

Mae'r dadansoddiad o statws priodasol yn y datganiad hwn yn cyfeirio at Bobl Sengl, pobl sydd erioed wedi priodi; pobl sy’n briod neu mewn Partneriaeth Sifil; pobl sydd wedi ysgaru, wedi gwahanu neu wedi diddymu’u Partneriaeth Sifil; a Gweddwon.

Mae "priod neu mewn Partneriaeth Sifil" yn cyfeirio at bobl sy'n briod, yn byw gyda gŵr/gwraig neu sy'n bartner sifil mewn Partneriaeth Sifil a gydnabyddir yn gyfreithlon.

Cyfeiria " Wedi ysgaru, wedi gwahanu neu wedi diddymu’u Partneriaeth Sifil" at bobl sy'n Briod, sydd wedi gwahanu oddi wrth ŵr/gwraig; Wedi ysgaru; Mewn Partneriaeth Sifil a gydnabyddir yn gyfreithlon ac sydd wedi gwahanu oddi wrth bartner sifil; a Chyn bartneriaid sifil, gan fod y Bartneriaeth Sifil bellach wedi'i diddymu'n gyfreithlon.

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Perthnasedd

Defnyddir yr Arolwg o'r Llafurlu (LFS) a'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth (APS) i fesur y farchnad lafur yng Nghymru. Mae'r APS yn cyfuno samplau manylach yr LFS. Mae'n darparu data am y farchnad lafur fesul pedwar chwarter treigl ar gyfer gwledydd a rhanbarthau'r DU a hefyd ar gyfer ardaloedd lleol. Yng Nghymru, mae'r APS yn cynnwys sampl o ryw 18,000 o aelwydydd bob blwyddyn. Mae sampl mwy yr APS yn caniatáu amcangyfrifon ar lefel awdurdod lleol ac ar gyfer is-grwpiau o'r boblogaeth.

Mae'r datganiad hwn yn rhoi gwybodaeth fanylach am y bobl sydd â nodweddion gwarchodedig ym marchnad lafur Cymru. Mae'r data a gyflwynir yn y bwletin hwn ar gael ar StatsCymru, Nomis ac fel cyhoeddiadau ad hoc. 

Mae'r bwletin ystadegol hwn yn debygol o gael ei ddefnyddio gan sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus, busnesau, y byd academaidd ac unigolion preifat i nodi'r tueddiadau allweddol i Gymru ym mhrif ystadegau'r farchnad lafur yn ôl nodweddion gwarchodedig. Mae ein hymgynghoriad defnyddwyr 2012 yn rhoi mwy o wybodaeth ynghylch sut mae’n hallbynnau yn cael eu defnyddio. 

Yr LFS yw prif ffynhonnell prif ddangosyddion y farchnad lafur o hyd ar lefel Cymru, ac mae'r data'n cael eu diweddaru'n fisol. Cyhoeddir y data diweddaraf yr LFS gan Lywodraeth Cymru bob mis yn y datganiad Trosolwg o'r Farchnad Lafur. Mae’r APS yn caniatáu gwybodaeth fanylach am ardaloedd a grwpiau llai yng Nghymru gydag Ystadegau'r farchnad lafur (Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth) yn cael eu cyhoeddi bob chwarter. Mae'r datganiad hwn yn defnyddio data’r APS i ddarparu gwybodaeth fanylach am y farchnad lafur yng Nghymru yn ôl nodweddion gwarchodedig. 

Defnyddir yr ystadegau yn y datganiad hwn gan Lywodraeth Cymru i fonitro prif ystadegau marchnad lafur Cymru yn ôl nodweddion gwarchodedig yn ogystal ag i ddarparu cymariaethau â marchnad lafur y DU. Defnyddir y datganiad hwn hefyd i fonitro cynnydd yn erbyn rhai o'r targedau yng Nghynllun Cyflogadwyedd Llywodraeth Cymru. Mae'r datganiad yn ategu dangosfwrdd Economi Cymru mewn Rhifau, sy'n rhoi darlun bras o economi a marchnad lafur Cymru. 

Cywirdeb

Mae'r data a gyflwynir yn y datganiad hwn yn seiliedig ar arolygon sampl, felly mae'n destun amrywioldeb samplu. Mae hyn yn golygu bod gwir werth unrhyw ddata yn gorwedd o fewn ystod wahanol o bob tu’r gwerth sy’n cael ei amcangyfrif. Mae'r ystod hon neu’r ‘amrywioldeb samplu’ yn cynyddu wrth i fanylder y data gynyddu, er enghraifft mae mwy o amrywioldeb yn y data am grwpiau bach nag sydd am grwpiau mwy. 

Ceir amcangyfrifon o gyflogaeth, diweithdra ac anweithgarwch economaidd o'r Arolwg o'r Llafurlu (LFS) a'r APS. Mae'r datganiad hwn yn cyflwyno amcangyfrifon gan yr APS. Mae amcangyfrifon o'r LFS yn seiliedig ar chwarteri treigl ac yn cael eu diweddaru'n fisol. Mae meintiau samplau’r LFS yn rhy fach i gynhyrchu amcangyfrifon dibynadwy ar gyfer llawer o grwpiau a chanddynt statws gwarchodedig megis grwpiau ethnig a statws anabledd.

Mae amcangyfrifon o'r APS yn seiliedig ar ddeuddeg mis treigl, sy’n cael eu diweddaru bob chwarter. Mae'r APS yn defnyddio sampl mwy na'r LFS felly fe'i defnyddir i gynhyrchu amcangyfrifon ar gyfer ardaloedd ac is-grwpiau o'r boblogaeth yng Nghymru. Ar lefel Cymru, mae'r APS yn fesur ychydig yn fwy cadarn na'r LFS, ond mae'n llai amserol ac mae’n addasu’n arafach i newidiadau yn y farchnad lafur. 

Cyd-destun Ehangach

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015 yn ymwneud â gwella lles cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae'r Ddeddf yn rhoi saith nod llesiant ar waith i Gymru, gan gynnwys Cymru fwy llewyrchus. Mae'r dangosyddion cenedlaethol yn cynnwys dangosydd ar:

  • (21) canran y bobl mewn gwaith

Rydym yn adrodd ar yr holl ddangosyddion cenedlaethol drwy adroddiad bynyddol Llesiant Cymru a chrynodebau data dangosyddion cenedlaethol unigol.

Ym mis Rhagfyr 2021, cyhoeddwyd y set gyntaf o Gerrig Milltir Cenedlaethol. Mae'r cerrig milltir cenedlaethol yn gyfres o fesuriadau ar sail y dangosyddion cenedlaethol sy'n nodi disgwyliadau Llywodraeth Cymru o'r hyn y dylai'r dangosyddion ei ddangos yn y dyfodol. Mae'r cerrig milltir yn cynnwys:

  • dileu'r bwlch rhwng cyfraddau cyflogaeth Cymru a'r DU erbyn 2050, gan ganolbwyntio ar waith teg a chynyddu cyfranogiad grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol yn y farchnad lafur

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Vanessa Allis
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.economi@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SB 40/2021