Nick Corrigan: Academi Cyfryngau Cymru
Teilyngwr
Mae Nick wedi bod yn arwain gwasanaethau i blant a phobl ifanc ers 30 mlynedd, gan ddefnyddio egwyddorion gwaith ieuenctid i rymuso, addysgu a chefnogi plant a phobl ifanc. Mae wedi bod yn canolbwyntio ar wasanaethau ledled Cymru ers y 21 mlynedd diwethaf. Sefydlodd Nick Academi Cyfryngau Cymru, ac mae wedi bod yn ei harwain dros y 12 mlynedd diwethaf.
Yn anad dim, mae'n gwneud yn siŵr bod arferion gwaith ieuenctid yn parhau'n berthnasol mewn tirwedd sy'n newid o hyd, ac mewn meysydd gwaith nad ydynt bob amser wedi ystyried methodoleg gwaith ieuenctid fel ffordd o weithio. Mae wedi hyrwyddo gwaith ieuenctid ar draws sectorau, gyda chyllidwyr, a thrwy gynnig cannoedd o leoliadau gwaith ieuenctid ar gyfer cyrsiau Ieuenctid a Chymuned a gynhelir mewn prifysgolion ledled Cymru.
Cyn sefydlu Academi Cyfryngau Cymru, bu Nick yn gweithio i Lywodraeth Cymru ar y strategaeth i bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET), gan ystyried y ffordd y gall gwaith ieuenctid gynnig ateb i'r niferoedd cynyddol o bobl ifanc a oedd yn ymddangos yn bobl ifanc NEET. Mae Nick, sy'n weithiwr ieuenctid hyfforddedig, wedi creu nifer o raglenni'n canolbwyntio ar bobl ifanc sydd wedi cael eu rhoi ar waith ledled Cymru, gan fod o fudd i filoedd o blant a phobl ifanc bob mis.
Mae Nick yn frwdfrydig am werth dulliau gwaith ieuenctid, ac mae wedi herio partneriaid statudol yn aml i ailasesu'r hyn y gall methodoleg gwaith ieuenctid ei gynnig a nerth y fethodoleg honno mewn gwahanol gyd-destunau. Cododd yr enghraifft orau o hyn yn ystod y gwaith o greu rhaglenni i ddargyfeirio plant (rhwng 10 a 17 oed) a phobl ifanc (rhwng 18 a 25 oed) oddi wrth y system cyfiawnder troseddol, a arweiniodd at ddargyfeirio tua 15,000 o blant a phobl ifanc, sy'n golygu eu bod wedi osgoi cael cofnod troseddol. Nick a'i dimau fu'n gyfrifol am oruchwylio'r gwaith hwn, sydd wedi cael ei roi ar waith ledled Cymru bellach.
Mae Nick yn gwasanaethu fel darlithydd gwadd mewn tair prifysgol yng Nghymru, gan ddarparu modiwlau ar waith ieuenctid mewn lleoliadau cyfiawnder troseddol, a thrwy hynny eto yn estyn ffiniau gwaith ieuenctid presennol yng Nghymru.
Tynnodd y panel dyfarnu sylw at y ffordd y mae ffocws Nick ar hyrwyddo dull gwaith ieuenctid yn estyn ymhell y tu hwnt i'r sector, a'r ffaith ei fod yn amlwg yn awyddus i sicrhau bod mwy o bobl yn deall y nerth cadarnhaol sydd ynghlwm wrth waith ieuenctid a'r effaith y mae'n ei chael.