Julie Morgan AS, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol
Bob blwyddyn, mae Diwrnod Hawliau Gofalwyr yn gyfle i ddathlu’r rôl mae gofalwyr di-dâl yn ei chwarae wrth ddarparu cefnogaeth hanfodol i’r bobl hynny maent yn gofalu amdanynt, a chefnogi’r system iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Yn ogystal, mae Diwrnod Hawliau Gofalwyr yn gyfle i godi ymwybyddiaeth ynglŷn â’u hawliau.
Gall dod yn ofalwr i ffrind neu berthynas ddigwydd yn raddol dros amser. Gall gofalwyr beidio â rhoi sylw i’w hanghenion eu hunain gan flaenoriaethu’r person maent yn gofalu amdano. Rwy’n awyddus i bawb sydd â chyfrifoldebau gofalu yng Nghymru sylweddoli bod adnabod eu hunain fel gofalwyr yn gallu bod yn gam cyntaf tuag at gael cefnogaeth a chymorth a chefnogaeth gwerthfawr.
Gwnaeth ein hymgyrch hawliau gofalwyr annog pobl sydd â chyfrifoldebau gofalu i gysylltu gyda’u hawdurdodau lleol a chael gwybod pa gefnogaeth sydd ar gael iddynt. Rydym wedi cydweithio â gofalwyr o bob oed ledled Cymru ac mae ein hadborth cychwynnol wedi dangos bod mwy o ofalwyr yn cymryd camau i gael y cymorth mae ganddynt yr hawl iddo.
Mae’r pandemig yn parhau i roi gofalwyr di-dâl yng Nghymru o dan bwysau ac mae nifer angen cefnogaeth ar frys.
Ynghyd â rhai grantiau llai i fudiadau sy’n cefnogi gofalwyr di-dâl, rydym yn sicrhau bod £10m o gyllid ychwanegol ar gael i gefnogi gofalwyr di-dâl yn 2021-22.
Rydym yn sicrhau bod £5.5m o gronfa Cynllun y Gaeaf ar gael i awdurdodau lleol er mwyn cynorthwyo gofalwyr di-dâl i ofalu am eu hiechyd meddwl a’u hiechyd corfforol. Bydd awdurdodau lleol yn defnyddio ystod o ddulliau i ddarparu’r gefnogaeth, gan gynnwys defnyddio taliadau uniongyrchol.
Rydym hefyd wedi dyrannu £3m i awdurdodau lleol i gynyddu’r cyfleoedd i ofalwyr gael seibiant o’u rôl gofalu. Mae ystod o opsiynau newydd ac arloesol yn cael eu datblygu ochr yn ochr â gwasanaethau sy’n fwy traddodiadol megis gwasanaethau seibiant preswyl a chanolfannau dydd. Er enghraifft:
- Mae Cyngor Gwynedd yn sefydlu cynllun ‘seibiantgarwch’ i gynnig gwyliau rhatach i ofalwyr di-dâl. Maent hefyd yn uwchraddio bwthyn seibiant.
- Yn Nhorfaen, mae’r cyllid yn cefnogi clwb bowlio i ofalwyr di-dâl a thripiau undydd.
- Yn Abertawe, mae gwasanaeth seibiant yn y cartref ymateb cyflym yn caniatáu i ofalwyr fynd i apwyntiadau iechyd neu i gael seibiant. Yn ogystal, gall y gwasanaeth hwn roi blas i ofalwyr sy’n ystyried cael cefnogaeth gan eu hawdurdod lleol.
- Yng Nghonwy, mae rhaglen gwnsela chwech wythnos yn cael ei chynnig i ofalwyr sy’n profi straen a gorbryder. Mae’r cyngor hefyd yn prynu eitemau megis dodrefn tu allan, cyfrifiaduron llechen, offer ymarfer corff neu aelodaeth o gampfa i ofalwyr.
- Mae 1,400 o ofalwyr a gofalwyr ifanc yn Sir Fynwy wedi ymgeisio am daleb £10 i’w wario mewn canolfannau garddio, siopau teganau, neu i brynu pizza tecawê neu de prynhawn.
- Mae gofalwyr ifanc yn Ynys Môn yn gallu cael ystod o ddarpariaethau seibiant - mae nifer wedi profi gweithgareddau newydd.
Rydym hefyd wedi dyrannu £1.25m i Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru i ymestyn y Gronfa Cymorth i Ofalwyr i’r flwyddyn ariannol hon. Y flwyddyn diwethaf, cynorthwyodd y gronfa hon bron i 6,500 o ofalwyr di-dâl i ymdopi ag effeithiau ariannol y pandemig.
Rwy’n gwerthfawrogi cefnogaeth gofalwyr di-dâl a’u cynrychiolwyr yn fawr i’n cynorthwyo i ddeall yr heriau maent yn eu hwynebu. Rwyf hefyd yn gwerthfawrogi’r modd maent yn cydweithio â ni i weithredu i wneud gwahaniaeth i’w bywydau.
Mae’r dull hwn o bartneriaeth am barhau, ac wedi’i seilio ar y Strategaeth ar gyfer Gofalwyr Di-dâl, a’r cynllun cyflawni rwy’n ei lansio heddiw.
Gyda’n gilydd, rwy’n hyderus y gallwn godi ymwybyddiaeth a gwella bywydau gofalwyr di-dâl ledled Cymru.