Eluned Morgan AS, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Rydym yn cymryd camau brys pellach i ychwanegu pedair gwlad arall yn neheudir Affrica at y rhestr goch ar gyfer teithio wedi i’r amrywiolyn newydd o’r coronafeirws gael ei nodi. Mae’n bosibl y gall yr amrywiolyn hwn osgoi’r amddiffyniad a ddarperir gan frechlynnau.
Mae’r amrywiolyn Omicron (a elwir hefyd yn B.1.1.529) wedi’i gysylltu ag Angola, Malawi, Mozambique a Zambia. Mae’r gwledydd hyn wedi’u hychwanegu at y rhestr goch, a hynny o 4.00am, ddydd Sul, 28 Tachwedd 2021.
Bydd hyn yn golygu na fydd teithwyr o’r lleoedd hyn yn cael dod i mewn i Gymru ond bod rhaid iddynt gyrraedd drwy borth mynediad yn Lloegr neu’r Alban a mynd i gyfleuster cwarantin wedi’i reoli am 10 diwrnod. Rhaid iddynt hefyd gymryd profion PCR ar ôl cyrraedd ar ddiwrnod 2 a diwrnod 8.
Mae camau tebyg yn cael eu cymryd ledled y DU.