Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg
Mae'r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i ystyried diwygio'r diwrnod ysgol a dyddiadau'r flwyddyn ysgol er mwyn cefnogi llesiant dysgwyr a staff, mynd i'r afael ag anghydraddoldeb addysgol a sicrhau eu bod yn cyd-fynd yn well â phatrymau bywyd teuluol a chyflogaeth.
Fel rhan o'r gwaith hwn, bydd hyd at 14 o ysgolion yn cymryd rhan mewn cynllun treialu cenedlaethol drwy ddarparu oriau ychwanegol i ddysgwyr. Cynhelir y cynllun yn ystod y flwyddyn academaidd hon, a bydd yn para am 10 wythnos. Mae'r ysgolion hyn wedi gwirfoddoli i gymryd rhan yn y cynllun, gan gefnogi dysgwyr difreintiedig a sicrhau bod modd iddynt fanteisio ar gyfalaf cymdeithasol a diwylliannol, yn ogystal â helpu i fynd i'r afael ag effeithiau pandemig COVID-19 ar ddysgu. Rwy'n rhyddhau hyd at £2m i gefnogi'r cynllun treialu hwn. Cynhelir y gwaith ar y cyd â Grŵp Senedd Plaid Cymru fel rhan o'r Cytundeb Cydweithredu rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru.
Bydd yr ysgolion cynradd ac uwchradd sy'n treialu'r amser ychwanegol hwn yn darparu pum awr ychwanegol o weithgareddau pwrpasol bob wythnos i grwpiau o ddysgwyr, gan gynnig sesiynau celf, cerddoriaeth a chwaraeon er enghraifft, yn ogystal â sesiynau academaidd craidd.
Mae modelau rhyngwladol a chynigion a wnaed gan y Sefydliad Polisi Addysg wedi llywio'r dull gweithredu hwn. Rydyn ni'n gwybod y gall cyrhaeddiad dysgwyr a'u llesiant, yn ogystal â'u cydberthnasau ehangach, wella os cânt eu cefnogi i fanteisio ar amrywiaeth ehangach o weithgareddau, gan gynnwys celf a chwaraeon, yn ogystal â gweithgareddau cymdeithasol a rhaglenni academaidd.
Bydd pob ysgol sy’n rhan o’r treial yn penderfynu ar yr hyn a gaiff ei ddarparu yn ystod y cyfnod treialu, a fydd yn dechrau yn ystod tymor y gwanwyn. Bydd rhaid angen ystyried anghenion lleol ac fydd y cyllid a roddir yn sicrhau y bydd modd i ysgolion benderfynu a ydynt am gael partneriaid allanol i redeg y sesiynau, neu a fydd modd iddynt addasu gweithgareddau sydd eisoes ar waith, megis clybiau ar ôl ysgol. Rwy'n awyddus i weld amrywiaeth eang o fodelau y gallwn ni ddysgu oddi wrthynt.
Mae'r cyllid hwn ar ben y pecyn £7.4m Gaeaf Llawn Lles a gynigir i bob ysgol a choleg er mwyn rhoi cyfle iddynt ddarparu rhagor o sesiynau drwy gydol y diwrnod ysgol a'r diwrnod coleg. Nod y pecyn hwn yw hybu llesiant corfforol, meddyliol ac emosiynol dysgwyr drwy sicrhau eu bod yn cael rhagor o gyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithgareddau creadigol a diwylliannol, yn ogystal â chwaraeon a gweithgareddau chwarae drwy gyfnod y Gymraeg a'r Saesneg. Fel rhan o'r cynllun Adnewyddu a Diwygio, y bwriad yw creu amgylchedd gwell ar gyfer dysgu a gwneud cynnydd, a cheisio magu hyder dysgwyr, yn arbennig y dysgwyr hynny y mae'r pandemig wedi effeithio mwyaf arnynt. Bydd y pecyn ehangach hwn hefyd yn rhoi tystiolaeth a gwybodaeth werthfawr inni at ddiben datblygu polisïau yn y dyfodol.
Byddaf hefyd yn datblygu gwaith ar drefn y flwyddyn ysgol. Nid ydym wedi cael sgwrs gall am y ffordd rydym yn trefnu'r flwyddyn ysgol yng Nghymru ers degawdau. Mae hynny'n rhy hir o lawer, yn amlwg, ac mae angen inni ystyried a yw'r drefn bresennol yn dal i gyd-fynd â ffyrdd presennol o fyw, yw'n cefnogi cynnydd ein dysgwyr ac yw'n cefnogi llesiant ein dysgwyr a staff yn y ffordd orau bosibl.
Yn ystod yr wythnosau a'r misoedd i ddod, bydd y Llywodraeth yn arwain trafodaethau â phobl ifanc a'u teuluoedd, y gweithlu addysg, busnesau a chymunedau er mwyn ceisio eu barn ar ddiwygio'r flwyddyn ysgol.