Chyrchfannau dysgwyr ar gyfer sefydliadau addysg bellach a chweched dosbarth ysgolion ay gyfer Awst 2017 i Orffennaf 2019.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Mesurau perfformiad cyson ar gyfer dysgu ôl-16 (cyrchfannau dysgwyr)
Mae'r adroddiad hwn yn edrych ar gyrchfannau dysgwyr ôl-16 (hynny yw, yr hyn y mae dysgwyr yn ei wneud ar ôl iddynt gwblhau eu rhaglen ddysgu), gan gynnwys y dysgwyr hynny sy'n ymgymryd â dysgu seiliedig ar waith.
Prif bwyntiau
O’r 117,635 o ddysgwyr a gwblhaodd raglen ddysgu yn 2018/19:
- roedd gan 83% gyrchfan barhaus yn 2019/20 i naill ai cyflogaeth neu ddysgu, sydd 1 pwynt canran yn is na dysgwyr 2017/18
- roedd 59% mewn cyflogaeth barhaus, a 46% yn dysgu’n barhaus
O'r 115,800 o ddysgwyr a gwblhaodd raglen ddysgu yn 2017/18:
- roedd gan 85% gyrchfan barhaus yn 2018/19 i naill ai cyflogaeth neu ddysgu, sydd yn uwch na’r tair blynedd flaenorol
- roedd 61% mewn cyflogaeth barhaus, ac roedd 48% yn dysgu’n barhaus
Gwybodaeth bellach
Mae'n rhan o gyfres o dri mesur perfformiad cyson a ddatblygwyd ar gyfer addysg ôl-16. Mae adroddiad ar wahân yn rhoi gwybodaeth am gyflawniad dysgwyr, ond mae’r cyhoeddiad hwnnw wedi'i ohirio dros dro oherwydd materion sy'n gysylltiedig â threfniadau arholi ac asesu yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19). Data arbrofol yw’r rhain ac fe fyddwn yn ymgynghori ymhellach gyda darparwyr dysgu ynghylch y fethodoleg.
Adroddiadau
Mesurau perfformiad cyson ar gyfer dysgu ôl-16 cyrchfannau dysgwyr, Awst 2017 i Orffennaf 2019 (ystadegau arbrofol) , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 701 KB
Data
Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol
Mesurau perfformiad cyson ar gyfer dysgu ôl-16 cyrchfannau dysgwyr, Awst 2017 i Orffennaf 2019 (ystadegau arbrofol) , Saesneg yn unig, math o ffeil: ODS, maint ffeil: 33 KB
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.addysgol16@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.