Zoe Curry Aelod Staff Etholedig
Ymunodd Zoe ag Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) fel un o'r Prentisiaid Digidol cyntaf yn 2019. Cafodd ei dyrchafu'n Ddatblygwr Meddalwedd Iau ar ôl cwblhau ei phrentisiaeth yn llwyddiannus.
Cyn hynny, bu Zoe yn astudio ffotograffiaeth ym Mhrifysgol Swydd Gaerloyw. Ers ymuno ag ACC, mae hi wedi bod yn astudio ar gyfer gradd cyfrifiadureg gan ysgrifennu traethawd hir ei blwyddyn olaf ar hygyrchedd y we.
Zoe sy'n gyfrifol am ddatblygu'r gyfrifiannell Treth Trafodiadau Tir sy'n cael ei defnyddio gan filoedd o gwsmeriaid bob mis. Mae Zoe hefyd wedi datblygu gwiriwr cyfraddau treth a chyfrifiannell rhyddhad anheddau lluosog ar gyfer ACC.
Ym mis Hydref 2018, cafodd Zoe ei henwebu gan ei chydweithwyr i fod yn aelod staff etholedig ar fwrdd ACC. Dyma rôl gyntaf Zoe fel aelod o fwrdd. Mae'n edrych ymlaen at gael llais mewn penderfyniadau strategol er mwyn helpu i lywio ACC wrth iddo esblygu.
Mae Zoe yn angerddol am godio diogel a chystadlodd yn Nhwrnament Secure Code Warrior y 4 Cenedl ym mis Hydref 2022. Roedd hi'n un o'r cystadleuwyr gorau o Gymru. Yna cafodd wahoddiad i gystadlu yn y rownd derfynol genedlaethol lle daeth yn 3ydd yn y DU.