Daeth yr ymgynghoriad i ben 19 Medi 2018.
Adolygu ymatebion
Mae ymatebion i'r ymgynghoriad hwn yn cael ei adolygu ar hyn o bryd. Bydd manylion am y canlyniad yn cael eu cyhoeddi yma maes o law.
Ymgynghoriad gwreiddiol
Rydym am glywed eich barn am y disgrifiadau sy'n cael eu defnyddio wrth labelu diodydd alcohol isel.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Rydym yn ymgynghori ynghylch y canlynol:
- a ddylid disodli'r rheoliadau presennol â chanllawiau
- a ddylai alcohol yn ôl cyfaint (ABV) diodydd alcohol isel fod yn llai na 1.2%
- a ddylid newid y disgrifyddion presennol 'heb alcohol’ (alcohol free), ‘dialcohol’ (non-alcoholic) a 'wedi ei ddadalcoholeiddio’ (dealcoholised)
- a ddylid cyflwyno disgrifydd ychwanegol ar gyfer diodydd alcoholaidd sydd ag ABV uwch na 1.2%.
Dogfennau ymgynghori
Dogfen ymgynghori , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 385 KB
PDF
385 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.