'POINT ar Stepen eich Drws', Ymddiriedolaeth Pobl Ifanc Abergwaun ac Wdig
Teilyngwr
Datblygwyd 'POINT ar Stepen eich Drws' ym mis Mai 2020 gan weithwyr ieuenctid yn ystod anterth y pandemig fel modd o gadw mewn cysylltiad â phobl ifanc gan alw heibio am sgwrs wyneb-yn-wyneb mewn modd a oedd yn cydymffurfio â rheolau Covid19 ar stepen eu drws. Roedd hyn yn fodd o ddarparu cefnogaeth i les pobl ifanc a hefyd o annog pobl ifanc i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau.
Hysbysebwyd y cynllun i ysgolion lleol a'r Gwasanaeth Ieuenctid statudol a atgyfeiriodd pobl ifanc yr oedd ganddynt bryderon yn eu cylch, yn aml oherwydd eu lleoliad ynysig. Yna gellid trefnu ymweliadau lles ac ystod eang o wasanaethau cymorth.
Mae POINT yn falch iawn o sut y llwyddodd y tîm i addasu ei wasanaethau trwy gydol y cyfnod cloi yn ystod 2020, gan esblygu wrth i anghenion pobl ifanc newid. Gweithiodd staff yn ddi-baid i addasu gwasanaethau, mewn ymgynghoriad â phobl ifanc a gyda gwasanaethau statudol, i allu parhau i gysylltu ac estyn allan i bobl ifanc.
Bu'r panel beirniadu dynnu sylw at hyd a lled addasiad, penderfyniad ac angerdd y tîm i esblygu’n barhaus a dod o hyd i ffordd ymlaen er budd pobl ifanc - tîm a ddarparodd gwasanaeth rhagorol gan fynd ymhell y tu hwnt i alw'r rôl o ddydd i ddydd.