Neidio i'r prif gynnwy

Y cyd-destun

Barn Llywodraeth Cymru yw bod gwasanaethau cyhoeddus da a gwerth am arian i drethdalwyr yn hanfodol. Mae Llywodraeth Cymru o’r farn felly ei bod yn iawn i ystyriaethau yn ymwneud â chydnabyddiaeth ariannol swyddi uwch fod yn dryloyw ac wedi eu seilio ar egwyddorion a ddefnyddir yn yr ystod gyfan o wasanaethau cyhoeddus datganoledig yng Nghymru. Bwriad y ddogfen hon yw nodi’r egwyddorion hynny. Byddwn yn parhau i adolygu’r ddogfen hon wrth i newidiadau mewn deddfwriaeth, polisïau a’r Setliad Datganoli esblygu.

Mae’r Setliad Datganoli a’r trefniadau cyfreithiol, rheoleiddiol a negodi gwahanol sy’n berthnasol ar draws yr ystod gyfan o wasanaethau cyhoeddus datganoledig yng Nghymru yn golygu bod tirlun tâl y sector cyhoeddus yng Nghymru yn gymhleth. Nid bwriad y ddogfen hon yw torri ar draws strwythurau sydd eisoes yn bodoli neu sy’n cael eu datblygu ar gyfer trafodaethau tâl mewn sectorau gwasanaethau cyhoeddus penodol. Mae Llywodraeth Cymru yn glynu at yr egwyddor o bartneriaeth gymdeithasol ac o fargeinio cenedlaethol a lleol ar y cyd, ac mae ganddi wahanol bwerau ar gyfer gwahanol rannau o’r tirlun sector cyhoeddus. Er hynny, mae Llywodraeth Cymru o’r farn ei bod yn iawn iddi nodi ei disgwyliadau gan gyrff cyhoeddus datganoledig yng Nghymru o ran gosod tâl a chyhoeddi Datganiadau Polisi Tâl blynyddol.

Mae’r ddogfen hon yn argymell cyfres gyffredin o egwyddorion a safonau gofynnol y mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i gyrff cyhoeddus datganoledig yng Nghymru eu dilyn. Dylai cyrff cyhoeddus datganoledig barhau i geisio gweithredu yn unol â'r egwyddorion a’r safonau uchaf yn hyn o beth ac ni ddylent geisio defnyddio’r datganiad hwn i gefnogi unrhyw leihau mewn deddfwriaeth neu fecanweithiau cyfredol sy’n gosod gofynion sy'n union yr un fath neu'n uwch ar gyrff cyhoeddus datganoledig penodol.

Egwyddorion

1. Cysondeb

Mae'n rhaid i’r gydnabyddiaeth ariannol fod yn gymesur â chyfrifoldeb a swyddogaeth. Gwerthuso swyddi yn effeithiol yw’r cam cyntaf tuag at hyn. Dylai fod gan gyrff sector cyhoeddus yng Nghymru Ddatganiadau Polisi Tâl sydd ar gael i’r cyhoedd ac yn cwmpasu’r ystod lawn o’u cyflogeion uniongyrchol, ac sy'n egluro unrhyw wahaniaeth yn y dull a gynigir ar gyfer gwahanol grwpiau neu rhwng y rhan fwyaf o gyflogeion a’r staff uwch ac yn esbonio pam mae'r gwahaniaeth hwn yn angenrheidiol.

Mae’r ddogfen hon yn argymell model safonedig o drefniadau adrodd ar gyfer cydnabyddiaeth ariannol swyddi uwch yn y sector cyhoeddus datganoledig yng Nghymru. Bydd gweithredu trefniadau adrodd unffurf yn hwyluso’r prosesau gwneud penderfyniadau corfforaethol, a fydd o ganlyniad yn arwain at fwy o graffu ar wariant cyhoeddus ac yn y pen draw defnydd mwy effeithiol o gronfeydd cyhoeddus.

2. Tryloywder

Y strwythur llywodraethu priodol sy’n atebol am drefniadau tâl cyrff unigol, yn ddarostyngedig i ofynion cyfreithiol neu ariannol cyffredinol a osodir gan Lywodraeth y DU neu Lywodraeth Cymru. Dylai fod yn eglur i gyflogeion, y cyhoedd a’r bobl hynny sy’n gyfrifol am wneud penderfyniadau ynglŷn â thâl, pwy sydd â'r cyfrifoldeb. Dylai’r sail ar gyfer penderfyniadau a wnaed, a pha bryd y caniateir gwyriadau oddi wrth bolisïau cyfredol, fod yn eglur i bawb yn gyfartal. Dylai gwybodaeth briodol fod ar gael i'r rhai sy’n gwneud y penderfyniadau, y rhai sy’n craffu arnynt a’r rhai a effeithir ganddynt, er mwyn iddynt allu seilio eu penderfyniadau arni. Mae’n rhesymol bod y trefniadau cydnabyddiaeth ariannol ar gyfer swyddi uwch yn fwy tryloyw ac yn fwy agored i graffu arnynt nag ar gyfer y niferoedd mwy o swyddi lle y ceir llai o dâl.

3. Mynediad

Mae sicrhau bod penderfyniadau trefniadaethol sy’n ymwneud â chydnabyddiaeth ariannol uwch reolwyr yn y sector cyhoeddus yng Nghymru ar gael yn rhwydd yn gam allweddol tuag at graffu effeithiol ar wariant cyhoeddus. Argymhellir felly bod yr holl gyrff cyhoeddus datganoledig yng Nghymru yn cyhoeddi’r wybodaeth y mae’r ddogfen hon yn mynnu ei bod ar gael, mewn modd eglur a thryloyw, ac mewn un man amlwg sy’n hawdd mynd ato ar eu gwefannau.

Er mwyn sicrhau bod gwybodaeth sy’n ymwneud â chydnabyddiaeth ariannol uwch reolwyr yn y sector cyhoeddus datganoledig yng Nghymru ar gael mor rhwydd â phosibl, yn ogystal â chyhoeddi ei Datganiadau Polisi Tâl ac Adroddiadau Blynyddol ei hun, bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn cyhoeddi dolenni i’r tudalennau datgelu perthnasol ar y brif gofrestr o Gyrff Cyhoeddus datganoledig yng Nghymru ar ei gwefan.

Trefniadau a argymhellir ar gyfer adrodd

Nod y ddogfen hon yw sicrhau bod yr holl gyrff sector cyhoeddus datganoledig yng Nghymru yn cyhoeddi gwybodaeth benodol ynglŷn â chydnabyddiaeth ariannol eu huwch staff mewn modd hygyrch a thryloyw.

Pan fo arferion cyfrifyddu presennol yn gosod gofynion ar gyrff sector cyhoeddus datganoledig penodol yng Nghymru i gyhoeddi gwybodaeth mewn modd tebyg i'r hyn a amlinellir yn y ddogfen hon, bydd yr arferion presennol hynny yn cael blaenoriaeth dros y ddogfen hon. Dylai’r cyrff cyhoeddus sy’n dilyn yr arferion hynny barhau i gydymffurfio â’u trefniadau presennol.

1. Datganiadau Polisi Tâl Blynyddol

Mae’r ddogfen hon yn argymell bod yr holl gyrff sector cyhoeddus datganoledig yng Nghymru yn cyhoeddi Datganiad Polisi Tâl bob blwyddyn mewn man hygyrch ac amlwg ar eu gwefannau. Dylai’r Datganiad Polisi Tâl hwn egluro polisïau’r corff cyhoeddus ei hun tuag at ystod o faterion sy’n ymwneud â thâl a chydnabyddiaeth ariannol ei weithlu, yn enwedig tâl a chydnabyddiaeth ariannol ei swyddi uwch a’r cyflogeion sy’n derbyn y tâl isaf.

Diben y Datganiad Polisi Tâl yw cynyddu atebolrwydd o ran taliadau i uwch gyflogeion yn y sector cyhoeddus trwy alluogi’r cyhoedd i graffu ar y trefniadau, a dylent nodi polisïau’r corff cyhoeddus ynglŷn â thâl a chydnabyddiaeth ariannol ar gyfer swyddi uwch.

Dylai’r Datganiad Polisi Tâl nodi:

  1. y diffiniad o “swyddi uwch” y mae’r corff yn ei ddefnyddio at ddibenion y datganiad polisi tâl, 
  2. y diffiniad o “gyflogeion sy’n derbyn y tâl isaf” y mae’r corff yn ei ddefnyddio at ddibenion y datganiad polisi tâl,
  3. rhesymau'r corff dros ddefnyddio’r diffiniadau hyn, a
  4. y berthynas rhwng cydnabyddiaeth ariannol swyddi uwch a chydnabyddiaeth ariannol y cyflogeion sy’n derbyn y tâl isaf.

Yn y ddogfen hon gallai “swyddi uwch”, o ran corff cyhoeddus datganoledig yng Nghymru, olygu pennaeth gwasanaeth taledig y corff; ei swyddog monitro; prif swyddog statudol; prif swyddog anstatudol, dirprwy prif swyddog, cyfarwyddwr gweithredol, ac uwch reolwr sydd â chyfrifoldeb lefel bwrdd neu nad oes ganddo hynny, sy’n adrodd yn uniongyrchol i bennaeth y corff.

Dylai’r holl gyrff cyhoeddus datganoledig yng Nghymru gynnwys y wybodaeth ganlynol yn eu Datganiadau Polisi Tâl:

  1. tystiolaeth y gellir ei dangos o fforddiadwyedd a gwerth am arian
  2. nifer y swyddi uwch yn y corff â phecyn cydnabyddiaeth ariannol o fwy na £100,000 mewn bandiau o £5,000
  3. dull y corff o reoli talent fewnol
  4. dull y corff o ymdrin â thâl sy’n seiliedig ar berfformiad
  5. dull y corff o ddarparu cymorth i staff sy’n derbyn tâl is
  6. y pwyntiau tâl uchaf ac isaf a osodir gan y corff, a
  7. y polisïau diswyddo y mae’r corff yn eu gweithredu a sut, a dan ba amgylchiadau, y ceir amrywio’r rhain.

2. Adroddiadau Blynyddol

Dylai’r holl gyrff cyhoeddus datganoledig yng Nghymru gydymffurfio ag arferion cyfrifyddu cyfredol a chyhoeddi adroddiad llawn am gydnabyddiaeth ariannol bob blwyddyn. Mae'n rhaid i’r adroddiad hwn nodi’r wybodaeth ganlynol yn llawn ynglŷn â’r holl uwch swyddi ar ffurf sy’n rhwydd ei dehongli:

  1. cyflog
  2. pensiwn
  3. buddion mewn ffyrdd eraill a buddion di-dreth
  4. cyfansoddiad rhyw yr uwch dîm, a
  5. manylion pecynnau diswyddo sydd wedi eu gweithredu yn ystod y flwyddyn adrodd, gan gynnwys achosion busnes cadarn sy’n cyfiawnhau’r trefniadau ymadael ac sy’n cynrychioli gwir werth am arian

Argymhellir bod yr holl gyrff cyhoeddus datganoledig yng Nghymru yn datgelu penderfyniadau eu pwyllgorau cydnabyddiaeth ariannol ynglŷn â chydnabyddiaeth ariannol uwch reolwyr. Hefyd, dylai’r holl gyrff cyhoeddus datganoledig yng Nghymru greu a chyhoeddi Adroddiadau Tâl Cyfartal blynyddol.