Prosiect Canolfan Gwobr Agored: Dan Rogers a Sarann West, Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid Sir Gaerfyrddin
Teilyngwr
Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid Sir Gaerfyrddin (CYSS) yw'r mudiad trwyddedig ar gyfer gweithgareddau Dug Caeredin (DoE) yn Sir Gaerfyrddin, lle mae ysgolion yn cynnig y wobr. Mae gan CYSS Weithwyr Ieuenctid yn yr Ysgol ym mhob ysgol uwchradd, gan gynnwys Heol Goffa. Ysgol i bobl ifanc ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) a'r rheini ag anableddau corfforol a meddyliol amrywiol yw Heol Goffa. Yn draddodiadol, mae'r bobl ifanc wedi gallu cyrchu cyfleoedd Dug Caeredin Efydd yn unig drwy'r ysgol. Trwy weithio mewn partneriaeth a chefnogaeth barhaus CYSS, llwyddodd Heol Goffa i ymestyn ei gynnig i gynnwys gwobrau Arian ac Aur. Agorodd y Prosiect Canolfan Gwobr Agored, dan arweiniad gweithwyr ieuenctid, y drysau i staff yr ysgol, pobl ifanc a gweithwyr ieuenctid allu archwilio, cymryd rhan ac ehangu profiadau mewn perthynas â'r wobr a darparodd llu o brofiadau personol, cymdeithasol ac addysgol ychwanegol a chyfleoedd i'r bobl ifanc, yn eu cymunedau lleol ac ymhellach i ffwrdd.
Mae'r prosiect wedi cael gwared ar y rhwystrau sy'n wynebu pobl ifanc ag ADY ac anableddau corfforol/meddyliol rhag cyrchu cyfleoedd i gwblhau eu dyfarniad Dug Caeredin ar bob lefel ar yr un lefel â'u cyfoedion.
Bu'r panel beirniadu nodi sut mae ethos y prosiect hwn wedi llwyddo i ymgorffori egwyddorion, dibenion ac ymagweddau gwaith ieuenctid ochr yn ochr â fframwaith addysgol lleoliad ysgol ffurfiol. Fe'i hystyrir yn enghraifft wirioneddol wych o waith ieuenctid sy'n sicrhau bod cyfleoedd i bobl ifanc yn hygyrch ac yn gynhwysol.