Clwb Ieuenctid Symudol Gymraeg: Gwasanaeth Ieuenctid Castell-nedd Port Talbot
Teilyngwr
Cyn pandemig COVID-19 roedd llawer o bobl ifanc yn mynychu'r clwb ieuenctid yng Nghwmllynfell yng Nghastell-nedd Port Talbot. Roedd yn darparu cyfleoedd i bobl ifanc ddatblygu er mwyn cyflawni eu llawn botensial mewn amgylchedd croesawgar, diogel a chefnogol gyda gweithwyr ieuenctid cymwysedig. Pan fu angen i glybiau gau o ganlyniad i'r cyfyngiadau a roddwyd ar waith yn ystod y pandemig, aeth y tîm ati i ymgynghori â phobl ifanc. Un o'r anghenion a nodwyd oedd yr angen am ddarpariaeth well yn Gymraeg. Yn benodol, roedd pobl ifanc sy'n mynd i ysgolion Cymraeg ond nad yw eu rhieni'n siarad Cymraeg gartref yn teimlo eu bod yn colli cyfleoedd i siarad Cymraeg a gwella eu sgiliau sgwrsio. Gwnaeth y broblem waethygu yn ystod y cyfnod clo.
Mewn ymateb i hyn, rhoddodd gwasanaeth ieuenctid Castell-nedd Port Talbot gynllun peilot ar waith, gan gynnig Clwb Ieuenctid Symudol rhithwir, sy'n darparu man cyfle diogel i bobl ifanc feithrin hyder, dysgu sgiliau newydd, cymdeithasu a gwella eu hiechyd meddwl a'u llesiant, yn ogystal â dysgu am ddiwylliant a thraddodiadau Cymru a datblygu sgiliau a/neu ennill cymwysterau newydd drwy raglen llawn gweithgareddau. Bu'r tîm yn cydweithio â Phenaethiaid Ysgol Gyfun Ystalyfera ac Ysgol Bro Dur, yr ysgolion cyfun Cymraeg lleol, gan roi cyfle i weithwyr gweithgareddau'r clwb ieuenctid fynd i'r ysgolion i ddosbarthu gwybodaeth ac adnoddau crefft i'r bobl ifanc sy'n mynychu'r clwb yn ystod y tymor.
Dywedodd Erin Sandison, Maer Ieuenctid Castell-nedd Port Talbot, bod hyn yn gyfle gwych i bobl ifanc ddefnyddio a meithrin eu sgiliau Cymraeg yn ei barn hi, gan ychwanegu ei bod yn hapus bod pobl ifanc yn manteisio ar gyfleoedd fel hyn i gadw'r Gymraeg yn mynd i genhedloedd y dyfodol.
Gwnaeth y panel dyfarnu ganmol tîm Gwasanaeth Ieuenctid Castell-nedd Port Talbot am y ffordd roedd yn gweld her y pandemig yn gyfle i newid a datblygu, gan dynnu sylw at y ffordd roedd y tîm yn gweithio gydag ysgolion, sy'n cynnig sail ragorol ar gyfer datblygu'r Gymraeg mewn gwaith ieuenctid.