Neidio i'r prif gynnwy

Lee Waters, Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Rhagfyr 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn y cyfnod cyn COP26, cyhoeddwyd Cymru Sero Net gennym a oedd yn nodi'r camau y mae angen i ni eu cymryd yng Nghymru i gyrraedd ein hail gyllideb garbon (2021-2025) a gosod y sylfaen ar gyfer lleihau allyriadau yn y tymor hwy wrth i ni ymateb i'r argyfwng hinsawdd a natur. Ailbwysleisiodd Cymru Sero Net ein hymrwymiad i drawsnewid cynhyrchu ynni yn sylweddol gan symud oddi wrth danwydd ffosil i gynhyrchu adnewyddadwy cynaliadwy.

Wrth wneud hynny, rydym yn glir bod yn rhaid inni ddysgu o chwyldroadau diwydiannol blaenorol pan gafodd asedau naturiol Cymru eu defnyddio heb fawr o fudd hirdymor parhaol i'n cymunedau.

Roedd cylch gorchwyl y grŵp archwiliad dwfn yn syml: nodi rhwystrau i gynyddu ynni adnewyddadwy yng Nghymru yn sylweddol a nodi camau i oresgyn y rhwystrau. Buom yn edrych ar gamau tymor byr, canolig a hir, ac wrth wneud hynny byddwn yn canolbwyntio'n benodol ar gadw cyfoeth a pherchnogaeth yng Nghymru.

Arweinyddiaeth strategol

Mae ein gweledigaeth yn glir, rydym am i Gymru gynhyrchu ynni adnewyddadwy i ddiwallu ein hanghenion ynni yn llawn o leiaf a defnyddio cynhyrchu dros ben i fynd i'r afael ag argyfyngau'r hinsawdd a natur. Byddwn yn cyflymu'r camau gweithredu i leihau'r galw am ynni a gwneud y mwyaf o berchnogaeth leol gan gadw manteision economaidd a chymdeithasol yng Nghymru.

Mae Llywodraeth Cymru eisoes yn darparu'r arweinyddiaeth strategol yng Nghymru drwy ein hymrwymiadau yn Cymru Sero Net a'n gwaith ar gynllunio gofynion seilwaith grid ar gyfer Cymru. Rydym yn cydnabod yr angen i ddatblygu atebion ar lefel leol gyda'n cymunedau a'n dinasyddion yng Nghymru. Byddwn yn cynyddu cynlluniau ynni lleol i greu cynllun ynni cenedlaethol erbyn 2024, gan fapio'r galw am ynni yn y dyfodol a'r cyflenwad ar gyfer pob rhan o Gymru. Ochr yn ochr â'r cynllunio hwn, mae angen i ni ddod â dinasyddion gyda ni ac edrych sut y gall newidiadau yn y defnydd o ynni ddod â mwy o hyblygrwydd yn y system ynni. Bydd hyn yn gofyn am gynnwys aelwydydd a busnesau yn y cyfleoedd sylweddol o baru cynhyrchu adnewyddadwy yng Nghymru i ddefnyddio ynni.  Bydd ein cynlluniau ymgysylltu â'r cyhoedd a newid ymddygiad Sero Net Cymru yn helpu dinasyddion i gymryd camau i leihau'r galw, gwella effeithlonrwydd ynni a defnyddio ynni mewn ffordd sy'n cefnogi ein gweledigaeth. Ond bydd hyn yn gofyn am wasanaethau cynghori hawdd eu defnyddio a chadwyn gyflenwi sy'n gweithio i helpu aelwydydd a busnesau i wneud y newidiadau. Rydym am weld hyn a bydd ein strategaeth gwres yn nodi camau gweithredu i gyflawni hyn drwy ein hymgynghoriad Cartrefi Cynnes sydd ar ddod.

Seilwaith grid

Mae consensws mai y rhwystr mawr i gynhyrchu mwy o ynni adnewyddadwy yng Nghymru yw capasiti yn y rhwydweithiau sy'n gyfrifol am gysylltu cartrefi ac adeiladau â thrydan a nwy. Mae hyn yn rhwystr i fuddsoddi sy'n effeithio ar dechnolegau ac ar draws sectorau preifat, cyhoeddus a chymunedol yng Nghymru ar bob graddfa, er ei fod hefyd yn sbarduno arloesedd mewn systemau ynni lleol. Er bod gan gwmnïau y rhwydwaith a'r rheoleiddiwr ynni, Ofgem, gynlluniau ar waith i gyflwyno buddsoddiad yng Nghymru, mewn mecanweithiau hyblygrwydd ac mewn seilwaith newydd, roedd cytundeb bod angen mwy o weithredu i wella tryloywder ar gyfyngiadau a chyfleoedd o fewn y rhwydwaith a dod â mwy o eglurder a sicrwydd ynghylch lle mae angen buddsoddiad strategol yn y rhwydweithiau.

Rydym eisoes wedi ymrwymo i arwain y gwaith o ddatblygu cynllun strategol ar gyfer y grid ynni yn y dyfodol hyd at 2050. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a'r dystiolaeth a gasglwyd ym mhrosiect Grid Ynni'r Dyfodol i ymgysylltu'n rhagweithiol ag Ofgem ar fuddsoddiadau rhwydwaith sy'n cefnogi Cymru ac yn cadw gwerth yma. Gan adeiladu ar y gwaith hwn, byddwn yn gweithio gydag Ofgem i ystyried creu Pensaer System Cymru i oruchwylio buddsoddiad ar y môr ac ar y tir i gefnogi datblygiadau'r Moroedd Celtaidd, cefnogi achosion busnes ar gyfer cynllunio'r system gyfan a dwyn ynghyd gynlluniau ar draws De, Canolbarth a Gogledd Cymru a datblygu cynllun system gyfan manwl ar gyfer rhwydweithiau trosglwyddo a dosbarthu nwy a thrydan.

Cydsynio, trwyddedu a chefnogi trefniadau cynghori

Mae'n amlwg ar draws pob math o dechnoleg, ar dir ac yn y môr, fod angen cymryd camau pellach i wella trefniadau cydsynio, trwyddedu a chynghori statudol yng Nghymru i gyflwyno buddsoddiadau priodol.

Byddwn yn cyflwyno cyfundrefn Caniatâd Seilwaith Cenedlaethol Cymru i sicrhau bod gan Gymru drefniadau cydsynio effeithlon ac effeithiol ar gyfer datblygu adnewyddadwy ar y môr ac ar y tir, yn ogystal â seilwaith arall, yng Nghymru.

Er bod y system gynllunio wedi'i hen sefydlu ar gyfer datblygiadau ar dir yng Nghymru, ac mae tystiolaeth a chamau gweithredu i wella'r system wedi'u cynnwys wrth ddatblygu polisi cenedlaethol a lleol, mae'r system cynllunio morol yn llai datblygedig. Wrth i fwy o brosiectau ynni mawr ar y môr a phrosiectau ynni morol gael eu cyflwyno, mae angen inni sicrhau bod y system cynllunio morol yn addas i'r diben. Er bod gwaith sylweddol wedi'i wneud drwy'r Grŵp Cynghori Strategol Cydsynio (CSAG) a'r Is-grŵp Gwyddoniaeth a Thystiolaeth cysylltiedig (SEAGP) byddwn yn cynnal adolygiad o'r dechrau i'r diwedd o drwyddedu morol a chydsynio i wella'r broses. Bydd yr adolygiad hefyd yn cynnwys y broses o gael trwydded amgylcheddol, gan ganolbwyntio'n benodol ar dechnolegau sy'n datblygu.

Bydd yr adolygiad yn edrych ar yr anghenion o ran adnoddau a'r opsiynau ar gyfer prosesau cydsynio a chynghori er mwyn cadw i fyny â'r twf mewn ynni adnewyddadwy. Hefyd, byddwn yn darparu mwy o gyfeiriad gofodol a blaenoriaethu i gefnogi datblygiad ynni adnewyddadwy morol, drwy nodi meysydd archwilio strategol erbyn 2023 i gyfeirio at feysydd priodol ac amhriodol ar gyfer eu datblygu.  Bydd hyn yn ystyried ein hanghenion ynni ac anghenion ein hecosystemau, amgylchedd ac anghenion defnyddwyr eraill y môr. Mae angen i hyn gefnogi llwybr ar gyfer datblygiadau adnewyddadwy morol, ceisio canlyniadau lle mae pawb ar ei ennill a chefnogi prosiectau i gyfrannu at ganlyniadau cadarnhaol ar gyfer bioamrywiaeth forol.

Cyllid

Mewn llawer o'n trafodaethau, gan gynnwys gyda datblygwyr, rydym yn cydnabod nad oes dim yn digwydd heb ddigon o gyllid a defnyddio arbenigedd manwl ac ystyrir bod y rhain yn ffactorau pwysig wrth gynyddu ynni adnewyddadwy yng Nghymru.  Byddwn yn sefydlu gweithgor i ystyried sut y gall Cymru ddenu buddsoddiad newydd, i gefnogi'r gwaith o gynyddu cynhyrchu ynni adnewyddadwy yng Nghymru. Bydd hyn yn blaenoriaethu camau penodol i ddenu buddsoddiad newydd i gefnogi perchnogaeth y gymuned leol ac i sicrhau'r gwerth economaidd a chymdeithasol mwyaf posibl. Bydd Llywodraeth Cymru yn hwyluso'r gwaith, a fydd yn cynnwys arbenigedd ariannol, ynni adnewyddadwy ac ynni cymunedol.

Ochr yn ochr â'r gwaith i ystyried opsiynau i gyflwyno ffynonellau cyllid newydd, rydym hefyd yn ceisio creu cynghrair gyda Llywodraethau datganoledig i sicrhau bod rowndiau cymhorthdal yn y dyfodol drwy'r Contractau ar gyfer Gwahaniaeth yn adlewyrchu blaenoriaeth datblygu'r gadwyn gyflenwi a sicrhau llwybr datblygu cydlynol a chytbwys ar gyfer technolegau masnachol a thechnolegau sy'n datblygu..

Rydym hefyd yn cydnabod y cyfleoedd i wneud y mwyaf o bŵer prynu'r sector cyhoeddus a byddwn yn adolygu opsiynau ar gyfer sut y gall ein polisïau a'n harferion caffael gyflymu cynhyrchu ynni adnewyddadwy yng Nghymru ac ymgorffori gwerth cymdeithasol.

Cyfleoedd yng Nghymru

Rydym am gael buddsoddiad yng Nghymru i gefnogi swyddi yn y gadwyn gyflenwi a buddsoddi yn ein cymunedau. Er mwyn galluogi hyn, byddwn yn adeiladu ar y cydweithio rhagorol rhwng diwydiant yng Nghymru i uwchsgilio ein gweithlu drwy ddatblygu cynllun gweithredu sgiliau sero net.

Wrth i fwy o brosiectau gael eu datblygu ar y môr rydym yn cydnabod bod ein porthladdoedd yn borth i gadw gwerth yng Nghymru. Gan adeiladu ar y gwaith sydd ar y gweill drwy'r Rhaglen Ynni Morol, byddwn yn gweithio gyda phorthladdoedd yng Nghymru i nodi cyfleoedd ar gyfer arbenigo a chydweithredu i gefnogi buddsoddiadau ynni adnewyddadwy. Byddwn hefyd yn gweithio gyda Llywodraeth y DU, ochr yn ochr ag Ystâd y Goron fel perchennog tir allweddol, i gefnogi buddsoddiad strategol mewn porthladdoedd yng Nghymru.

Ochr yn ochr â sector diwydiannol ffyniannus, mae gan Gymru sector ynni cymunedol trawiadol hefyd. Rydym wedi ymrwymo i ehangu cynhyrchu ynni adnewyddadwy gan gyrff cyhoeddus a mentrau cymunedol yng Nghymru dros 100 MW rhwng 2021 a 2026 wrth i ni geisio cyrraedd ein targed tymor hwy o 1 GW o gapasiti cynhyrchu ynni adnewyddadwy i fod yn eiddo lleol erbyn 2030.

Rydym am fynd ymhellach, ac yn ogystal â'r gweithgor a sefydlwyd i edrych ar sut y gallwn ddod â chyllid cost is a modelau ariannu newydd i gefnogi cynhyrchu adnewyddadwy yng Nghymru, byddwn yn cynnwys mentrau cymunedol wrth ddatblygu a dylunio Gwasanaeth Ynni newydd Llywodraeth Cymru yn y dyfodol gan gynnwys sut y byddwn yn darparu adnoddau ar gyfer y sector.

Yn olaf, wrth inni edrych tua'r dyfodol, rydym yn cydnabod y rôl y bydd arloesi'n parhau i'w chwarae wrth hyrwyddo technolegau adnewyddadwy newydd ac atebion clyfar i reoli'r galw mewn ffordd hyblyg. Rhaid inni barhau i gefnogi arloesedd yng Nghymru, gan ganolbwyntio ar ein cryfderau a gweithredu i fynd i'r afael â heriau penodol lle bydd arloesedd yn helpu i ddarparu atebion.

Rydym yn cydnabod bod angen gwthio'r ffiniau a phrofi'r hyn sy'n bosibl gyda mwy o hyblygrwydd o amgylch ein fframweithiau rheoleiddio. Rydym am weithio gydag Ofgem i dreialu dulliau rheoleiddio sy'n fwy addas ar gyfer cyflawni'r system ynni fwy hyblyg a lleol y mae angen i ni ei greu.

Yr wyf yn hynod ddiolchgar i aelodau'r grŵp archwiliad dwfn, y cyfranogwyr yn y tair trafodaeth bord gron a'r mewnbwn o gyflwyniadau unigol.

Gwaith ymchwil manwl ynni adnewyddadwy: argymhellion