Jeremy Miles, Gweinidog dros Addysg a’r Iaith Gymraeg
Jane Hutt,Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
Rydym yn croesawu adroddiad Estyn ar aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion mewn lleoliadau addysg ac rydym yn diolch i Estyn am adolygu'r mater hwn mewn ffordd mor sensitif, gan alluogi a grymuso pobl ifanc i rannu eu profiadau.
Rydym am ddiolch i’r holl blant a phobl ifanc a gymerodd ran. Rydym yn cydnabod bod angen dewrder aruthrol i fod mor agored. Dim ond drwy sgyrsiau gonest y gallwn fynd i'r afael â'r mater hwn gyda’n gilydd.
Mae'r adroddiad yn anodd ei ddarllen. Mae'n tynnu sylw at y gwirionedd anghyfforddus ynghylch nifer yr achosion o aflonyddu rhywiol gan gyfoedion yn ein hysgolion, gyda phlant yn aml yn dewis rhannu eu profiadau gyda ffrindiau yn hytrach na'u hathrawon. Mae hyn yn arwain at ddiffyg ymwybyddiaeth o wir raddfa aflonyddu rhywiol mewn ysgolion, gan nad yw'n cael ei adrodd.
Roeddem hefyd yn siomedig o glywed bod gan ein disgyblion LHDTC+ brofiadau personol sylweddol o aflonyddu homoffobig ar lafar, ac mai dyma'r math mwyaf cyffredin o aflonyddu mewn llawer o ysgolion. Mae unrhyw fath o fwlio yn gwbl annerbyniol, gan gynnwys aflonyddu a bwlio oherwydd rhywioldeb person neu ei hunaniaeth o ran rhywedd, ac rydym yn parhau i fod wedi ymrwymo i’n cefnogaeth i bobl ifanc LHDTC+.
Rydym eisoes yn ystyried y newidiadau y mae angen i ni eu gwneud i'n canllawiau gwrth-fwlio, Hawliau, Parch, Cydraddoldeb mewn perthynas ag aflonyddu a bwlio hiliol mewn ysgolion, yn unol â'r Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol. Bydd hyn yn cynnwys ffyrdd cadarn a chyson o adrodd, cofnodi a chasglu data am aflonyddu rhywiol gan gyfoedion, yn ogystal ag aflonyddu a bwlio homoffobig.
Mae'r adroddiad yn cydnabod pwysigrwydd Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb, sy'n ofyniad statudol yn Fframwaith Cwricwlwm i Gymru ac yn orfodol i bob dysgwr.
Nod Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb yw helpu dysgwyr i ffurfio a chynnal perthynas o bob math, yn seiliedig ar gyd-ymddiriedaeth a pharch. Mae gan ysgolion a lleoliadau rôl bwysig i'w chwarae o ran creu amgylchedd diogel a grymusol i helpu dysgwyr i fwynhau perthnasoedd boddhaus, iach a diogel drwy gydol eu bywydau.
P'un a yw dysgwyr yn dilyn y cwricwlwm Addysg Bersonol a Chymdeithasol (ABCh) presennol neu p’un a fyddant yn dilyn y cod newydd yn y blynyddoedd i ddod, rydym yn benderfynol y bydd y canllawiau, y cynnig dysgu proffesiynol a'r adnoddau Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb newydd yn cefnogi ymarferwyr sy'n addysgu o dan y ddau. Mae llawer o'r cod a'r canllawiau Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb newydd yn cefnogi ymarferwyr sy'n addysgu ABCh ar hyn o bryd ac mae angen ymgorffori hynny ar draws pob ysgol a chyfnod.
Ond rydyn ni'n gwybod bod angen i ni feddwl yn ehangach na'r diwrnod ysgol. Mae trais yn erbyn menywod a merched yn llawer rhy gyffredin. Mae hon yn broblem gymdeithasol, sy'n gofyn am ymateb cymdeithasol.
Cyhoeddwyd Strategaeth Genedlaethol ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol ar gyfer ymgynghoriad ar 7 Rhagfyr. Mae’r strategaeth yn nodi sut y bydd Llywodraeth Cymru a’i phartneriaid yn cydweithio i godi ymwybyddiaeth plant a phobl ifanc o bwysigrwydd perthnasoedd diogel, cyfartal ac iach a’r ffaith fod ymddygiad camdriniol yn anghywir bob amser.
Mae’r adroddiad hefyd yn cydnabod pa mor gyffredin yw aflonyddu rhywiol gan gyfoedion ar-lein neu y tu allan i'r ysgol, ac nid oes amheuaeth gennym o rôl hanfodol addysg wrth fynd i'r afael â'r ymddygiad hwn. Mae addysgu plant a phobl ifanc am bwysigrwydd ymddygiad ac agweddau parchus yn hanfodol ar-lein.
Mae ein Cynllun Gweithredu Cadernid Digidol mewn Addysg ar gyfer plant a phobl ifanc yn amlinellu nifer o ymrwymiadau rydym wedi'u datblygu hyd yma a'n penderfyniad parhaus i fynd i'r afael ag aflonyddu rhywiol ar-lein.
Mae’n hanfodol cael mynediad at adnoddau a deunyddiau sy'n mynd i'r afael ag aflonyddu rhywiol ar-lein mewn ffordd sensitif, priodol i’r oedran. Dyna pam, wrth weithio gyda Childnet International, rydym wedi cyhoeddi pecynnau cymorth addysgu dwyieithog, Codi Llaw, Codi Llais a Dim ond jôc? Gan ddefnyddio ymchwil ryngwladol, mae'r pecynnau cymorth hyn yn cynnwys cyfres o gynlluniau gwersi a gweithgareddau sy'n helpu i ennyn diddordeb dysgwyr mewn sgwrs a thrafodaeth. Gan gydnabod yr angen i gynnal mwy o drafodaethau am aflonyddu rhywiol ar-lein yn yr ysgol a'r cartref, mae Dim ond jôc? yn cynnwys ffilm a gwybodaeth bwerus i gefnogi rhieni a gofalwyr.
Mae'n hanfodol bod ysgolion yn gallu ymateb i unrhyw adroddiadau yn ystyriol ac yn effeithiol. Dyna pam, ym mis Hydref, y gwnaethom gyhoeddi modiwl hyfforddi newydd ar Hwb i helpu ysgolion a lleoliadau i ddatblygu gweithdrefnau i ymateb i ddigwyddiadau sy'n ymwneud â rhannu delweddau noeth fel rhan o'u trefniadau diogelu. Mae hyn yn ategu ein canllawiau Rhannu delweddau noeth a hanner noeth: Ymateb i ddigwyddiadau a diogelu plant a phobl ifanc.
Mae'n bwysig cydnabod rhywfaint o'r gwaith da sy'n digwydd yn ein hysgolion i ddiogelu ein dysgwyr. Mae'r adroddiad yn nodi sut mae ysgolion effeithiol yn datblygu ac yn cynnal diwylliant diogelu cryf sy'n hyrwyddo parch a phwysigrwydd perthnasoedd iach a chadarnhaol; a sut mae arweinyddiaeth gref a dulliau rhagweithiol yn annog ac yn grymuso disgyblion i ymddiried yn eu hathrawon, sefyll i fyny i'w cyfoedion, ac adrodd ar bob math o aflonyddu rhywiol.
Braf oedd gweld ymateb mor gadarnhaol i waith Rhaglen Ysgolion Heddlu Cymru, gyda'r disgyblion yn dweud cymaint y maent yn gwerthfawrogi'r ddarpariaeth hon. Byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda’r Heddlu a Chomisiynwyr Heddlu a Throseddu Cymru i ddiogelu ein dysgwyr.
Rhaid inni gofio hefyd y dylai plant a phobl ifanc sy'n ymddwyn mewn ffordd sarhaus gael eu hystyried fel plant yn gyntaf, a bod cyfrifoldeb ar oedolion i wneud mwy i ddarparu esiampl o berthynas ddiogel, iach a chyfartal. Mae hyn yn golygu deall yr hyn sydd y tu ôl i'r ymddygiad annerbyniol a darparu cymorth priodol
Gwyddom, drwy addysg, y gall plant a phobl ifanc ddysgu deall pam nad yw rhai ymddygiadau'n dderbyniol, a bod modd eu cefnogi i drin eu cyfoedion â pharch.
Unwaith eto, hoffem ganmol dewrder a gonestrwydd yr holl blant a phobl ifanc a fu mor agored ac a rannodd eu profiadau gydag Estyn fel rhan o'r adolygiad hwn. Rydym yn annog plant a phobl ifanc i roi gwybod i oedolyn y gellir ymddiried ynddo am unrhyw achosion o aflonyddu rhywiol a cham-drin. Mae ein canllawiau Cadw dysgwyr yn ddiogel yn amlinellu'r gweithdrefnau ar gyfer rhoi gwybod am unrhyw bryderon diogelu.
Yn olaf, hoffem orffen drwy eich atgoffa o'r ystod o gefnogaeth sydd ar gael i ddioddefwyr aflonyddu a cham-drin rhywiol. Mae nifer o linellau cymorth a ariennir gan Lywodraeth Cymru eisoes wedi'u sefydlu, yn benodol Childline Cymru, Byw Heb Ofn a'r gwasanaeth MEIC.
Childline Cymru
0800 1111
Byw Heb Ofn
0808 80 10 800
MEIC
0808 80 23 456