Prosiect Cardiau Post a Phodlediadau: Ieuenctid Tanyard
Enillydd
Mae Cardiau Post a Phodlediadau yn brosiect arloesol sy'n darparu hyfforddiant mewn technolegau digidol i bobl ifanc ac yn eu cysylltu â'u cymuned a'u treftadaeth yn Sir Benfro. Mae'r bobl ifanc yn defnyddio eu hyfforddiant i helpu perchnogion a rheolwyr busnesau treftadaeth i fanteisio ar bopeth sydd orau am farchnata digidol modern.
Mae'r prosiect yn darparu sgiliau, gwybodaeth, mentora a phrofiad gwaith i bobl ifanc - ac maen nhw'n defnyddio'r sgiliau maen nhw'n eu datblygu i ddefnyddio cyfryngau digidol i hyrwyddo treftadaeth adeiledig, ddiwylliannol a naturiol gyfoethog, amrywiol Sir Benfro i gynulleidfa fyd-eang. Nod y prosiect yn y pen draw yw ysgogi twristiaeth a chreu swyddi lleol, cynaliadwy i bobl ifanc.
Mae hwn yn brosiect cyfryngau digidol gwych sy'n cysylltu cenedlaethau, yn cryfhau'r cysylltiadau rhwng grwpiau treftadaeth a phobl ifanc, yn rhoi portffolio o sgiliau digidol a phrofiad gwaith i bobl ifanc ar gyfer eu dyfodol ac yn hyrwyddo ac yn amddiffyn ein treftadaeth ar yr un pryd. Yn 2020, er gwaethaf yr aflonyddwch a achoswyd gan y pandemig o fis Mawrth ymlaen, bu pobl ifanc prosiect Cardiau Post a Phodlediadau ddylunio a chynhyrchu saith podlediad rhagorol, teithiau treftadaeth a fideos byr sydd i'w gweld ar eu tudalen Facebook neu sianel YouTube.
Bu'r effaith amlwg y mae'r prosiect hwn wedi'i chael ar bobl ifanc a'u cymunedau lleol greu argraff fawr ar y panel beirniadu, gan ganmol ei ddull o ddefnyddio sgiliau digidol i fynd i'r afael â materion twristiaeth, diwylliannol a threftadaeth. Mae'r prosiect yn gyffrous, yn berthnasol ac yn tynnu sylw at fanteision ymagwedd hir dymor sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau.