Emma Clarke: Canolfan Gofalwyr Abertawe
Teilyngwr
Mae gwaith Emma yn gwirfoddoli gyda Phrosiect Gofalwyr sy'n Oedolion Ifanc yng Nghanolfan Gofalwyr Abertawe wedi bod yn rhagorol yn gyson. Drwy gydol y pandemig mae wedi mynd ymhell y tu hwnt i'r disgwyl er mwyn helpu staff i ddarparu gwasanaeth hollbwysig i Ofalwyr sy'n Oedolion Ifanc yn ardal Abertawe.
Roedd Emma yn gallu gweld y risg i iechyd meddwl gofalwyr sy'n oedolion ifanc a allai godi yn sgil yr angen i hunanynysu er mwyn dilyn canllawiau cadw pellter cymdeithasol. Chwaraeodd ran hanfodol yn y gwaith o gynllunio a hwyluso sesiynau rhithwir, gan ddarparu cymorth hollbwysig i bobl ifanc drwy ei gwaith fel gwirfoddolwr yn ystod y cyfnod hwn. Bu hefyd yn gyfrifol am lunio llyfryn i'w gynnwys yn y pecynnau llesiant i helpu gofalwyr sy'n oedolion ifanc.
Yn ogystal â chefnogi Prosiect Gofalwyr sy'n Oedolion Ifanc, cymaint yw ymroddiad Emma at faterion iechyd meddwl pobl ifanc, nododd fwlch yn y ddarpariaeth iechyd meddwl leol i bobl ifanc. Gwnaeth gais am gyllid yn ei hamser sbâr a llwyddodd i ddechrau ei phrosiect ei hun, sef "Reshape Youth Mental Health". Aeth Emma ati i redeg sesiynau grŵp un i un i bobl ifanc, gan gynnwys gofalwyr sy'n oedolion ifanc, gan ganolbwyntio ar ffitrwydd fel ffordd o wella iechyd meddwl. Bu'n parhau â hyn drwy gydol y pandemig, gan roi gobaith i rai o'r gofalwyr sy'n oedolion ifanc a fynychodd y sesiynau yn ystod cyfnodau anodd.
Eglurodd un o'r gofalwyr sy'n oedolyn ifanc fod y sesiynau wedi rhoi cyfle iddo gael amser i ffwrdd o'i rôl ofalu, a bod hynny wedi cael effaith gadarnhaol iawn ar ei lesiant a'i iechyd meddwl. Dywedodd fod Emma yno bob amser i ofalwr siarad â hi am unrhyw bryderon neu os byddant am gael sgwrs.
Roedd y panel dyfarnu o'r farn bod Emma yn wirfoddolwr gwych ac yn esiampl ragorol i ofalwyr sy'n oedolion ifanc, gan nodi'r ffordd y mae'n helpu i rymuso oedolion ifanc a'u cefnogi drwy roi iddynt yr adnoddau sydd eu hangen arnynt er mwyn deall ac atgyfnerthu eu hiechyd meddwl.