Rydym yn datblygu cynigion ar gyfer cyfleuster profi rheilffyrdd modern yn y De.
Cynnwys
Crynodeb
Statws y prosiect: cynllunio
Rhanbarth/sir: De Cymru
Dyddiad cychwyn: diwedd 2017
Dyddiad cau: 2025
Cost: £400 miliwn (£70 miliwn o gyllid cyhoeddus, gyda £330 miliwn trwy gaffael buddsoddi preifat)
Partneriaid: Cyngor Castell-nedd Port Talbot, cyngor Powys a Llywodraeth y DU.
Beth rydyn ni’n ei wneud
Bydd y Ganolfan Rhagoriaeth Rheilffyrdd Fyd-eang (GCRE) yn dod yn brif ganolfan arloesi rheilffyrdd Ewrop, gan ddarparu ymchwil, profi ac ardystio cerbydau o'r radd flaenaf, seilwaith a thechnolegau rheilffyrdd newydd arloesol.Fe’i lleolir ym mhwll glo wyneb Nant Helen a golchfa glo Onllwyn ym mhen uchaf Cwm Dulais a Thawe.
Bydd y cyfleuster yn cynnwys:
- trac trydan allanol cyflymder uchel (6.9km) i brofi cyflymderau o bosibl hyd at 125mya
- trac trydan mewnol cyflymder isel (4km) i brofi cyflymderau hyd at 40mya
- amgylchedd platfform ddeuol
Bydd y safle yn cynnwys:
- canolfan ymchwil, datblygu, addysg a hyfforddi/cynadledda
- canolfan/swyddfa gweithrediadau a rheoli
- cyfleusterau staff
- storio cerbydau/cilffyrdd
- cyfleuster cynnal a chadw cerbydau
- seilwaith cyfarpar llinellau uwchben 25kv
Bydd y seilwaith yn cynnwys:
- llwybrau mynediad
- maes parcio i staff
- system ddraenio
- goleuadau
- cyfathrebiadau symudol ac ar dir
- teledu cylch cyfyng
- ffensiau perimedr/diogelwch
- uwchraddio cysylltiad ac arwyddion llinell cangen Castell-nedd ac Aberhonddu.
Pam rydym yn ei wneud
Rydym am ddarparu canolfan ragorol ar gyfer profi trenau i farchnad y DU ac Ewrop fydd yn:
- yn darparu cyfleuster arloesi rheilffyrdd unigryw, pwrpasol I’r DU a’r diwydiant rheilffyrdd Ewropeaidd – gweithgynhyrchwyr trenau, cwmnïau’r rhwydwaith, rheolwyr seilwaith a'r gadwyn gyflenwi.
- , yn sicrhau bod gwasanaethau i deithwyr a chludwyr nwyddau yn cael eu datblygu’n gyflym
- yn sicrhau effeithlonrwydd sylweddol o ran costau ar gyfer y diwydiant rheilffyrdd, gan gynnwys cyflawni prosiectau mawr.
- yn ased pwysig i gyflawni datgarboneiddio a thargedau cynaliadwyedd ar y llwybr i sero net
- yn cyflymu prosiectau rheilffyrdd arloesol a dod â chynnyrch i’r farchnad yn gynt.
- yn cynyddu cyfleoedd ar gyfer allforio o Gymru a’r DU
- yn denu rhagor o gyllid Ymchwil a Datblygu i Gymru
- yn darparu swyddi a hyfforddiant o ansawdd uchel yn lleol a rhanbarthol.
- denu buddsoddiad sylweddol o’r sector preifat.
Cynnydd presennol
Crëwyd cwmni newydd ABC, GCRE Ltd, i gyflawni'r prosiect. Mae'r cwmni:
- wedi datblygu cynllun busnes manwl
- yn parhau i wneud gwaith paratoi'r ddaear ar y safle ar gyfer adeiladu.
Bydd y rhain yn llywio ymrwymiadau ariannol y llywodraeth i'r prosiect. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo £50 miliwn a £20 miliwn gan Lywodraeth y DU, gyda £7.4 miliwn arall yn cael ei ddarparu ar gyfer Ymchwil a Datblygu.
Sut ydym yn ymgynghori
Gwnaethom ymgynghori ar gynigion yn haf 2019.
Rydym wedi yn cynnal ymgynghoriad cyn-ymgeisio am gyfnod o 4 wythnos yn hydref 2020.
Yr Amserlen
Ymgynghoriad cyhoeddus: haf 2019 a hydref 2020
Cyflwyno cais cynllunio: gwanwyn 2021
Cymeradwyaeth cynllunio: haf 2021
Gwaith adeiladu i ddechrau: dechrau 2021
Cyfleusterau masnachol cyntaf agor: haf 2023 (cyfleusterau storio ar y safle)
Adeiladu trac i ddechrau: 2024
Yn llwyr weithredol: haf 2025
Y camau nesaf
Mae GCRE wedi dechrau ar gam nesaf y cynlluniau i ddod â buddsoddiad o'r sector preifat i'r cwmni, GCRE Ltd. Mae wedi lansio proses gaffael gyhoeddus yn ffurfiol, gyda chyhoeddi Hysbysiad Contract a Holiadur Dethol yn gwahodd ymgeiswyr i fod yn gymwys ymlaen llaw.
Mae disgwyl i'r broses gaffael gyhoeddus redeg tan hydref 2023. Yn dilyn hyn disgwylir y bydd GCRE Ltd yn dod yn gwmni sy'n eiddo ar y cyfan gan fuddsoddwr(wyr) preifat.