Heddiw (7 Rhagfyr), bydd y Gweinidog Iechyd yn cadarnhau bod pob oedolyn cymwys yn mynd i gael cynnig brechiad atgyfnerthu COVID-19 erbyn diwedd mis Ionawr.
Mae Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru eisoes wedi dechrau cynyddu gweithgarwch y rhaglen brechiadau atgyfnerthu ac, ar hyn o bryd, mae'n rhoi mwy na 19,000 o frechiadau y dydd.
Ein nod dros yr wythnosau sydd i ddod yw rhoi mwy na 200,000 o frechiadau yr wythnos.
Bydd y byrddau iechyd yn gwneud hyn drwy ddarparu mwy o ganolfannau brechu mewn lleoliadau sy’n hawdd eu cyrraedd, gan gynnwys clinigau brechu galw i mewn a thrwy ffenestr y car gydag oriau agor hirach.
Bydd meddygon teulu a fferyllfeydd cymunedol yn parhau i roi brechiadau a bydd llywodraeth leol, gwasanaethau tân a myfyrwyr yn darparu cymorth o fath arall i glinigau. Rydym hefyd wedi gofyn am gymorth oddi wrth y lluoedd arfog.
Yfory (8 Rhagfyr), byddwn yn nodi blwyddyn ers i'r brechiad COVID-19 cyntaf gael ei roi yng Nghymru.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, fel rhan o’r rhaglen frechu, defnyddiwyd:
- 58 o ganolfannau brechu a 46 o ysbytai
- mwy na 400 o fferyllfeydd a meddygon teulu
- 92 o staff milwrol
- 96 o unedau brechu symudol
- 5 miliwn o frechlynnau
Bydd Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd, yn dweud:
"Mae’r hyn sydd wedi’i gyflawni o safbwynt datblygu’r brechlynnau hyn a’u cyflwyno wedi bod yn wirioneddol eithriadol.
"Diolch i ymdrech ar lefel fyd-eang na welwyd ei thebyg o’r blaen, mae gennym sawl brechlyn llwyddiannus, effeithiol a diogel ac rydyn ni wedi cyrraedd y mwyafrif helaeth o'n poblogaeth. Fodd bynnag, mae effaith y brechlynnau yn lleihau dros amser felly mae'n bwysig iawn bod pobl yn dod i gael eu brechiad atgyfnerthu pan fyddant yn cael eu gwahodd er mwyn eu diogelu am gyfnod estynedig. Mae miliynau o bobl wedi cael brechlyn. Mae’r brechlynnau wedi achub bywydau ac maen nhw wedi helpu i atal salwch difrifol mewn degau o filoedd o bobl.
"Rydw i am nodi’n swyddogol pa mor ddiolchgar ydw i am gyfraniad pawb sy'n rhan o'r rhaglen frechu yng Nghymru. Diolch am eu gwaith caled dros y flwyddyn ddiwethaf a diolch iddyn nhw hefyd am eu help dros yr wythnosau sydd i ddod."
Bydd unigolion yn dal i gael eu galw i gael y brechiad yn ôl trefn blaenoriaeth, gan ddibynnu ar eu hoedran a pha mor agored i niwed ydynt.
Ychwanegodd y Gweinidog Iechyd:
"Arhoswch am eich gwahoddiad cyn i chi ddod i gael eich brechiad atgyfnerthu. Rhowch flaenoriaeth i’ch apwyntiad cyn popeth arall i gefnogi'r staff a'r gwirfoddolwyr sy'n gweithio'n galed yn ein canolfannau brechu, gan dreulio ail gyfnod yr ŵyl yn helpu i gadw Cymru'n ddiogel.
"Gyda lefelau uchel o’r amrywiolyn Delta yn y gymuned ac ymddangosiad yr amrywiolyn Omicron, gallwch barhau i amharu ar drosglwyddiad y feirws drwy wisgo gorchudd wyneb mewn mannau cyhoeddus dan do, cael prawf, hunanynysu pan fyddwch wedi cael canlyniad positif a chael eich brechu."
Mae dros 80% o bobl 65 oed a throsodd wedi cael eu brechiad atgyfnerthu. Os ydych dros 65 oed ac nad ydych wedi cael eich brechiad atgyfnerthu hyd yma, cysylltwch â'ch bwrdd iechyd.
Nid yw byth yn rhy hwyr i gael eich brechu, rhowch wybod os hoffech dderbyn eich dos cyntaf.
Os gallwch helpu'r rhaglen frechu ac rydych yn dymuno gwirfoddoli, bydd manylion ar wefan Llywodraeth Cymru ac, ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, ar wefan Addysg a Gwella Iechyd Cymru.