Data misol ar gyflogaeth, diweithdra ac anweithgarwch economaidd.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Trosolwg o'r farchnad lafur
Prif ddangosyddion y farchnad lafur, y 3 mis hyd at fis Tachwedd 2021
Mae’r prif ddangosyddion llafurlu sydd wedi’u hamcangyfrif o’r Arolwg o’r Llafurlu (LFS) yn rhoi arwydd o sut mae’r pandemig coronafeirws (COVID-19) yn effeithio’r llafurlu. Gellir hefyd defnyddio’r ffynonellau data eraill, megis nifer y gweithwyr cyflogedig a gyflwynir yn nes ymlaen yn y pennawd hwn, i roi darlun mwy amserol a chyflawn.
Cyfradd cyflogaeth
![Mae'r gyfradd cyflogaeth yn y DU yn gyffredinol yn uwch nag yng Nghymru dros y 10 blynedd diwethaf.](/sites/default/files/2022-01/cyfradd-cyflogaeth-ionawr-2022_0.png)
Cymru
Roedd y gyfradd gyflogaeth yng Nghymru yn 74.1%. Mae hyn i lawr ychydig dros y chwarter ac i fyny 1.8 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt.
DU
Roedd y gyfradd gyflogaeth ar gyfer y DU yn 75.5%. Mae hyn i fyny 0.2 pwynt canran ers y chwarter blaenorol ac i fyny 0.5 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt.
Cyfradd diweithdra
![Mae'r gyfradd diweithdra wedi gostwng yng Nghymru ac yn y DU dros y 4 blynedd diwethaf. Cynyddodd y gyfradd yn dilyn dechrau'r pandemig coronafeirws, ond mae wedi dechrau gostwng dros yr ychydig fisoedd diwethaf.](/sites/default/files/2022-01/cyfradd-diweithdra-ionawr-2022_0.png)
Cymru
Roedd y gyfradd diweithdra yng Nghymru yn 3.4%, i lawr 0.7 pwynt canran ers y chwarter blaenorol ac i lawr 1.4 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt. Dyma’r gyfradd diweithdra isaf ers Mai i Orffennaf 2020 a’r gostyngiad blynyddol mwyaf ers Gorffennaf i Fedi 2016.
DU
Roedd cyfradd diweithdra’r DU yn 4.1%, i lawr 0.4 pwynt canran ers y chwarter blaenorol ac i lawr 1.0 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt.
Cyfradd anweithgarwch economaidd
![Mae’r gyfradd anweithgarwch economaidd wedi gostwng yn y DU dros y 4 blynedd diwethaf ond mae wedi cynyddu ar y cyfan ers diwedd 2020. Mae'r gyfradd amrywio yng Nghymru.](/sites/default/files/2022-01/cyfradd-anweithgarwch-economaidd-ionawr-2022_0.png)
Cymru
Roedd y gyfradd anweithgarwch economaidd yng Nghymru yn 23.3%. Mae hyn i fyny 0.7 pwynt canran ers y chwarter blaenorol ac i lawr 0.8 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt.
DU
Roedd y gyfradd anweithgarwch economaidd ar gyfer y DU yn 21.3%. Mae hyn i fyny 0.2 pwynt canran ar y chwarter ac i fyny 0.3 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt.
Noder
Mae data’r flwyddyn flaenorol hefyd o fewn cyfnod y pandemig (Medi i Dachwedd 2020).
Enillion misol gweithwyr cyflogedig o Wybodaeth Amser Real Talu wrth Ennill
Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol a Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi yn cyhoeddi data ar gyfer Cymru am weithwyr sydd ar gyflogres, tâl cymedrig, tâl yn ei grynswth ac amcangyfrifon un mis ar gyfer tâl canolrifol.
Gweithwyr cyflogedig
![Mae’r siart yn dangos tuedd gyffredinol ar i fyny o weithwyr cyflogedig dros y blynyddoedd diwethaf ac yna gostyngiad serth o fis Mawrth 2020 tan fis Gorffennaf. Ers diwedd 2020, mae nifer y cyflogeion cyflogedig wedi bod yn cynyddu ar y cyfan.](/sites/default/files/2022-01/cyflogeion-cyflogedig-ionawr-2022_0.png)
Mae nifer y gweithwyr cyflogedig wedi cynyddu ar y cyfan yn y blynyddoedd ddiweddar, ond wedi gostwng yn ystod y pandemig. Dechreuodd nifer y gweithwyr cyflogedig gynyddu eto ar ddiwedd 2020 ac mae bellach yn uwch na’r lefel cyn y pandemig.
Mae amcangyfrifon cynnar ar gyfer Rhagfyr 2021 yn dangos bod nifer y gweithwyr cyflogedig yng Nghymru wedi cynyddu 6,500 (0.5%) dros y mis i 1.29 miliwn. Mae hyn yn uwch na’r amcangyfrifon cyn y pandemig (Chwefror 2020) a chynnydd o 58,300 o gymharu â’r pwynt isaf yn ystod y pandemig ym mis Tachwedd 2020.
Dangosodd amcangyfrifon cynnar ar gyfer Rhagfyr 2021 ar lefel y DU gynnydd misol o 183,700, y cynnydd misol mwyaf er i’r gyfres ddechrau yng Ngorffennaf 2014.
Cyhoeddir dadansoddiadau manwl eraill o weithwyr cyflogedig gan gynnwys yn ôl awdurdod lleol, yn ôl oedran ac yn ôl sector gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Adroddiadau
![](/sites/default/files/styles/file_thumb/public/statistics-and-research-thumbs/Labour_market_overview__January_2022.jpg?itok=3prXR7ZP)
Trosolwg o'r farchnad lafur: Ionawr 2022 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB
Data
Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.economi@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.